Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i bump o fyrgleriaethau a lladradau gwledig yr adroddwyd amdanynt yn ardal Powys.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae eitemau drud, gan gynnwys beiciau cwad, trelars ac arfau pŵer, wedi’u dwyn o eiddo.
O ganlyniad, mae’r heddlu’n cynghori’r gymuned ffermio i gymryd rhai camau syml i leihau’r perygl o ddioddef byrgleriaethau neu ladradau.
Dywedodd yr Arolygydd Suzanne Lloyd:
“Byddwn yn annog preswylwyr i sicrhau bod eu heiddo’n ddiogel a’u heitemau gwerthfawr wedi’u marcio er diogelwch a’u cadw dan glo.”
“Os wnewch chi gymryd yr amser i asesu diogelwch eich eiddo, dilyn cyngor defnyddiol a chymryd camau gweithredu cadarnhaol, gallwch leihau’r perygl o ddioddef trosedd.”
“Er ein bod ni’n ymdrin â nifer o ladron manteisgar, bydd rhai, sy’n fwy penderfynol, yn cynnal ymweliadau rhagchwilio o ffermydd er mwyn canfod eitemau gwerthfawr i’w dwyn rywbryd eto.
“Gofynnwn i ffermwyr ystyried lleoliad eitemau o’r fath, a’r ffordd maen nhw’n cael eu cadw, gan fod galw mawr amdanynt gan y frawdoliaeth droseddol.”
Anogir cymunedau ffermio i adolygu eu diogelwch eu hun, a gosod systemau TCC a goleuadau diogelwch ar glosydd fferm, ynghyd â mesurau eraill i’w gwneud hi’n anodd i ffermwyr weithredu, neu o leiaf eu hoedi neu eu hatal.
Anogir ffermwyr i gofnodi gwneuthuriad a rhifau cyfres eitemau, creu rhestr eiddo ddiweddar, a thynnu ffotograffau o bob eitem. Dylid marcio neu stampio pob eitem y gellir ei symud ymaith yn hawdd â’r cod post, enw’r fferm neu farc adnabod arall.
Dylid cloi offer a pheiriannau bach mewn adeilad diogel, ac ni ddylid parcio tractorau, teclynnau fferm a pheiriannau gwerthfawr gerllaw neu wrth ochr ffyrdd cyhoeddus pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Dylid cloi gatiau fferm gyda chadwyni neu gloeon clap o safon dda, ac yn ddelfrydol, dylai colfachau fod o’r math capiog neu wrthdroëdig fel nad oes modd eu tynnu i ffwrdd yn hawdd. Anogir gosod dyfeisiau olrhain ar feiciau cwad, cerbydau sy’n addas ar gyfer pob math o dir a cherbydau fferm eraill, a phrofwyd dro ar ôl tro mai hyn o’r ffordd fwyaf effeithiol o adennill eiddo wedi’i ddwyn.
“Cofiwch, ni allwn weithredu os nad ydyn ni’n gwybod amdano,” ychwanegodd yr Arolygydd Lloyd. “Does dim gwahaniaeth pa mor ddibwys mae’n ymddangos, adroddwch am bob gweithgarwch amheus wrth yr heddlu’n syth, a pheidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall wedi’n hysbysu.”
Mae holl swyddogion Tîm Troseddau Gwledig Dyfed-Powys yn ymgynghorwyr Tactegol Atal Trosedd cymwys. Er mwyn trefnu ymweliad atal trosedd gan ein swyddogion, anfonwch e-bost at [email protected].
Er mwyn adrodd am ddigwyddiad difrys, cewch gysylltu â’r heddlu drwy un o’r dulliau canlynol:
Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
E-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.