Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori’r gymuned wledig i sicrhau bod mesurau diogelwch yn eu lle i ddiogelu beiciau cwad ac offer fferm arall, mewn ymateb i lif o ladradau.
Cafwyd dros 60 o adroddiadau am feiciau cwad wedi’u dwyn ar draws yr llu yn 2024.
Mae ffermwyr a pherchnogion eraill beiciau cwad yn cael eu hatgoffa i fod yn wyliadwrus o gerbydau amheus a phobl yn eu cymuned ac i riportio unrhyw bryderon i’r heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi caffael 150 Pecyn Gwledig SelectaDNA i gefnogi eu hymdrechion i frwydro yn erbyn troseddau gwledig. Bydd y pecynnau marcio offer hyn yn cael eu defnyddio i gynnig gwasanaethau marcio eiddo am ddim i ffermwyr, gan eu helpu i ddiogelu eu hoffer a'u peiriannau gwerthfawr.
Yn ogystal â marcio eiddo, bydd ein swyddogion Tîm Troseddau Gwledig, sydd hefyd yn Gynghorwyr Tactegol Atal Troseddu (CPTAC) cymwys, yn ymweld â ffermydd i gynnal archwiliadau atal trosedd cynhwysfawr. Bwriad yr archwiliadau hyn yw sicrhau bod gan ffermydd y mesurau diogelwch gorau yn eu lle i atal gweithgarwch troseddol a diogelu eu bywoliaeth.
Mae Pecynnau Gwledig SelectaDNA yn defnyddio datrysiad DNA unigryw y gellir ei rhoi ar offer, cerbydau, peiriannau ac asedau gwerthfawr eraill. Mae'r marcio hwn bron yn anweledig ond gellir ei ganfod o dan olau UV, gan ddarparu cyswllt diamheuol rhwng eiddo wedi'i ddwyn a'i berchennog haeddiannol. Mae hyn wedi profi i fod yn ataliad pwerus yn erbyn lladrad ac yn arf amhrisiadwy wrth adennill eitemau sydd wedi'u dwyn.
Mae cymunedau gwledig yn aml yn cael eu targedu gan droseddwyr oherwydd eu lleoliadau anghysbell a gwerth uchel offer ffermio. Trwy gynnig ymweliadau marcio eiddo ac atal troseddu am ddim, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio grymuso ffermwyr gydag offer a chyngor effeithiol i ddiogelu eu hasedau a lleihau’r risg o droseddu.
💬 Meddai’r Rhingyll Paul Roberts o’n Tîm Troseddau Gwledig: “Gofynnaf i ffermwyr lleol a pherchnogion beiciau cwad eraill gymryd camau priodol i leihau’r cyfleoedd o’r lladradau hyn. Mae hyn yn cynnwys tynnu allweddi all ar ôl eu defnyddio a chloi ysguboriau neu adeiladau allanol lle bynnag y cedwir yr offer.
“Rwy’n ymwybodol bod lladradau beiciau cwad a pheiriannau ffermio yn amharu ar waith ffermwyr, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol, a hoffwn sicrhau’r cyhoedd rydym yn ymchwilio’n drylwyr i’r materion hyn.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n byw mewn cymunedau gwledig i fod yn wyliadwrus o’r math hwn o ladrad, ac i riportio unrhyw gerbydau neu ymddygiad amheus i’r heddlu naill ai ar-lein, drwy e-bostio [email protected], neu drwy ffonio 101. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu ewch i Crimestoppers-uk.org.”
Bydd y Tîm Troseddau Gwledig yn mynychu marts ar draws y llu, lle gall aelodau o'r gymuned ddod ag eitemau fel offer, peiriannau a beiciau i'w marcio.
Gall ffermwyr hefyd drefnu ymweliad gan ein Tîm Troseddau Gwledig i farcio offer a chynnal archwiliad diogelwch trwy e-bostio [email protected]