Stamp amser presennol: 03/08/2026 10:15:14
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Nifer cynyddol o ddioddefwyr trais rhywiol yn ceisio erlyniad diolch i ymateb newydd yr heddlu

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 00:00 11/07/2025

image8h98.png

Nifer cynyddol o ddioddefwyr trais rhywiol yn ceisio erlyniad diolch i ymateb newydd yr heddlu

Mae gwasanaeth heddlu sy’n cynnig ymateb tosturiol ystyriol o drawma i ddioddefwyr trais rhywiol wedi cynyddu’r nifer sy’n ceisio erlyniad ac yn cael mynediad at gymorth arbenigol.

Cyflwynodd Heddlu Dyfed-Powys Dîm Bluestone ym mis Mawrth 2024, gyda’r nod o wella eu hymgysylltiad â dioddefwyr, codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl sy’n adrodd am droseddau trais rhywiol, a chynyddu ymgysylltiad â dioddefwyr yn y broses cyfiawnder troseddol.

Fel rhan o’r gwaith, sefydlwyd ymateb fideo cyflym ar gyfer pobl sydd wedi adrodd am achosion o drais rhywiol ar ôl i’r cyfnod tystiolaeth fforensig ddod i ben, gan roi’r cyfle iddynt ymgysylltu â swyddogion arbenigol o’u cartrefi eu hunain, trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn.

Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddioddefwyr o ran ble a phryd maent yn siarad â swyddog am yr hyn sydd wedi digwydd, ac yn caniatáu i swyddogion siarad â nhw’n gyflymach i gael gwybodaeth hanfodol. O ganlyniad i berthynas waith ardderchog gyda’r gwasanaeth cymorth treisio a cham-drin rhywiol mewn argyfwng, Llwybrau Newydd, caiff dioddefwyr bellach gynnig mynediad at weithiwr argyfwng ar unwaith, gan osgoi unrhyw oedi.

Sefydlwyd y broses hon yn dilyn ymgynghoriad ag aelodau fforwm ymgysylltu â dioddefwyr Heddlu Dyfed-Powys, lle gwrandawyd ar brofiadau’r aelodau o adrodd am droseddau a siarad â’r heddlu, gan hefyd weithredu arnynt.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Ben Staniforth o Dîm Bluestone: “Mae’r flwyddyn gyntaf o gynnig ymateb rhithwir i ddioddefwyr wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol iawn. Yn dilyn lansiad y cynllun peilot ym mis Mawrth 2024, rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant yn nifer y dioddefwyr sydd bellach yn cefnogi canlyniad cyfiawnder troseddol, a chynnydd o 30 y cant yn nifer y dioddefwyr sy’n derbyn atgyfeiriad i Llwybrau Newydd.

“Nid yn unig y mae hyn yn golygu ein bod yn gallu erlyn mwy o bobl sydd o dan amheuaeth o achosi troseddau difrifol, ond gall y dioddefwyr sydd wedi dioddef y trawma o gael eu treisio gael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol.”

Gan fod sicrhau tystiolaeth fforensig gan ddioddefwyr o bwysigrwydd hanfodol, dim ond ar gyfer adroddiadau o drais rhywiol nad ydynt yn achosion diweddar y mae’r gwasanaeth ymateb fideo ar gael.

Mae gwerthusiad o flwyddyn gyntaf y broses wedi dangos bod 79 y cant o’r dioddefwyr yr ymgysylltwyd â nhw wedi derbyn cymorth gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol. Mae hyn yn gynnydd o 30 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae Tîm Bluestone hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y dioddefwyr sy’n gwneud datgeliadau am droseddau nad ydynt am eu hadrodd i’r heddlu i ddechrau, ond sy’n mynd ymlaen i wneud adroddiad ffurfiol.

Esboniodd Ditectif Ringyll Staniforth: “Weithiau mae dioddefwyr ymosodiadau rhywiol yn dweud wrth yr heddlu, staff meddygol neu bobl neu gyrff proffesiynol dibynadwy eraill am eu honiad ond nad ydynt am adrodd am y digwyddiad. Er enghraifft, efallai eu bod wedi dweud wrth barafeddyg neu feddyg teulu yn dilyn ymgynghoriad meddygol, a fydd yn hysbysu’r heddlu. O dan ein proses newydd, byddai ein tîm arbenigol yn cysylltu â’r dioddefwr gyda’r nod o sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt, a’u bod yn ymwybodol o’r broses cyfiawnder troseddol.

“Gwneir hyn i gyd mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, ac yn unol â chanllawiau.

“Rhwng mis Mawrth 2024 a mis Mawrth 2025, wedi iddynt fod yn ymwneud â’n tîm ni, mae 13 o ddioddefwyr wedi newid y ‘dweud’ yn adrodd, ac wedi cefnogi canlyniad cyfiawnder troseddol. Bydd hyn, heb os, yn arwain at gynnydd yng nghyfraddau euogfarnau troseddau rhywiol yn y dyfodol, a fydd yn gwella diogelwch ein cymunedau.”

Diolch i’w gwaith parhaus, cipiodd Tîm Bluestone y wobr Arloesi a Datrys Problemau, a oedd yn cael ei noddi gan Robiquity, yng Ngwobrau Heddlu Dyfed-Powys. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, a oedd yn cael ei noddi gan CDW, ym mhencadlys yr heddlu ddydd Gwener 4 Gorffennaf, lle’r oedd dros 20 o grwpiau ac unigolion yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion.

 

Sut i adrodd am drais neu drosedd rywiol:

  • Os ydych chi wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol ond ddim yn barod i adrodd amdano i’r heddlu, gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth yma: Cefnogaeth ar ôl trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol | Heddlu Dyfed-Powys.
  • Os ydych chi’n barod i adrodd am drais neu drosedd rywiol, ewch i wefan Heddlu Dyfed-Powys yma: Riportio treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Dyfed-Powys.
  • Neu gallwch ffonio 101. Os ydych mewn perygl dybryd, dylech ffonio 999 bob amser.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.