Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cyfaddef ei fod wedi lladd dyn arall ar ôl ei bwno ddwywaith yn ystod noson allan yn Llanelli.
Plediodd Jason Thomas, o Heol Felinfoel, yn euog i ddynladdiad ar beth ddylai fod wedi bod yn ddiwrnod cyntaf treial yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 10 Chwefror.
Achosodd y dyn 40 oed anafiadau pen angheuol i Liam Morgan Whittle ar ôl iddo ei bwno ddwywaith yn fuan ar ôl ei gilydd ddydd Sul 25 Mawrth 2023.
Clywodd y llys bod y gwasanaeth ambiwlans wedi galw Heddlu Dyfed-Powys i gyfeiriad ar Stryd Robinson yn ystod oriau mân y bore, lle’r oedd parafeddygon yn ceisio helpu Mr Morgan Whittle.
Roedd tystion wedi datgelu bod Jason Thomas wedi ymosod ar y dyn 22 oed, felly cafodd y fflat ei gloi fel lleoliad trosedd. Arestiwyd Thomas yn syth ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol. Darganfu swyddogion nes ymlaen y bu anghytuno rhwng y ddau – a oedd yn adnabod ei gilydd drwy ffrind cyffredin – a arweiniodd at y digwyddiad.
Yn anffodus, bu farw Mr Morgan Whittle yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty. Gyda’r dystiolaeth a gasglwyd gan y tîm ymchwilio, cyhuddwyd Thomas o ddynladdiad.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Mawrth.