Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Menyw’n cael ei chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio.
Cyhuddwyd Nerys Bethan Lloyd, 39 oed, o Aberafan, o bedwar achos o ddynladdiad esgeuluster difrifol ac un trosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn dilyn digwyddiad ar yr Afon Cleddau yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, 30 Hydref, 2021. Arweiniodd y digwyddiad at farwolaeth Paul O’Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley ac roedd 4 o oroeswyr eraill.
Bydd Lloyd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 3 Rhagfyr 2024.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Cameron Ritchie, yr uwch swyddog ymchwilio, “Yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth, yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae Nerys Lloyd heddiw wedi ei chyhuddo o 4 achos o ddynladdiad esgeuluster difrifol ac 1 achos dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Mae teuluoedd y rhai hynny a fu farw a’r rhai hynny a oroesodd y digwyddiad i gyd wedi cael gwybod. Gan fod achosion troseddol nawr wedi cychwyn mae’n bwysig nad oes unrhyw riportio, sylwebaeth na phostio ar-lein a allai niweidio’r achos hwn.”