Stamp amser presennol: 03/08/2026 07:43:23
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu gwraig a’i phartner am gynllwynio i ladd ei gŵr o 10 mlynedd er mwyn parhau â’u perthynas

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:31 19/12/2025

JAILED Michelle Mills and Geraint Berry.jpg

Mae dynes a’i phartner wedi’u carcharu am 19 mlynedd gynllwynio i ladd ei gŵr o 10 mlynedd er mwyn parhau â’u perthynas.

Heddiw, dedfrydwyd Michelle Mills a’i phartner Geraint Berry, y ddau ohonynt yn 46 oed, am gynllwynio i ladd Christopher Mills, a fethodd pan ymladdodd yn ôl.

Cynllwyniodd y pâr i ladd Mr Mills yn y garafán roedd y pâr priod yn aros ynddi ym mis Medi 2024, gyda’r bwriad o ladd y cyn-filwr a gwneud iddo edrych fel pe bai wedi lladd ei hun.

Ymosododd Berry ac ail ddyn – Steven Thomas – ar Mr Mills yn yr eiddo, ond fe’u gorfodwyd i ffoi pan amddiffynnodd ei hun.  

Anfonwyd swyddogion ymateb arfog ac unedau cŵn heddlu i’r lleoliad, ac arestiwyd y drwgdybiedigion ychydig yn ddiweddarach ar ôl cael eu gweld gan hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu’n cuddio mewn llwyni.

Gyda’r ymosodiad wedi’i adrodd wrth Heddlu Dyfed-Powys gan Michelle Mills, a honnodd nad oedd yn gwybod am unrhyw gymhelliad posibl dros dargedu ei gŵr, dechreuodd yr heddlu ymchwiliad i  fyrgleriaeth waethygedig.

Ond cyn hir, gwelwyd nad oedd y sefyllfa fel yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Esboniodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory, o CID Ceredigion: “Roeddem wedi derbyn adroddiad am ddau ddyn yn gwisgo mygydau’n ceisio cael mynediad i garafán ac yna’n ymosod ar y perchennog, ac roeddem wedi arestio dau ddrwgdybyn.

“Ar yr wyneb, roedd yr achos hwn yn ymddangos yn eithaf syml.

“Fodd bynnag, pan chwiliodd ein swyddogion Berry a Thomas, daethpwyd o hyd i fygydau nwy, arfau saethu ffug, ac yn rhyfedd iawn, nodyn hunanladdiad wedi’i deipio a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi’i ysgrifennu gan Christopher Mills, yn eu meddiant.

“Gyda’r datblygiad hwn, cyfeiriwyd yr achos at CID i ymchwilio iddo, a dechreuodd graddau llawn yr hyn a gynlluniwyd ddod i’r amlwg.”

  • Op Dunvegan blood 1
    Gwaed yn y carafan
  • Op Dunvegan mask 1
    Fygydau nyw
  • Op Dunvegan gun 3
  • Op Dunvegan mask 2
  • Op Dunvegan ties 1
  • Sleid flaenorol
  • Sleid nesaf
  • Gwaed yn y carafan

  • Fygydau nyw

Cysylltodd ymchwiliadau fforensig digidol Mrs Mills â’r drwgdybiedigion yn fuan, gyda negeseuon rhyngddi hi a Berry’n datgelu eu bod nhw wedi bod mewn perthynas â’i gilydd.

Er ei bod hi wedi dweud wrth swyddogion nad oedd syniad ganddi pam y byddai ei gŵr yn cael ei dargedu, darganfuwyd bod Mrs Mills yn llwyr ymwybodol y byddai’r ymosodiad yn digwydd, a’i bod hi wedi chwarae rhan ganolog yn y cynllwyn i lofruddio ei gŵr.

Datgelodd negeseuon o fis Awst 2024 ymlaen ei bod hi a Berry wedi bod yn cynllwynio i ladd Mr Mills, gan drafod nifer o ffyrdd y gallent gymryd ei fywyd.

Roedd y rhain yn amrywio o’i fogi wrth iddo gysgu, neu roi gorddos o dabledi cysgu iddo, i’w wenwyno gyda gwrthrewydd yn ei refi neu fysedd y cŵn yn ei salad.

Aeth Berry mor bell â chysylltu â ffrind i ofyn iddo ble y gallai gael gwn gydag ataliwr, a sut i wneud i gar ffrwydro pan fyddai’r injan yn cael ei danio.

Roedd y negeseuon yn cynnwys dau ymweliad â charafán Mr Mills y rhoddwyd y gorau iddynt ar 28 a 29 Awst, gyda Berry’n brifo ei ben-glin ar ôl syrthio.

Ar y trydydd ymgais – ar 20 Medi – dywedodd Mrs Mills wrth Berry y byddai’n annog ei gŵr i yfed fel y byddai’n syrthio i gysgu.  

Adalwyd negeseuon gan Berry yn dweud wrth Mrs Mills ei fod wedi cyrraedd y parc gwyliau, eiliadau yn unig cyn iddynt ddefnyddio nerth i gael mynediad i’r garafán.

O ganlyniad i’r ymholiadau hyn, arestiwyd Mrs Mills yn ei chartref ym Maes Tŷ Gwyn, Llwynhendy. Esgusodd nad oedd hi’n gwybod unrhyw beth, ond dywedodd wrth y swyddog arestio y byddai’n “mynd i’r carchar am hyn”.  

