Stamp amser presennol: 03/08/2026 14:12:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae dyn o Rydaman wedi’i garcharu ar ôl pledio’n euog i dreisio dynes yn ei chartref

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:00 28/02/2025

Cyfaddefodd Robert Smith, 26 oed, o Heol Penygarn, Rhydaman, ei fod wedi cyflawni’r trais pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 24 Chwefror, a heddiw, mae wedi’i ddedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis o garchar am y drosedd.

Yn ei wrandawiad dedfrydu heddiw, clywodd y llys sut yr oedd Smith wedi mynd mewn i gartref y dioddefydd a’i threisio wrth iddi gysgu yn ei gwely nos Fawrth 2 Gorffennaf 2024.

Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi mynd mewn i gartref y ddynes drwy honni ei fod yn cynnal “gwiriad lles” ac wedi cymryd mantais ohoni wrth iddi gysgu.

Cyn y noson honno, nid oedd Smith a’r dioddefydd yn adnabod ei gilydd. Cyd-ddigwyddiad llwyr ydoedd eu bod wedi cwrdd yn gynharach y noson honno gan fod y ddau ohonynt yn digwydd bod yng nghartref ffrind cyffredin lle yr yfwyd alcohol. Dywedodd y dioddefydd na fyddai Smith wedi cael unrhyw reswm i fynd mewn i’w chartref yn ddiweddarach y noson honno i gynnal ‘gwiriad lles’.

Fore ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2024, deffrodd y dioddefydd heb unrhyw gof am y noson gynt, ond credai ei bod wedi dioddef trosedd rywiol ddifrifol ar ôl deffro’n noeth ac mewn poen. Cysylltodd y dioddefydd â’r heddlu wedyn i wneud adroddiad swyddogol.  

Mewn datganiad, dywedodd y dioddefydd ei bod hi’n teimlo’n “gorfforol frwnt ac afiach ar ôl yr ymosodiad”, gan esbonio ei fod bron yn amhosibl cyfleu mewn geiriau sut oedd y digwyddiad wedi effeithio arni. Dywedodd y dioddefydd ei bod hi’n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin fel anifail, gan ddisgrifio’r ymosodiad fel un “annynol” ac yn ymyriad â’i hawl i ddewis.  

Clywodd y llys sut oedd bywyd y ddynes “wedi ei droi wyneb i waered” ar ôl cael ei threisio yn ei chartref ei hun, a’i bod wedi symud i ffwrdd o’r ardal wedi hynny am ei bod hi’n ofni am ei diogelwch personol.

Nid yn unig y mae’r dioddefydd wedi gorfod wynebu’r gost ariannol a’r aflonyddwch emosiynol o symud i ffwrdd o gartref roedd hi unwaith yn ei garu, mae hi hefyd wedi gorfod ymdrin ag effaith seicolegol y trais ers y digwyddiad yr haf diwethaf. Esboniodd y dioddefydd sut mae hi nawr yn cael trafferth gyda’i chof tymor byr ac mae’n disgrifio teimlo’n lluddedig, yn fregus, ac ar goll.

Gan grynhoi effaith barhaol y trais, dywedodd y dioddefydd: “Ni fyddaf byth yn dianc rhag yr hyn a wnaeth y dyn hwnnw imi.”

 

Yn dilyn dedfryd heddiw yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock:

“Rwyf eisiau canmol y dioddefydd am fod yn ddigon dewr i adrodd am drosedd y gellir ond ei disgrifio fel un erchyll, rheibus, a hunanol. Dylai cartref rhywun bob amser gael ei ystyried yn hafan ddiogel, ond dinistriodd gweithredoedd Robert Smith fis Gorffennaf llynedd allu’r dioddefydd i fyw mewn hedd yn ei chartref. Ni ellir tanbrisio effaith ei droseddu.

“Mae’r achos hwn wedi’i brofi gan gryfder y dystiolaeth DNA, a adawodd Smith heb fawr o ddewis ond cyfaddef ei euogrwydd yn y llys. Er nad yw’r dioddefydd yn cofio’r hyn ddigwyddodd, mae’r dystiolaeth DNA wedi siarad ar ei rhan.”

“Er na all yr un ddedfryd fyth ddadwneud gweithred ffiaidd Robert Smith, rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw’n rhoi rhywfaint o gysur i’r dioddefydd wrth iddi ddechrau ailadeiladu ei bywyd.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol i ddod ymlaen ac adrodd am y troseddau hyn. Rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw’n dangos y bydd ein swyddogion hyfforddedig arbenigol yn dosturiol, yn archwilio i bob llwybr ymholi rhesymol, ac yn sicrhau bod dioddefwyr troseddau rhywiol yn ein cymunedau’n derbyn cefnogaeth arbenigol. Byddwn ni’n gweithio’n ddiflino wrth fynd ar drywydd troseddwyr o’r fath ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w dwyn i gyfiawnder.”

 

Roedd y dioddefydd yn dymuno diolch i’r swyddogion a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad sydd wedi’i chefnogi drwy gydol y broses ymchwilio a’i diweddaru am ddatblygiadau yn yr achos. Yn ogystal, roedd hi eisiau diolch i’w chynghorydd annibynnol ar drais rhywiol sydd wedi darparu cymorth ymarferol ac emosiynol drwy gydol y broses.

Pwysleisiodd y dioddefydd hefyd ei bod hi’n gobeithio nad yw’r cyhoedd yn dyfalu ynghylch yr achos ar gyfryngau cymdeithasol, gan ychwanegu, “Nid fi yw’r unig ddioddefydd yn yr achos hwn,” gan gyfeirio at yr effaith ar deulu’r diffynnydd. Dywedodd ei bod hi’n teimlo llawer iawn o gydymdeimlad tuag at deulu ehangach Robert Smith, a fydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan ei ddedfryd o garchar, ac roedd hi eisiau pwysleisio ei bod hi’n gobeithio na fydd ei deulu’n dargedau ar gyfer unrhyw gam-drin ar-lein. Roedd y dioddefydd eisiau rhoi ar ddeall y byddai targedu teulu Robert Smith mewn unrhyw ffordd yn annheg, gan ychwanegu “nad ydynt yn gyfrifol am ei weithredoedd.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.