Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd eraill ledled y DU wedi dod at ei gilydd i gynnal yr ymgyrch genedlaethol Ymgyrch Spotlight, sy’n cael ei chydlynu gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Mae’r fenter barhaus hon yn anelu i leihau anafiadau difrifol a thrychinebau ar ein ffyrdd drwy dargedu defnydd troseddol o’r ffyrdd a thynnu sylw at beryglon ymddygiadau’r “5 Angheuol” – goryrru, yfed/cymryd cyffuriau a gyrru, defnyddio ffôn symudol, methu â gwisgo gwregys, a gyrru diofal.
Yn ystod y digwyddiad ymgysylltu cyntaf, a gynhaliwyd yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, ddydd Gwener 4 Ebrill, stopiwyd ac archwiliwyd tua 70 o gerbydau’n drylwyr gan swyddogion plismona’r ffyrdd arbenigol mewn cydweithrediad â swyddogion o’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Mae’r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod cerbydau’n bodloni safonau diogelwch a bod gyrwyr yn glynu wrth gyfreithiau traffig y ffyrdd, gan gyfrannu at ddiogelwch cyffredinol holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Yn ystod yr ymgyrch, cyhoeddwyd 25 adroddiad trosedd traffig gan yr heddlu, a rhoddwyd hysbysiadau gwahardd uniongyrchol neu dros dro i 18 o gerbydau gan archwilwyr o’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau.
💬 "Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â gyrru peryglus a sicrhau bod pob gyrrwr ar ein ffyrdd yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r gyfraith," meddai’r Arolygydd Dawn Fencott-Price. "Mae Ymgyrch Spotlight yn fenter bwysig ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r 5 Angheuol a lleihau nifer y gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ar ein ffyrdd. Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn rhagweithiol o ran mynd i’r afael â’r peryglon hyn ac yn gweithio i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.”
Byddwn ni’n parhau i weithio ochr yn ochr â Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a phartneriaid eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth, targedu ymddygiad gyrru peryglus, ac yn y pen draw, achub bywydau.