Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu’n cyflwyno hyfforddiant bregusrwydd wedi’i deilwra mewn colegau a phrifysgolion wrth iddynt anelu i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o drais rhywiol ar nosweithiau mas.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datblygu rhaglen waith sy’n canolbwyntio’n benodol ar fyfyrwyr 16 – 23 oed, gan gydnabod mai’r grŵp hwn sy’n cael ei effeithio fwyaf gan drais ar sail rhyw yn yr economi nos.
Gan gyflwyno dau linyn, mae’r rhaglen yn gweithio gyda staff gwasanaethau myfyrwyr ac athrawon, yn ogystal â myfyrwyr eu hunain, gan gyflenwi sesiynau codi ymwybyddiaeth, gweithdai a hyfforddiant.
Y nod o weithio gyda staff ac athrawon yw sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth ddyfnach o ba ymddygiadau allai nodi perygl posibl o gyflawni, yn ogystal â bod yn barod i ymdrin â datgeliadau trais rhywiol gan eu myfyrwyr.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Chris Neve, arweinydd atal Heddlu Dyfed-Powys, “Fel rhan o’n gwaith atal, rydyn ni wedi nodi grŵp o bobl – sef myfyrwyr coleg a phrifysgol – sydd fwyaf mewn perygl o drais ac aflonyddu rhywiol ar noson mas. Yn seiliedig ar hyn, rydyn ni wedi datblygu pecyn gwaith sy’n ceisio rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fyfyrwyr a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw i gadw eu hunain yn ddiogel.
“Ein nod yw helpu pobl ifainc drwy roi’r wybodaeth, hyder a sgiliau iddynt adnabod ac ymateb i wahaniaethu, trais ac aflonyddu rhywiol, yn ogystal â gweithio’n ehangach gyda’n partneriaid mewn addysg i roi arfau a gwybodaeth i athrawon a staff cymorth sydd â chysylltiad agos â nhw.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben ac yn cydnabod bod angen i’r gymuned gyfan gydweithio er mwyn gwneud hyn. Mae’r prosiect hwn yn rhan o strategaeth ehangach gydag ymgysylltiad yn pontio cenedlaethau o blant ysgol i swyddogion heddlu, staff heddlu a’n partneriaid.”
Hyd yn hyn, mae dros 600 o fyfyrwyr wedi mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiadau ymwybyddiaeth, a chafwyd adborth cadarnhaol sy’n dangos perthnasedd a dyfnder y wybodaeth sy’n cael ei thrafod. Mae staff wedi sôn am fwy o hyder o gwmpas beth i’w wneud pe bai myfyriwr yn datgelu digwyddiad, tra bod myfyrwyr yn teimlo bod cyngor ynghylch cadw golwg am droseddwyr posibl yn fuddiol.
Mae’r rhaglen hefyd wedi cyflenwi cyfres o weithdai blacmel rhywiol, gan godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw trosedd, sut i adrodd amdano, a ble i ddod o hyd i gymorth.
Mae digwyddiadau hyfforddi ar-lein pellach wedi’u trefnu yn awr, a fydd yn trafod ymdrin â datgeliadau’n fanylach, ynghyd ag arweiniad ar aros yn ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, “Mae mor bwysig ein bod ni’n rhoi gwybodaeth allweddol i bobl ifainc a staff addysgol mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau ledled Dyfed-Powys.
“Mae’n rhaid inni gyd chwarae ein rhan er mwyn i newid ddigwydd.”
Mae rhaglen Heddlu Dyfed-Powys ar beidio â chadw’n dawel yn cael ei hariannu ar y cyd gan gronfa Strydoedd Mwy Diogel 5 y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar newid agweddau ac ymddygiad er mwyn gwella dealltwriaeth a hyder. Y mae wedi’i hanelu at gefnogi ein hymrwymiad i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben a chreu mannau diogel yn ein cymunedau.
Mae mentrau eraill sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd yn cynnwys hyfforddiant bregusrwydd ac ymwybyddiaeth drwy berfformiad mewn addysg wedi’i anelu at blant 14 – 16 oed a staff mewn ysgolion; hyfforddiant Cynghreiriaid Dynion ar gyfer swyddogion heddlu, staff heddlu a phartneriaid; ac ymgyrch gyfathrebu i’r gymuned gyfan sy’n canolbwyntio ar ymddygiad annerbyniol ac yn codi ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.