Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau â’u hymdrechion i adnabod corff dyn y daethpwyd o hyd iddo yng nghronfa ddŵr Claerwen, Powys, ddydd Gwener 18 Hydref 2024.
Aeth swyddogion i’r gronfa ddŵr ar ôl derbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd a oedd wedi gweld corff yn y dŵr ychydig cyn 8.30 o’r gloch y bore hwnnw. Amcangyfrir y gallai’r corff fod wedi bod yn y dŵr am hyd at ddeuddeg wythnos.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, yr Uwch Swyddog Ymchwilio: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi gwybodaeth inni’n barod yn dilyn ein hapeliadau blaenorol.
“Mae archwiliad wedi cadarnhau mai dyn rhwng 30 a 60 oed yw’r corff. Y mae tua 6’ o daldra ac roedd yn gwisgo siwt wlyb Zone 3 Agile, fel yr un yn y llun.”
Maint mawr iawn yw’r siwt wlyb, felly mae’n bosibl fod y gwisgwr tua 6’ – 6’5” o ran taldra, tua 202-220 pwys, gyda brest 44–48 modfedd.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ponting, “Rydyn ni wedi cynnal nifer o ymholiadau, gan gynnwys gwirio cofnodion unigolion coll gyda heddluoedd eraill a chynnal ymholiadau fforensig yn lleol a thu hwnt ar y cyd â Phartneriaid Gorfodi’r Gyfraith.
“Yn anffodus, nid yw’r ymholiadau hyn wedi arwain at adnabod y dyn.
“Rydyn ni’n cadw meddwl agored ynghylch yr amgylchiadau ac yn parhau i weithio i ddarganfod pwy oedd e, unrhyw deulu, a beth ddigwyddodd iddo.
“Rydyn ni dal eisiau clywed gan unrhyw un a ymwelodd â chronfa ddŵr Claerwen, neu’r ardal gyfagos, rhwng dechrau Gorffennaf 2024 a 18 Hydref, ac sydd heb siarad â’r heddlu eto.
“Rydyn ni hefyd yn parhau i apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth – sy’n credu y gallai rhywbeth y soniwyd amdano ymwneud ag unigolyn coll yn eu bywyd nhw, neu rywun maen nhw’n ei adnabod – i ddod ymlaen.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â’r heddlu: