Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi’i garcharu ar ôl cael ei ganfod â dros 300 o blanhigion canabis gwerth hyd at £300,000 mewn eiddo yn y Trallwng.
Dedfrydwyd Klajdi Toci i 16 mis o garchar am y drosedd ar ôl iddo gael ei ganfod yn y tŷ pedwar llawr ar y stryd fawr, a oedd wedi’i droi’n ffatri ganabis.
Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys warant yn yr eiddo am oddeutu 2.30 o’r gloch brynhawn ddydd Mawrth 14 Ionawr 2025 yn dilyn ymchwiliad cudd. Wrth fynd mewn, roedd hi’n glir i swyddogion bod hwn yn osodiad mawr a soffistigedig a oedd wedi’i addasu’n fwriadol i ddarparu ar gyfer fferm ganabis a’i chuddio.
Roedd saith ystafell wedi’u leinio gan blastig gwyn, casgenni dŵr, pympiau dŵr, tiwbiau, hidlyddion aer carbon, ffannau wedi’u gosod ar waliau a nifer o oleuadau cryf er mwyn helpu i dyfu cyfanswm o 294 o blanhigion canabis.
Daethpwyd o hyd i’r diffynnydd yn cuddio yn atig yr adeilad.
Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd ei gyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B, ac fe blediodd yn euog i’r drosedd. Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Chwefror 2025.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddileu cynhyrchu canabis yn ein cymunedau ac wedi gweithredu nifer o warantau llwyddiannus yn y misoedd diwethaf.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joseph Parker: “Hoffwn ddiolch i gymuned y Trallwng am eu gwyliadwriaeth a’u rhagweithgarwch o ran adrodd am weithgarwch amheus wrth yr heddlu.
“Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei derbyn gan aelodau o’r cyhoedd yn ein helpu i adeiladu’r darlun o weithgarwch anghyfreithlon sy’n ein galluogi i weithredu gwarantau fel hyn er mwyn sicrhau bod ein hardal yn parhau’n elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau.
“Mae’n ein hatgoffa am ein hymrwymiad tuag at ddileu ac atal sylweddau niweidiol rhag niweidio ein cymunedau, a diolchwn i’r cyhoedd am y rôl hollbwysig maen nhw’n chwarae yn y gwaith hwn.”
Gallwch helpu’r heddlu yn eu gwaith o fynd i’r afael â thyfu a chyflenwi cyffuriau drwy adrodd am unrhyw bryderon neu wybodaeth. Dyma rai o’r arwyddion i chwilio amdanynt os ydych chi’n amau bod canabis yn cael ei dyfu yn eich ardal chi:
Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth, ni waeth pa mor bitw mae’n ymddangos, helpu i wneud gwahaniaeth mawr. Cewch gyflwyno gwybodaeth drwy un o’r dulliau canlynol:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
💬 | Anfonwch neges uniongyrchol atom drwy gyfryngau cymdeithasol
📞 | 101
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.