Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Aberdaugleddau wedi’i garcharu am 20 mlynedd ar ôl cyfaddef i droseddau hanesyddol yn erbyn plant dros gyfnod o 42 mlynedd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe sut yr oedd Alan Roberts wedi cyflawni 23 trosedd yn erbyn merched ifainc rhwng 1976 a 2018, gyda phob un o’i chwe dioddefydd yn credu eu bod nhw ar ben eu hunain o ran dioddef ei gam-drin.
Plediodd y dyn 74 oed o Heol Picton, Hakin, yn euog i 17 achos o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 14 oed, pedwar achos o ymosodiad anweddus difrifol ar ferch o dan 14 oed, a dau achos o ymosod ar ferch o dan 14 oed drwy gyffwrdd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Paul Kelly, un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd troseddu’r diffynnydd dros gyfnod o 42 mlynedd, sy’n gyfnod o gam-drin arswydus, ymestynnol, ac mae ei ddedfryd o 20 mlynedd yn adlewyrchu hyn.
“Hoffwn ddiolch i’r chwe dioddefydd dewr iawn yn yr achos hwn. Mae pob un ohonynt wedi dangos cryfder cymeriad aruthrol, i ddechrau drwy adrodd am y cam-drin, a hefyd wrth weithio gyda ni drwy gydol yr ymchwiliad.
“Mae’r achos hwn yn atgoffa pobl y gellir cyflwyno cyfiawnder flynyddoedd lawer ar ôl i’r cam-drin ddigwydd.
“Rwy’n gobeithio bod y dioddefwyr a’r teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan weithredoedd Alan Robert yn gallu ceisio symud ymlaen â’u bywydau nawr, a bod ei ddedfryd yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt.”