Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Drefaldwyn wedi’i garcharu am wyth mlynedd, wedi’i ymestyn o bedair mlynedd ar drwydded am ymosodiad milain lle y trywanodd y dioddefydd yn ei frest a’i wyneb.
Canfu bod Sam Williams, 31 oed, o Drefaldwyn, wedi achosi anafiadau sy’n fygythiad i fywyd mewn ymosodiad treisgar tu allan i eiddo ar Lôn y Ffowndri, y Trallwng, ddydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024.
Galwyd swyddogion i’r lleoliad gan barafeddygon a esboniodd sut oedd yr anafedig wedi dioddef clwyf trywaniad a ymdreiddiodd i geudod ei ysgyfaint, gan achosi iddo golli llawer iawn o waed. Yn ogystal, dioddefodd y dioddefydd rwygiad hir i ochr chwith ei wyneb, a gollodd ei lygad o drwch blewyn.
Roedd Williams a’r dioddefydd yn adnabod ei gilydd cyn yr ymosodiad, ond roedd ganddynt berthynas fregus yn dilyn anghydfodau personol yn y gorffennol. Er bod y ddau wedi parhau’n sifil i’w gilydd yn gyffredinol, dechreuodd tensiynau ddod i’r amlwg pan ddechreuodd patrwm o ymddygiad bygythiol gan Williams ddatblygu yn ystod yr wythnosau cyn yr ymosodiad.
Mewn cyfweliad, esboniodd y dioddefydd sut yr oedd Williams wedi cysylltu ag ef eto drwy neges destun a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr oriau’n arwain at yr ymosodiad, yn ei fygwth ef a’i gariad.
Clywodd y llys sut yr oedd tensiynau wedi dwysáu pan alwodd y diffynnydd y dioddefydd drwy fideo, yn ei fygwth o du allan i’w dŷ.
Gan ofni am ddiogelwch ei gariad, camodd y dioddefydd allan o’i ddrws ffrynt cyn i Williams neidio o’r llwyni a’i drywanu’n dreisgar yn ei frest a slaesu ei wyneb.
Gan ddisgrifio ei ymosodwr, dywedodd y dioddefydd: “Roedd ei lygaid yn frawychus, ac roedd yn ymddwyn fel seicopath. Yr oedd eisiau fy lladd i.
“Roedd ei lygaid a’i wyneb yn ddifynegiant – nid oedd yn edrych fel person, roedd yn edrych fel cythraul,” meddai.
Dywedodd y dioddefydd nad oedd wedi sylweddoli ei fod wedi cael ei drywanu tan iddo afael yn ei ochr a sylweddoli ei fod yn diferu o waed. Rhedodd Williams i ffwrdd o’r lleoliad yn syth, ac fe wnaeth y dioddefydd hanner cwympo yn ôl i mewn i’r tŷ. Galwodd ei gariad, a oedd yn dyst i’r ymosodiad, 999 ar unwaith.
Tra bod parafeddygon yn rhuthro’r claf i’r ysbyty am lawfeddygaeth brys – a achubodd ei fywyd – dechreuodd swyddogion chwilio am Williams i’w arestio.
Ar ôl chwilio’n helaeth, daethpwyd o hyd i Williams yng Nghroesoswallt ddydd Llun 25 Tachwedd 2024, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio. Ddiwrnod yn hwyrach, cyhuddwyd Williams o geisio llofruddio a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Dros y dyddiau nesaf, disgrifiodd y dioddefydd effaith yr ymosodiad. Dywedodd: “Rwy’n cael pyliau o banig yn rheolaidd ac ôl fflachiadau, gyda’r digwyddiad yn troi yn fy mhen, yn meddwl pa un ai a allwn fod wedi gwneud rhywbeth arall. Y mae fel pe bawn i’n ail fyw’r trawma a’r ofn sy’n gysylltiedig â’r ymosodiad drosodd a throsodd. Rwy’n cael hunllefau rheolaidd amdano, a dydw i ddim wedi cysgu’n iawn eto.”
Plediodd Williams yn ddieuog i geisio llofruddio yn ystod ei wrandawiad ple yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac yn lle hynny fe wnaeth bledio am glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol. Derbyniwyd y ple gan yr erlyniad, a chafodd Williams ddedfryd o gyfanswm o ddeuddeg mlynedd pan ddychwelodd i Lys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Iau 17 Ebrill, 2025.
