Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae merch 14 oed wedi’i dedfrydu am geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Canfu’r ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn euog o’r tri chyhuddiad yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach eleni. Roedd hi eisoes wedi cyfaddef i dri achos o achosi niwed corfforol difrifol â bwriad, a meddu ar eitem â llafn ar dir ysgol.
Heddiw, flwyddyn ar ôl y digwyddiad, cafodd ei dedfrydu i 15 mlynedd yn y ddalfa, a bydd yn treulio o leiaf 7.5 mlynedd yn y ddalfa, gan gynnwys y 367 diwrnod y mae'r ferch eisoes wedi'i chadw yn y ddalfa. Bydd ar drwydded am weddill y ddedfryd.
Clywodd y llys o’r blaen sut oedd y gwasanaethau brys wedi’u galw i Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman ddydd Mercher 24 Ebrill, yn dilyn adroddiadau bod tri unigolyn wedi’u hanafu. Aed â dwy athrawes – Fiona Elias a Liz Hopkin – ynghyd â phlentyn, i’r ysbyty am driniaeth ar ôl cael eu trywanu gan ddisgybl.
Cipiodd camerâu TCC y diffynnydd yn cerdded drwy’r ysgol y bore hwnnw, cyn eistedd tu ôl i lwyfan yn neuadd yr ysgol a thrywanu’r llawr â chyllell. Cafodd ei gweld wedyn yn siarad â Mrs Elias ar ddau achlysur – tu mewn i’r adeilad ysgol yn gyntaf, ac yna tu allan – cyn ymosod arni â chyllell. Pan gamodd Mrs Hopkin i mewn i helpu, cafodd hithau ei hanafu’n ddrwg hefyd, gan ddioddef briwiau dwfn i’w gwddf a’i chefn.
Ychydig funudau’n ddiweddarach, ar ôl cael ei symud i ffwrdd o’r ddwy athrawes a oedd angen sylw meddygol brys, gwelwyd y diffynnydd yn ymosod ar blentyn â’r un gyllell.
Cafodd ei harestio yn y lleoliad, a’i chyhuddo o dri achos o geisio lladd y diwrnod canlynol.
Yn dilyn dedfryd heddiw, dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys: “Tra bod y ddedfryd hon yn nodi diwedd y gweithdrefnau cyfiawnder troseddol, a blwyddyn ers y digwyddiad, rwy’n deall bod yr effaith yn parhau ar gyfer y dioddefwyr.
“Dioddefodd y dair niwed corfforol oherwydd y diffynnydd, ac er y gall clwyfau wella gydag amser, cymer lawer mwy i ddod dros y trawma meddyliol a achoswyd gan ei gweithredoedd.
“Rydyn ni wedi clywed o’r datganiadau effaith ar y dioddefwyr eu bod yn ail-fyw digwyddiadau 24 Ebrill 2024 bob dydd, sy’n dangos yr effaith aruthrol gafodd hyn ar eu lles. Wrth inni roi’r gweithdrefnau cyfreithiol tu ôl inni yn awr, dymunaf yn dda i’r dioddefwyr â’u hadferiad.
“Ar gyfer y disgyblion a fu ddigon anffodus i weld gweithred mor dreisgar yn ystod eu diwrnod arferol, mawr obeithiaf eu bod nhw dal yn gallu gweld eu hysgol fel man diogel, a bod dedfryd heddiw’n dangos na fydd unrhyw ymgais i gyfaddawdu diogelwch yr ysgol yn cael ei oddef.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’n holl gydweithwyr yn y gwasanaethau brys a ymatebodd ar y dydd, ynghyd ag athrawon a staff Ysgol Dyffryn Aman. Diolch hefyd i Gyngor Sir Gaerfyrddin am y modd proffesiynol y gwnaethant ymdrin â’r digwyddiad ac i’r gymuned leol am y cymorth y cynigiasant i ddisgyblion.”