Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd Lynne Leyson yn Fferm Pibwr, Capel Dewi ar ddydd Llun, 16 Medi wedi iddi ddychwelyd i ardal yr heddlu ar nos Sul 15 Medi 2024 ar ôl teithio’n helaeth ar draws y DU yn ystod ei 16 mis ar ffo.
Arestiwyd menyw 26 oed hefyd ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac y mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr heddlu’n gwneud ymholiadau pellach.
Roedd ymholiadau i ddod o hyd i Leyson wedi bod yn mynd rhagddynt ers iddi ddiflannu, ac roedd y rhain yn cynnwys defnyddio adnoddau ymchwiliol sylweddol, apêl troseddwr ar ffo ac apêl Crimestoppers.
Derbyniodd Leyson euogfarn am Gynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth A a B, a meddu ar eiddo troseddol ym Mai 2023. Methodd ag ymddangos ar gyfer ei gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar y 21 Gorffennaf 2023 a chafodd ei dedfrydu yn ei habsenoldeb yn Llys y Goron Abertawe ar 15 Medi 2023 i naw mlynedd o garchar.
Roedd Leyson yn un o chwech o bobl a arestiwyd yn dilyn gwarant yn Fferm Pibwr yng Nghaerfyrddin ym mis Hydref 2021 lle ddaeth swyddogion o hyd i 592g o gocên gyda gwerth stryd o rhwng £47,760 a £60,200, 1.4kg o ganabis gyda gwerth stryd o tua £15,615, £17,190 mewn arian parod a phistol hanner awtomatig.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Rhys Jones, a oedd yn arwain y chwiliad
“Mae’r arestiad yn dangos pa mor benderfynol ydym o ddod o hyd i’r rhai hynny sy’n meddwl y gallant osgoi cyfiawnder. Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu hymrwymiad, ymroddiad, cefnogaeth, a’u dyfalbarhad wrth ddod a’r elfen hon o’r ymchwiliad i derfyn llwyddiannus”.
“Hoffwn ddiolch i aelodau o’r cyhoedd am eu cymorth a gwybodaeth a ddarparwyd dros y 16 mis diwethaf – gwerthfawrogwyd hwn yn fawr”.
“Bydd hwn yn anfon neges gadarn nad fydd gweithredoedd yr unigolion hynny sy’n gysylltiedig â Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol sy’n gweithredu o fewn ardal Dyfed Powys yn cael eu goddef, ac y byddant yn cael eu dwyn i gyfiawnder”.
Ymddangosodd Leyson yn Llys y Goron Abertawe bore yma, dydd Mawrth 17 Medi lle anfonwyd hi i’r carchar i gychwyn ei dedfryd.
Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Gwener, 4 Hydref.