Gan ddisgrifio'r diffynnydd fel troseddwr peryglus sy'n peri risg sylweddol i'r cyhoedd, dedfrydodd y Barnwr Williams i wyth mlynedd yn y carchar, wedi'i ymestyn gan bedair blynedd arall ar drwydded.
Cymerodd y barnwr i ystyriaeth gyfres o droseddau difrifol flaenorol a gyflawnwyd gan y diffynnydd, gan nodi nad oedd unrhyw orchymyn llys blaenorol wedi atal ei drais.
Yn wir, roedd Williams eisoes ar drwydded ar gyfer cyhuddiad blaenorol o niwed corfforol difrifol pan gynhaliodd yr ymosodiad hwn yn y Trallwng fis Tachwedd diwethaf.
Wrth siarad yn uniongyrchol â’r diffynnydd, dywedodd y Barnwr: “Rydych chi wedi bod gerbron y llys o’r blaen gyda rheolaeth ddigalon o drais blaenorol dro ar ôl tro.”
Hefyd, gosododd y Barnwr orchymyn atal pymtheng mlynedd yn erbyn Williams, i amddiffyn y dioddefwr a'i gariad.
A Montgomery man has been jailed for 12 years, with the final four years to be spent on license for a vicious attack in which he stabbed the victim in the chest and face.
Sam Williams, aged 31, of Montgomery was found to have inflicted life-threatening injuries in a violent attack outside a property in Foundry Lane, Welshpool, on Saturday 23 November, 2024.
Officers were called to the scene by paramedics who explained how the casualty had suffered a stab wound that penetrated his lung cavity, causing significant loss of blood. The victim also suffered a lengthy laceration to the left side of his face, narrowly missing his eye.
Williams and the victim were known to each other prior to the attack, but had a strained relationship over personal disagreements in the past. Although the two had generally remained civil with one another, tensions began to mount when a pattern of threatening behaviour from Williams towards the victim began to develop in the weeks before attack.
In an interview, the victim explained how in the hours leading up to the attack, Williams had again been in contact with him via text message and social media, threatening him and his girlfriend.
The court heard how tensions escalated when the defendant video called the victim, threatening him from outside his house.
Fearing for the safety of his girlfriend, the victim stepped outside his front door before Williams jumped out of the bushes, violently stabbing him in the chest and slashing his face.
Describing his attacker, the victim said: “His eyes were scary, and his demeanour was like a psychopath. He wanted to kill me.
“His eyes and face were blank – he didn’t look like a person, he looked like a demon.”, he continued.
The victim said how he didn’t realise he’d been stabbed until he clutched his side, realising it was dripping wet with blood. Williams immediately fled the scene, and the victim stumbled back inside where his girlfriend, who had witnessed the attack, immediately phoned 999.
While paramedics rushed the casualty to hospital for emergency medical treatment – which ultimately saved his life - officers began search efforts to locate and arrest Williams.
Following extensive search enquiries, Williams was located in Oswestry on Monday 25 November, 2024, and was arrested on suspicion of attempted murder. A day later, Williams was charged with attempted murder and was remanded into custody.
In the following days, the victim described the impact of the attack. He said: “I’m having regular panic attacks and flashbacks, recalling the event repeatedly around and around in my head, wondering if I could have done something else. It’s as if I’m re-living the trauma and fear associated with it repeatedly. I’m having regular nightmares about it, I’m still yet to sleep properly.”
Williams initially pleaded not guilty to attempted murder during his plea hearing at Mold Crown Court, but later offered a guilty plea for wounding with intent to cause grievous bodily harm. The plea was accepted by the prosecution, and at a sentencing hearing on Thursday 17 April 2025, His Honour, Judge Rowlands s handed Williams a sentence totalling twelve years when he returned to Mold Crown Court on Thursday 17 April, 2025.
Describing the defendant as a dangerous offender who poses a significant risk to the public, the Judge sentenced Williams to eight years in prison, extended by a further four years on license.
The judge took into consideration a series of previous serious offences committed by the defendant, stating that no previous court order had prevented his violence.
In fact, Williams was already on license for a previous charge of grievous bodily harm when he carried out this attack in Welshpool last November.
The judge acknowledged the significance of the injuries caused to the victim, describing them as physically disfiguring in nature and the ongoing psychological trauma and distress which has followed.
Speaking directly to the defendant, the Judge said: “You’ve been before the court before with depressing regulatory of repeated previous violence.”
In addition, the Judge imposed a fifteen-year restraining order against Williams, in protection of the victim and his girlfriend.