Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi canmol dewrder a chryfder dynes yr ymosodwyd arni gan ddieithryn yn ei chartref ei hun wrth i ddyn gael ei garcharu am 20 mlynedd.
Dioddefodd y dioddefydd, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, anafiadau corfforol sylweddol yn ystod yr ymosodiad, ac mae hi nawr yn ceisio byw gydag effaith emosiynol a seicolegol parhaus y digwyddiad.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi rhoi teyrnged i aelod o’r teulu a gyrhaeddodd adref yn ystod yr ymosodiad a dioddef anafiadau pan ymyrrodd.
Yr wythnos hon, clywodd Llys y Goron Abertawe bod swyddogion wedi’u galw i gyfeiriad yn Wdig ychydig cyn 10.30y.h. ar 24 Mai 2024. Dywedodd y galwr, a oedd yn perthyn i’r dioddefydd, ei bod hi’n goch gan waed, a bod y drwgdybyn yn ceisio dianc o’r tŷ.
Aeth swyddogion yno yn syth a chanfod y dioddefydd yn y tŷ gydag anafiadau amlwg i’w hwyneb.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Briggs: “Roedd hi’n amlwg wedi’i hanafu’n ddifrifol ac mewn trallod, ond bryd hynny, nid oeddem yn ymwybodol o faint ei dioddefaint.
“Roeddem yn canolbwyntio ar flaenoriaethu ei gofal gyda chymorth parafeddygon, a chael swyddogion allan ar y stryd i ddod o hyd i’r drwgdybyn.
“Yn fuan ar ôl i swyddogion gyrraedd y lleoliad, arestiwyd dyn o’r enw Benjamin Guiver nid nepell o’r tŷ.”
Mewn cyfweliad, datgelodd y dioddefydd nad oedd hi’n credu y byddai’n goroesi’r ymosodiad, ond bod dau aelod o’r teulu wedi dychwelyd adref ac aflonyddu ar yr ymosodwr.
Esboniodd ei bod hi wedi syrthio i gysgu wrth wylio’r teledu, ac wedi deffro a gweld dyn yn ei hystafell fyw. Dywedodd mai Benjamin oedd ei enw a’i fod wedi dod ‘i’w hachub’. Pan ofynnodd y dioddefydd pwy oedd e, atebodd, “Paid â holi unrhyw gwestiynau neu fe wna i dy ladd di.”
Llwyddodd y dioddefydd i ddianc o’r cyfeiriad a rhedeg allan i’r dreif, gan weiddi am help. Dilynodd y drwgdybyn hi, gan ymosod arni tu fas a bygwth ei lladd hi cyn parhau â’r ymosodiad cyson tu mewn i’r cyfeiriad.
Collodd y dioddefydd sawl dant a chleisiwyd ei chorff yn sylweddol.
Sefydlodd yr heddlu nes ymlaen bod y dyn 34 oed o Abergwaun wedi ceisio mynd mewn i dŷ arall ger cartref y dioddefydd ychydig cyn hynny.
Yn dilyn ymholiadau helaeth gan yr heddlu, cyhuddwyd Benjamin Guiver â’r chwe throsedd ganlynol ar 26 Mai 2024:
Diolch i rym y dystiolaeth yn ei erbyn, plediodd yn euog i’r chwe chyhuddiad pan ymddangosodd yn y llys ar 10 Gorffennaf.
Mewn datganiad a ysgrifennwyd gan y dioddefydd, dywedodd nad oedd hi’r un un ers y digwyddiad, a’i bod hi’n teimlo “ar goll, yn anniogel ac ar bigau’r drain” o hyd.
Ysgrifennodd: “Rwy’n teimlo bod fy mywyd wedi’i droi ben ei waered. Dydw i ddim yn teimlo’n ddiogel yn fy nghartref fy hun mwyach, sy’n deimlad nad wyf erioed wedi’i brofi o’r blaen.
“Yr wyf bob amser wedi bod yn hyderus ac annibynnol, fodd bynnag, mae hyn wedi’i gymryd oddi wrthyf yn awr mewn ffordd ffyrnig.
“Rwy’n ysu am gael mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd gyda fy mywyd, fodd bynnag, rwy’n gwybod bod yr hyn sydd wedi digwydd yn mynd i barhau i’m plagio am weddill fy mywyd.”
Dedfrydwyd Guiver i 20 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 31 Hydref 2024.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Briggs: “Mae’r dioddefydd yn yr achos hwn wedi dangos dewrder aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad, ac rwy’n ei chanmol am hynny.
“Mae dioddef ymosodiad o’r fath yn eich cartref eich hun yn fwy nag y gellir dychmygu, ac fel y dywedodd yn ei datganiad, y mae wedi effeithio ar bob agwedd o’i bywyd.
“Er gwaethaf hyn, mae hi wedi dangos cryfder ei chymeriad bob cam o’r ffordd, ac wedi gweithio ochr yn ochr â swyddogion er mwyn sicrhau bod cyfiawnder yn trechu.
“Hoffwn dynnu sylw hefyd at weithredoedd ei pherthynas a ymyrrodd yn ystod yr ymosodiad, gan roi ei ddiogelwch ei hun mewn perygl er mwyn sicrhau nad oedd rhagor o niwed yn cael ei achosi.”