Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae merch yn ei harddegau wedi ei chael yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.
Cafwyd y ferch na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn euog o’r tri chyhuddiad yn dilyn treial yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd yn flaenorol wedi cyfaddef tri achos o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a meddiant o wrthrych llafnog ar eiddo ysgol.
Disgwylir iddi gael ei dedfrydu.
Galwyd y gwasanaethau brys i’r ysgol ar ddydd Mercher, Ebrill 24, yn dilyn adroddiadau bod tri o bobl wedi eu hanafu. Aethpwyd â dwy athrawes – Fiona Elias a Liz Hopkin – a phlentyn i’r ysbyty i gael triniaeth wedi iddynt gael eu trywanu.
Daliodd camerâu cylch cyfyng y ferch yn cerdded drwy’r ysgol ar fore dydd Mercher, cyn trywanu llawr y neuadd gyda chyllell. Yna gwelwyd hi’n siarad gyda Mrs Elias ar ddau achlysur – tu mewn a thu allan i adeilad yr ysgol – cyn ymosod arni gyda chyllell. Pan gamodd Mrs Hopkin ymlaen i helpu, cafodd hithau hefyd ei hanafu.
Ychydig funudau’n ddiweddarach, wedi iddi gael ei symud oddi wrth y ddwy athrawes, gwelwyd y ferch yn ymosod ar blentyn gyda’r un gyllell.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Ross Evans:
Roedd y digwyddiad hwn yn destun gofid aruthrol, a oedd nid yn unig wedi arwain at dri o bobl yn cael eu niweidio’n gorfforol, ond a effeithiodd ar les y disgyblion a oedd yn bresennol ar y pryd. Dymunwn yn dda iddyn nhw wrth iddynt barhau i ddod dros ddigwyddiad na ddylent byth fod wedi gweld mor ifanc.
Dylai’r ysgol fod yn fan diogel, yn hafan i’r disgyblion sy’n mynd iddi, ac nid oes lle i arfau ar ei thir. Ni fyddwn ni’n dioddef unrhyw ymgais i gyfaddawdu diogelwch plant neu staff, ac fel yr arddangoswyd fan hyn, byddwn ni’n gweithredu’n gyflym ar yr adegau prin iawn maen nhw’n cael eu rhoi mewn perygl.
Hoffwn ddiolch i’m holl gydweithwyr yn y gwasanaethau brys a ymatebodd ar y diwrnod, ynghyd ag athrawon a staff Ysgol Dyffryn Aman a Cyngor Sir Gar am y ffordd wnaethon nhw ymdrin â’r digwyddiad, a’r gymuned leol am y cymorth a roed i ddisgyblion yr ysgol.
Nawr bod y gweithrediadau troseddol wedi dod i ben, gofynnaf inni adael i fywyd yn Nyffryn Aman ddychwelyd i normal fel bod y disgyblion a’r staff yn gallu canolbwyntio ar eu haddysg.