Stamp amser presennol: 13/07/26 17:24:51
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu Dyfed-Powys i werthu Gorsaf Heddlu Gelli Gandryll

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 16:00 27/02/2025

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod am werthu Gorsaf Heddlu Gelli Gandryll ac adleoli i ganolfan newydd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi nodi nad yw Gorsaf Gelli Gandryll yn bodloni gofynion plismona modern.

O ganlyniad, ac fel rhan o gynllun arbed £10m dros dair blynedd, mae penderfyniad wedi ei wneud i gau'r gorsafoedd yn ffurfiol a gwerthu'r eiddo.

Mae’r penderfyniad hwn yn rhan o raglen newid fwy ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau a thechnoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i’n cymunedau.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal eu presenoldeb yn Gelli Gandryll, ac yn gweithredu o ganolfan cydleoli newydd, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n bartner Golau Glas pwysig gyda pherthynas hirsefydlog eisoes yn bodoli. Bydd cydweithio â GTACGC yn golygu y gall Heddlu Dyfed-Powys barhau i sicrhau presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu’n effeithiol â thrigolion lleol a busnesau yn y dref.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis:

“Mae’r penderfyniad hwn wedi dod ar ôl gwerthusiad gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae cau a gwerthu’r gorsafoedd heddlu hyn yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithlon ac effeithiol.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud gyda budd gorau’r trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r gorsafoedd presennol yn bodloni gofynion plismona modern a’u bod yn ddrud i’w rhedeg.

“Rwyf am roi sicrwydd i’n cymunedau lleol bod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chefnogaeth i’n cymunedau lleol, ac ni fydd trigolion a busnesau yn Llanfyllin yn gweld unrhyw wahaniaeth.

“Bydd eich timau plismona bro ac atal lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu effeithiol â thrigolion a busnesau.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn:

“Mae trafodaethau ynghylch gorsafoedd heddlu’n cau neu’n cael eu gwerthu, yn y gorffennol, wedi tanio pryderon am welededd yr heddlu, amseroedd ymateb, a diogelwch cymunedol. Rwy’n deall y pryderon hynny’n llwyr.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis wedi fy sicrhau na fydd y penderfyniad ystadau hwn yn effeithio ar lefel y gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd.

“Er nad yw’r newidiadau hyn yn hawdd, rwyf am fod yn glir - nid yw ein hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd wedi newid. Mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â sicrhau y gall Heddlu Dyfed-Powys weithredu mor effeithlon â phosibl, gan sicrhau bod swyddogion ac adnoddau yn y lleoedd cywir i wasanaethu ein cymunedau'n effeithiol.

“Mewn byd cynyddol ddigidol, mae mwy o ffyrdd nag erioed bellach i bobl gadw mewn cysylltiad â Heddlu Dyfed-Powys. Ochr yn ochr â chyswllt ffôn traddodiadol, rwy’n annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Heddlu, sy’n cynnig diweddariadau pwysig, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd i ymgysylltu.

 “Trwy gofleidio’r ffyrdd amgen hyn o gyfathrebu, gallwn ni i gyd chwarae rhan mewn sicrhau bod plismona’n parhau i fod yn ymatebol ac yn hygyrch, tra’n caniatáu i swyddogion ganolbwyntio ar ddigwyddiadau critigol.

“Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, cysylltwch â fy swyddfa. Mae eich adborth yn bwysig, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Dywedodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Roger Thomas KFSM:

“Mae’n bleser gan GTACGC ddatblygu ei bartneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys gan barhau â’r berthynas hirsefydlog a chadarnhaol sydd gennym ag un o’n partneriaid golau glas.

Mae ein Gwasanaeth wedi ymrwymo i gadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel a thrwy gynyddu nifer y Gorsafoedd Tân cymunedol sydd ar gael i Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, mae’n gwella ein gallu i gydweithio’n agosach ymhellach.”

Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, X, ar-lein, drwy e-bostio: [email protected], neu drwy ffonio 101.

Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd tecstiwch y rhif difrys ar 07811 311 908. Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, risg o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, ffoniwch 999 bob amser.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.