Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhwng 24 Mawrth a 4 Ebrill 2025, cynhaliwyd Gwrandawiad Camymddwyn Difrifol ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â’r cyn Uwch-arolygydd Gary Davies. Cadeiriwyd y gwrandawiad gan Mr Oliver Thomas, cadeirydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.
Mae’r cyn Uwch-arolygydd Gary Davies wedi’i atal o’i waith ers mis Gorffennaf 2022, yn dilyn sawl honiad am ei ymddygiad – yn benodol, ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ac yn wreig-gasaol tuag at gydweithwyr benywaidd rhwng 2017 a 2020.
Heddiw, canfu’r Cadeirydd bod ymddygiad y cyn Uwch-arolygydd Gary Davies wedi torri’r safonau ymddygiad proffesiynol mewn perthynas ag Awdurdod, Parch a Chwrteisi, Ymddygiad Gwarthus, a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac mae’i wedi’i ddiswyddo o Heddlu Dyfed-Powys. Fe fydd nawr yn cael ei ychwanegu at Restr Waharddedig y Coleg Plismona, a fydd yn ei atal rhag ailymuno â’r gwasanaeth heddlu (ar 4 Ebrill 2025).
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles, yr Awdurdod Priodol ar gyfer cwynion a chamymddwyn yn Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf wrth ei swyddogion a’i staff, boed hwy ar ddyletswydd neu beidio – yn enwedig wrth ei dîm uwch arweinwyr.
“Ymddiheuraf i gyn swyddogion a staff, a swyddogion a staff presennol, a gafodd eu herlid gan ymddygiad amhriodol y cyn Uwch-arolygydd Gary Davies, a diolchaf iddynt am eu dewrder drwy adrodd am ei gamymddwyn.
“Rydyn ni wedi clywed am brofiadau nifer o gydweithwyr a chyn gydweithwyr dros y bythefnos diwethaf, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fenywod sydd wedi dioddef o’i ymddygiad wreig-gasaol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
“Maen nhw’n fodelau rôl, a diolchaf iddynt am yr uniondeb a’r dewrder maen nhw wedi dangos yn y sefyllfa anodd ac annerbyniol hon.
“Gwerthfawrogaf fod yr achos hwn yn frawychus, a gall achosi pryder i’r cyhoedd. Hoffwn eich sicrhau bod camau wedi’u cymryd yn fuan i wahardd yr Uwch-arolygydd Gary Davies unwaith y gwnaed yr honiadau, a bod yr achos hwn wedi’i drin yn ddifrifol iawn.
“Mae canlyniad gwrandawiad heddiw’n adlewyrchu’r ymagwedd hon, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn sicrhau’r cyhoedd y bydd Heddlu Dyfed Powys yn gwneud pob peth y gall i gynnal y safonau uchel a ddisgwylir yn briodol gan swyddogion a staff – yn enwedig y rhai mewn swyddi uwch.
“Fel heddlu, byddwn ni’n defnyddio pob offeryn sydd ar gael inni er mwyn sicrhau dull effeithlon a chwim o ddiswyddo swyddogion na ddylai bellach ddal swydd cwnstabl.”
Datganiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn:
“Mae'r cyhoedd yn disgwyl y safonau uchaf gan y rhai sy'n gwasanaethu ym maes plismona. Methodd gweithredoedd y cyn Uwcharolygydd Gary Davies â’r disgwyliadau hyn, ac mae ei ddiswyddo yn adlewyrchu ein hymrwymiad i uniondeb, proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Nid oes lle yn Heddlu Dyfed-Powys i’r rhai sy’n tanseilio’r gwerthoedd hyn.
“Hoffwn ddiolch i staff a swyddogion presennol a chyn-aelodau, a ddaeth ymlaen i adrodd am y camymddwyn hwn. Rwy’n gwerthfawrogi bod hyn wedi bod yn hynod o anodd iddynt, ond mae eu dewrder wedi bod yn hanfodol i sicrhau atebolrwydd a chynnal y safonau y mae’r cyhoedd yn eu haeddu.”