Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn wedi’i garcharu am 20 mlynedd am drais, ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a stelcio ar ôl i bedair menyw godi eu llais am ei ymddygiad peryglus a helwriaethol.
Cyfaddefodd Jamil Ahmed ei fod wedi cyflawni troseddau yn erbyn pedair dioddefwraig – un o ardal Heddlu Dyfed-Powys a thair o ardaloedd heddlu eraill. Cyhuddwyd y dyn 28 oed o Glydach yn Abertawe â thrais ac ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn erbyn menyw o Lanelli, a’i ddisgrifiodd fel dyn ‘bygythiol’ a ‘brawychus’.
Clywodd Llys y Goron Abertawe sut yr adroddodd y dioddefydd ei bod hi wedi cael ei threisio gan Ahmed pan oedd hi’n anymwybodol. Fe wnaeth hi ond cael gwybod am y drosedd pan ddangosodd fideo ohono’n cael cyfathrach rywiol gyda hi wrth iddi gysgu.
Fe wnaeth hefyd reoli agweddau o’i bywyd, gan ei hatal rhag siarad gyda dynion eraill, atal aelodau o’r teulu rhag cysylltu â hi, cau ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a bygwth niweidio pobl roedd hi’n eu hadnabod.
Rheolodd ei hemosiynau a’i harian, ac fe wnaeth hyd yn oed cysgu tu allan i’w chartref, a ger ysgol ei phlant fel y byddai’n ei gweld wrth fynd â nhw yno yn y bore.
Ar ôl pledio’n euog i dri chyhuddiad o drais, tri chyhuddiad o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ac un cyhuddiad o stelcio, dedfrydwyd Ahmed i 20 mlynedd o garchar, gyda thrwydded estynedig o wyth mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau. Y mae hefyd yn destun gorchymyn atal penagored.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Gwnstabl Jack Herbert o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Ahmed yn unigolyn peryglus a ddangosodd ymddygiad bwriadus a helwriaethol tuag at bedair menyw, gan wneud iddynt ofni ei ffrwydradau.
“Canmolaf bob un ohonynt am gael y cryfder i godi eu llais amdano, ac adrodd am ei weithredoedd troseddol er mwyn inni ymchwilio a’i ddwyn i gyfiawnder. Maen nhw wedi bod yn ddewr iawn, a diolch iddyn nhw, mae Ahmed wedi derbyn y ddedfryd hir hon o garchar.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw mewn perthynas orfodaethol, neu sydd wedi dioddef trosedd rhywiol, i estyn allan am gymorth. Naill ai adroddwch amdano wrth yr heddlu, a gallwn sicrhau eich bod chi’n derbyn y cymorth sydd angen arnoch yn ystod ymchwiliad, neu edrychwch ar siarad gyda gwasanaeth arbenigol os nad ydych chi’n barod i adrodd amdano eto.”
Cewch wybodaeth ynglŷn â sut i adrodd am drais a throseddau rhywiol, a manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau cymorth, fan hyn.