Op Dunvegan NPAS 1
View from the police helicopter searching for Geraint Berry and Steven Thomas

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gregory: “O’r dechrau i’r diwedd, gwadodd Mrs Mills ei bod hi’n rhan o’r cynllwyn. I ddechrau, honnodd nad oedd hi’n adnabod y dynion a ymosododd ar ei gŵr. Yna, ar ôl cael gwybod bod y negeseuon hyn wedi’u datgelu, honnodd ei bod hi’n credu mai ffantasi ydoedd.

“Ni ddywedodd wrth Berry ar unrhyw adeg nad oedd hi eisiau rhoi unrhyw un o’u cynlluniau ar waith, na cheisio atal Berry rhag eu gwireddu. Ei unig bryder oedd peidio cael ei dal.”

Cafodd y tri drwgdybyn eu harestio a’u cyhuddo o gynllwynio i ladd Mr Mills. Cynhaliwyd eu hachos llys ym mis Hydref, lle y canfu rheithgor Michell Mills a Geraint Berry, y ddau ohonynt yn 46 oed, yn euog.

Heddiw, cawsant eu carcharu am 19 mlynedd.

Canfu Steven Thomas, 47 oed, o Glos Coffa yng Nghlydach, yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio, ond roedd eisoes wedi cyfaddef i feddu ar arf saethu gyda’r bwriad o wneud i Christopher Mills gredu y byddai trais anghyfreithlon yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn ef neu rywun arall. Cafodd ei carcharu am 12 mis.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gregory: “Mae’n hawdd colli’n pennau gyda’r manylion dramatig yn yr achos hwn, gyda’i holl droeon, ac anghofio bod dioddefydd tu ôl i’r penawdau syfrdanol a’r straeon tanbaid yn y cyfryngau, ond mae’n bwysig cydnabod bod bywyd Mr Mills wir wedi bod mewn perygl, a bod yr un ddynes y dylai fod wedi gallu ymddiried ynddi tu ôl i’r cynlluniau i gymryd ei fywyd.

“Er mwyn Mr Mills, rwy’n falch bod y broses cyfiawnder troseddol yn awr wedi dod i ben, a bod y tri diffynnydd wedi’u dedfrydu.

“Y mae wedi dioddef nifer mwy o heriau nag y gallwn ddychmygu dros y 15 mis diwethaf, o sylweddoli bod ei briodas, a oedd yn ymddangos yn hapus, drosodd, i gael gwybod bod ei wraig o 10 mlynedd wedi bod yn cynllwynio i’w ladd, gan orffen gyda hithau’n cael ei charcharu.

“Mae Mr Mills wedi dangos dewrder a chryfder cymeradwy drwy gydol ein hymchwiliad, ac rwy’n gobeithio ei fod nawr yn gallu symud ymlaen a chael y cyfle i brosesu digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf.  

“O ran y diffynyddion - Michelle Mills, Geraint Berry a Steven Thomas - maen nhw nawr yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd.

“Er gwaethaf eu pledion dieuog, a honiadau mai anwireddau oedd y cynllwynion i ladd Mr Mills, roedd y dystiolaeth yn dangos bod cynllwyn Mills a Berry’n hollol wir a’u bod wedi gwneud sawl ymgais i geisio ei gael i ddwyn ffrwyth.

“Credaf fod Mills a Berry ill dau’n unigolion oer a chyfrwys, sydd heb ddangos unrhyw edifeirwch am eu gweithredoedd serch y dinistr maen nhw wedi achosi.

“Bu’r ymchwiliad hwn yn un unigryw a chymhleth, a hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a staff a weithiodd yn ddiwyd i gasglu tystiolaeth gref er mwyn sicrhau’r euogfarnau hyn a dedfrydau cryf.”

Geraint Berry and Michelle Mills arrest stills

DI Gregory said: “It is easy to get carried away by the dramatic details in this case, with its many twists and turns, and to forget that there is a victim behind the sensational headlines and lurid media stories. But it is important to acknowledge that Mr Mills’ life was truly at risk, and the person he should have been able to trust the most was behind the plans to harm him.

“I am pleased for Mr Mills’ sake that the criminal justice process has now come to an end, and that the three defendants have been sentenced.

“He has endured an unimaginable number of challenges over the past 15 months, from the realisation that his seemingly happy marriage was over, to being told his wife of 10 years had been plotting to kill him, and ending with her being jailed.

“Mr Mills has shown admirable strength and courage throughout our investigation, and I hope he is now able to move on and have the space to process the events of the past year.

“As for the defendants – Michelle Mills, Geraint Berry and Steven Thomas – they are now facing the consequences of their actions.

“Despite their not guilty pleas, and claims that the plots to kill Mr Mills were just fabrications, the evidence showed that Mills and Berry’s conspiracy was very real and that there had been multiple attempts to bring their plots to fruition.

“I believe both Mills and Berry are cold and calculated individuals, who have shown no remorse for their actions despite the devastation they have caused.

“This has been a complex and unique investigation, and I would like to thank all the officers and staff who worked diligently to gather strong evidence to secure these convictions and strong sentences.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.