Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae aelodau teulu a sefydlodd ffatri ganabis soffistigedig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, yr amcangyfrifir ei bod wedi cynhyrchu cynnyrch gwerth £4.9 miliwn dros bum mlynedd, wedi’u gorchymyn i dalu dros £1miliwn o’u helw yn ôl.
Ymddangosodd Edward McCann, 65 oed, ei wraig Linda, 63 oed, â’u mab Daniel, 40 oed, yn Llys y Goron Abertawe heddiw am wrandawiad Deddf Elw Troseddau mewn perthynas â’r arian a enillwyd ganddynt drwy werthu cyffuriau anghyfreithlon.
Roedd y teulu wedi sefydlu ffatri ganabis soffistigedig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, a gafodd ei haflonyddu ar 23 Hydref 2020 pan weithredodd Heddlu Dyfed-Powys warant.
Wrth chwilio’r eiddo ynysig ym Mlaenllain ger Hendy-gwyn ar Daf, daeth swyddogion o hyd i ffatri ganabis fawr, lle’r oedd y teulu’n cynhyrchu canabis llysieuol, resin canabis, ac olew canabis.
Daethpwyd o hyd i chwe ystafell wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar lawr isaf yr ysgubor, gyda ffannau awyru a goleuadau tyfu ym mhob ystafell. Roedd 202 o blanhigion canabis a oedd yn amrywio o ran eu twf rhwng y chwe ystafell, gyda gwerth posibl o hyd at £460,000.
Lan lofft yn yr ysgubor, roedd ffwrn maint masnachol gyda hambyrddau wedi’u gorchuddio â gweddillion canabis, sawl hors ddillad a oedd yn cael eu defnyddio i sychu canabis, offer ar gyfer echdynnu olew canabis o blanhigion, ac 80 cilogram o gynnyrch gwerth hyd at £1.5 miliwn.
Roedd Linda McCann yn yr ysgubor pan gyrhaeddodd swyddogion, a chafodd ei harestio yn syth, ynghyd â Jack Whittock, o Lanteg, Arberth, a Justin Liles, o Sanclêr. Cafodd ei dedfrydu i chwe blynedd a saith mis o garchar am gynllwynio i gynhyrchu a chyflenwi canabis rhwng 2015 a 2020 a meddu ar eiddo troseddol.
Cafodd Edward McCann ei arestio mewn tŷ wrth ymyl yr ysgubor. Wrth chwilio’r tŷ, daethpwyd o hyd i £10,000 mewn arian parod mewn bwndeli o £1,000 yn yr ystafell wely ym mlaen y tŷ, a bar siocled a oedd yn cynnwys canabis ar fwrdd y gegin. Cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a saith mis o garchar am gynllwynio i gynhyrchu canabis rhwng 2015 a 2020, cynllwynio i gyflenwi canabis, a meddu ar eiddo troseddol.
Yn dilyn ymholiadau gan yr heddlu, canfuwyd mai Daniel McCann, o Waterlooville yn Swydd Hampshire, oedd perchennog yr eiddo, a chafodd ei arestio yn Portsmouth y mis Chwefror canlynol. Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a chwe mis o garchar am gynllwynio i gynhyrchu a chyflenwi canabis rhwng 2015 a 2020 a meddu ar eiddo troseddol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rhys Jones, o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae’r ymgyrch hon dal yn un o’r gwarantau unigol mwyaf mae’r heddlu erioed wedi cynnal hyd yn hyn.
“Dewisodd y teulu McCann yr eiddo hwn yn benodol gan feddwl y gallent ddod i rywle gwledig, diarffordd i sefydlu fferm ganabis ar raddfa ddiwydiannol ac na fyddai neb yn sylwi. Fe wnaethant gamgymeriad, gan fod ein swyddogion a’n staff yn casglu cudd-wybodaeth hollbwysig o’r cymunedau lleiaf a mwyaf anghysbell hyd yn oed, a gweithredu ar hyn er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.
“Aeth llawer iawn o waith i mewn i’r ymchwiliad hwn, o’r dechrau’n deg o ran cael awdurdod ar gyfer y warant gychwynnol, i roi pecyn tystiolaeth cadarn at ei gilydd a sicrhau cyhuddiadau, ac yn y pen draw, dedfrydau hir o garchar i Edward, Daniel a Linda McCann.”
Ynghyd ag ymchwiliad trylwyr i ffynhonnell y cyffuriau yn yr eiddo, fe wnaeth ditectifs hefyd gynnal ymholiadau ariannol a amcangyfrifodd y gallai gwerth cyfanwerthol posibl y cyffuriau a’r cynnyrch dros bum mlynedd fod rhwng £1,798,520.73 and £2,412,333.68.
Yn ystod gwrandawiad Deddf Elw Troseddau, clywodd Llys y Goron Abertawe mai £1,091,330.61 oedd gwerth yr asedau a oedd ar gael, a’u bod yn cynnwys gwerthu dau eiddo, cerbydau Mercedes, Porsche a Harley Davidson, a gemwaith.
Mae’r teulu yn awr wedi cael gorchymyn i dalu’r elw hwn yn ôl.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Owen Lock: “Mae gwaith parhaus gan ein tîm troseddau economaidd wedi mynd â dedfrydau o garchar y teulu McCann gam ymhellach drwy sicrhau y bydd yn rhaid iddynt hefyd dalu’r arian yn ôl a throsglwyddo’r asedau a gawsant o’u gweithgarwch troseddol.
“Gobeithiwn fod hwn yn rhybudd i eraill ac yn atgyfnerthu’r neges na allwch elwa o drosedd.”