Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Jake Dighton, 31 oed, o Stryd y Bont, Llanelli, wedi’i ddedfrydu i tair blynedd a thri mis ar ôl cyfaddef iddo gipio bag llaw dynes wrth iddi gerdded adref ar ôl noson allan gyda ffrindiau gwaith yn Llanelli.
Gan ddisgrifio’r digwyddiad a ddigwyddodd yn hwyr nos Wener 20 Mehefin, esboniodd y dioddefydd ei bod hi wedi sylwi ar gysgod yn ymddangos dros ei hysgwydd chwith wrth iddi gerdded adref gyda chydweithwyr ar hyd Heol Glenalla.
Dywedodd ei bod hi’n meddwl mai rhywun yn cerddded heibio oedd y cysgod, ond yna teimlodd rhywun yn defnyddio nerth i fachu ei bag llaw, gan achosi iddi syrthio i’r llawr.
Er ei bod wedi dioddef briwiau a chleisiau, ceisiodd redeg ar ôl y drwgdybyn wrth iddo redeg i ffwrdd gyda’i bag llaw, ond collodd olwg arno ac aeth tuag adref.
Cyflwynwyd adroddiad i’r heddlu, a lansiodd ymchwiliad i adnabod y drwgdybyn. Diolch i deledu cylch cyfyng yn yr ardal leol, cafodd y drwgdybyn ei adnabod fel Jake Dighton, a gafodd ei arestio’n gyflym ar amheuaeth o ladrata.
Arweiniodd cryfder y dystiolaeth yn erbyn Dighton ato’n pledio’n euog pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 25 Gorffennaf.
Ar Dydd Gwener 5 Rhagfyr, cafodd ei ddedfrydu i tair blynedd a thri mis am y drosedd.
Dywedodd y swyddog yn yr achos hwn, Cwnstabl Rhydian Davies: “Rydyn ni’n croesawu dedfryd Jake Dighton; roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig ar gyfer y dioddefydd, sydd wedi bod yn ail-fyw’r digwyddiad ers y noson honno.
“Rwy’n obeithiol y bydd y ddedfryd hon yn helpu’r dioddefydd, sydd wedi cael trafferth mynd allan yn gyhoeddus ers y digwyddiad, i barhau â’i datblygiad o ran dychwelyd i’r ffordd yr oedd hi.
“Mae ymddygiad rheibus Dighton yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylai neb ofni cerdded y strydoedd yn y dref maen nhw’n byw ynddi.
“Ni ellir gorbwysleisio’r effaith ar y dioddefydd, ac rwy’n ei chanmol am ei dewrder a’i chryfder wrth helpu ein hymchwiliad a’r gweithdrefnau llys a ddilynodd.
“Roedd yn amlwg bod y digwyddiad wedi cael effaith ar deulu’r dioddefydd hefyd, ac rwy’n ddiolchgar i’w ffrindiau, teulu, a chymuned ehangach Llanelli am eu cefnogaeth. Mae lefel y cymorth a ddangoswyd yn dangos yn glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef ar ein strydoedd.
“Roedd hon yn enghraifft ardderchog o sut y gweithiodd sawl adran o fewn Heddlu Dyfed-Powys gyda’i gilydd i ddwyn y troseddwr i gyfiawnder. Estynnaf ddiolch arbennig i Adran Ymchwiliadau Troseddol Llanelli, yr Uned Ymchwilio Leol, ein Tîm Plismona Bro ac Atal, a’n cydweithwyr ymateb.
“Diolch i’r gymuned leol a’r cyhoedd ehangach a ymatebodd i’n hapêl am wybodaeth ac am gefnogi ein hymchwiliad.”