Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ben Owen, 35 oed, wedi pledio’n euog i ladrata ar ôl iddo ymosod ar ddyn 79 oed a dwyn ei hen gar o du allan i’w dŷ fis diwethaf.
Ychydig cyn hanner nos nos Fawrth 18 Tachwedd, derbyniodd yr heddlu alwad 999 gan ddyn yn adrodd ei fod wedi dioddef ymosodiad gan ddyn anhysbys a oedd yn gwisgo mwgwd tu allan i’w gartref yn Rhaeadr, Powys, tua 10.30 o’r gloch y noson honno.
Gyda swyddogion yn cael eu hanfon i’r lleoliad yn syth, esboniodd y galwr sut yr oedd rhywun wedi gafael yn ei dei awr a hanner yn gynt a’i dynnu’n dynn am ei wddf cyn i’r allweddi i’w gar clasurol Morgan Plus 4 gael eu rhwygo o’i ddwylo.
Mynnodd y troseddwr, yr ydym yn awr yn ei adnabod fel Ben Owen o Oldbury yng ngorllewin canolbarth Lloegr, gael rhif ffôn y dioddefydd a dywedodd y byddai’n ei alw mewn hanner awr cyn gyrru i ffwrdd yn ei gar clasurol, sydd werth £35,000.
Ychydig yn ddiweddarach, galwodd Owen y dioddefydd a rhoi dau ddewis iddo; naill ai mae’r car yn cael ei ddatgymalu a’i werthu am ddarnau sbâr, neu gallai’r perchennog ei brynu nôl wrtho.
Dyma pryd y galwodd y dioddefydd 999 i wneud yr adroddiad.
Anfonwyd unedau arbenigol, gan gynnwys yr uned plismona’r ffyrdd a’r uned gŵn, i olrhain y drwgdybyn a’r car. Tua 3.30 o’r gloch y bore, gwelwyd y cerbyd wedi’i adael ar ddreif mewn pentref cyfagos, sef Sant Harmon.
Parhaodd swyddogion i chwilio ar droed er mwyn dod o hyd i’r drwgdybyn. Sylwasant ar rywun yn gorwedd o dan goeden. Dywedodd Cwnstabl Edwards wrth yr unigolyn hwn am aros ble’r oedd e, ond yn lle hynny, cododd a neidio dros ffens i mewn i gae. Gan fynd ar ei ôl ar droed, parhaodd Cwnstabl Edwards i rybuddio’r drwgdybyn am stopio rhedeg ac ildio.
Gydag Owen yn gwrthod ildio, bwrodd y swyddog ef i’r llawr cyn ei arestio ar amheuaeth o ladrata a chymryd cerbyd heb ganiatâd y perchennog.
Ar ôl ei chwilio, arestiwyd Owen ymhellach am feddu ar gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B.
Cyhuddwyd y dyn 35 oed â’r pedwar trosedd, a chyfaddefodd i’r troseddau hyn pan ymddangosodd yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Gwener 19 Rhagfyr).
Atafaelwyd y cerbyd a gafodd ei ddwyn am archwiliad fforensig cyn cael ei ddychwelyd i’r perchennog.
Arestiwyd ail ddyn, sy’n 55 oed, mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ond cafodd ei ryddhau heb fod unrhyw gamau gweithredu pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn.
Bydd Owen yn cael ei ddedfrydu yn llys Mold ar Ionawr 29.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Adam Clark, sy’n goruchwylio’r achos hwn: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig ar gyfer y dioddefydd a’i deulu. Mae ein swyddogion yn arddel ymagwedd gadarn tuag at droseddwyr teithiol ac ni fyddwn yn dioddef ymddygiad mor giaidd yn ein hardal. Oherwydd yr ymateb rhagweithiol gan Heddlu Dyfed-Powys, a nerth y dystiolaeth yn ei erbyn, mae Ben Owen wedi pledio’n euog - gan gyflwyno cyfiawnder i’r dioddefydd yn yr achos hwn.