Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae perchennog busnes padlfyrddau wedi’i charcharu am 10 blynedd a 6 mis am ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol yn dilyn marwolaethau pedwar o bobl yn 2021.
Cyhuddwyd Nerys Lloyd, 39, o Aberafan, sef perchennog ac unig gyfarwyddwr Salty Dog Co Cyf, â dynladdiad Paul O’Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24, a Nicola Wheatley, 40, drwy esgeulustod difrifol yn dilyn eu marwolaethau trasig yng nghored tref Hwlffordd ar 30 Hydref 2021.
Cyfaddefodd i’r pedwar cyhuddiad ddydd Mercher 5 Mawrth 2025, ynghyd ag un achos o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Yn ei gwrandawiad dedfrydu, clywodd y llys sut yr oedd Lloyd, gyda chymorth Paul O’Dwyer, wedi trefnu taith drwy fusnes Lloyd ar 30 Hydref 2021.
Fodd bynnag, bu llifogydd trwm, ac roedd rhybuddion tywydd difrifol mewn grym, a gafodd eu hanwybyddu gan Lloyd. Roedd yr afon yn llifo’n gyflym, ac roedd y gored mewn cyflwr peryglus iawn. Ni wiriodd Lloyd y gored na rhoi gwybodaeth diogelwch i’r cyfranogwyr, na’u hysbysu am bresenoldeb y gored. Serch hynny, rhoddodd Lloyd gymorth i’r padlfyrddwyr fynd mewn i’r dŵr ac arweiniodd y grŵp ar hyd yr afon.
Wrth i’r grŵp agosáu at y gored, tynnwyd yr holl gyfranogwyr heblaw Lloyd dros y top i mewn i’w gwaelod a chawsant eu dal cyn cael eu bwrw allan o’r gored. Goroesodd pedwar o’r cyfranogwyr.
Aeth yr hyfforddwr, Mr O’Dwyer, a ddaeth allan o’r afon yn ddiogel i gychwyn, yn ôl i mewn i’r dŵr er mwyn ceisio achub y gweddill, ond cafodd ei lusgo’n syth dros y top. Bu farw’r pedwar dioddefydd o ganlyniad i foddi/trochi.
Canfu ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch nad oedd gan Lloyd y cymwysterau priodol i arwain taith padlfyrddio sefyll ar afon.
Mae canllawiau a hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon dŵr a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr ar gael gan gyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, gan gynnwys y Gymdeithas Padlfyrddio Sefyll Genedlaethol, y Gymdeithas Ganŵio Brydeinig, a’r Gymdeithas Syrffio Barcud Brydeinig. Rhaid i unrhyw un sy’n trefnu gweithgareddau antur ar gyfer plant dan 18 oed fod â thrwydded yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Cameron Ritchie, o Heddlu Dyfed-Powys:
“Yn gyntaf, hoffwn fynegi eto fy nghydymdeimlad diffuant â theuluoedd Paul, Andrea, Morgan a Nicola.
“Rydym wedi clywed tystiolaeth ddirdynnol gan y dioddefwyr a’r goroeswyr yn ystod y gwrandawiad hwn o’r effaith barhaus a gafodd y digwyddiad hwn arnynt. Rwy’n mawr obeithio y bydd diwedd yr achosion hyn yn helpu i glirio’r ffordd iddynt allu dechrau’r broses iacháu.
“Roedd y digwyddiad a ddigwyddodd yn Hwlffordd ar 30 Hydref 2021 yn achos trasig iawn a arweiniodd at farwolaethau cwbl osgoadwy pedwar unigolyn. Clywsom yn y llys sut mae’r digwyddiad hwn wedi chwalu pedwar teulu, a gobeithiwn y bydd gwersi’n cael eu dysgu a fydd yn atal hyn rhag digwydd eto.
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth a helaeth, a hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a Gwasanaeth Erlyn y Goron am eu proffesiynoldeb a’u diwydrwydd i sicrhau’r canlyniad hwn.”
Dywedodd Helen Turner, Arolygydd gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:
“Hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant â theuluoedd y rhai a fu farw, a’r goroeswyr sydd â’u bywydau wedi’u heffeithio’n barhaol.
“Collwyd pedwar bywyd yn ddiangen a chafodd goroeswyr eu trawmateiddio gan eu profiad yng nghored Hwlffordd.
“Roedd Nerys Lloyd yn llwyr gyfrifol am y penderfyniad i fynd i mewn i’r dŵr tra bod yr afon wedi llifo, ac am geisio mynd â phadlwyr dibrofiad dros y gored. Roedd hyn yn gwbl ddi-hid ac roedd modd rhagweld y perygl o farwolaeth.
“Rhoddodd y dioddefwyr eu ffydd yn Lloyd i gyflenwi padl ddiogel a phleserus, ond trwy ei hanallu, ei difaterwch a’i hunanfoddhad, methodd â chynllunio ac asesu’r perygl amlwg wrth y gored na chymryd camau diogelwch sylfaenol hyd yn oed. Drwy beidio â thrafod y peryglon ar y daith, ni roddodd Lloyd gyfle i’r cyfranogwyr wneud penderfyniad rhesymedig am eu cyfranogiad eu hun ar y dydd.
“Nid yw iechyd a diogelwch yn rhwystr i weithgareddau anturus, sy’n cael eu mwynhau’n ddiogel gan bobl bob dydd. Mae’n rhaid i drefnwyr gymryd camau cymesur i adnabod a rheoli peryglon gwirioneddol.”
Dywedodd Lisa Rose, Erlynydd Arbenigol gydag Adran Troseddau Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron:
“Mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd a ffrindiau’r dioddefwyr, a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y drasiedi ofnadwy hon.
“Ni ddylai Nerys Lloyd fod wedi mynd â’r cyfranogwyr ar y dŵr y diwrnod hwnnw; roedd y llifogydd trwm wedi gadael yr afon yn rhedeg yn gyflym iawn ac roedd y tu hwnt i gylch gorchwyl taith i ddechreuwyr.
“Roedd y gored ei hun mewn cyflwr hynod o beryglus, gyda photensial uchel o golli bywyd, ac roedd yr holl fannau allanfa posib gerllaw wedi cael eu gorlifo.
“Nid oedd Lloyd yn gymwys i fynd â phadlfyrddwyr dibrofiad allan o dan amodau o’r fath, ac roedd ei gweithredoedd yn llawer is na’r safon a ddisgwylir gan hyfforddwr bwrdd padlo a chynlluniwr gweithgareddau.
“Gallai’r daith fod wedi dechrau ar bwynt gwahanol, er mwyn osgoi’r gored, neu gael ei chanslo’n gyfan gwbl ond gwnaeth Lloyd y penderfyniad terfynol i fwrw ymlaen â’r digwyddiad.
“Nid oes unrhyw eiriau a all fynegi’r dinistr y mae’r drasiedi hon wedi’i achosi, ac ni allaf ond gobeithio bod y ddedfryd hon yn rhoi ymdeimlad o gyfiawnder i’r rhai yr effeithir arnynt.”