Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Alfred Perkola, 44 oed, i 36 mis o garchar, a Aldi Gjegjaj, 25 oed, wedi derbyn dedfryd o 36 mis ar ôl pledio’n euog i wedi pledio'n euog i droseddau cyffuriau.
Ar ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024, rhyng-gipiodd swyddogion heddlu ddau gerbyd yn teithio gyda’i gilydd. Amheuwyd eu bod yn gysylltiedig â chyflenwi canabis.
Stopiwyd a chwiliwyd y Volvo a’r fan ddim yn bell o’r M4, lle y datgelodd swyddogion bron 100 cilogram o ganabis â gwerth o £1 miliwn ar y stryd, wedi’i guddio mewn bagiau golch, a ffônau symudol.
Arestiodd swyddogion Perkola a Gjegjaj yn gyflym ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chyflenwi canabis, a diolch i ddyfais olrhain ar y fan, roedd modd iddynt ddadansoddi data’r system leoli fyd-eang, gan eu harwain i gwestiynu pam bod y fan wedi bod yn llonydd ar Deras Marmor, Llandysul.
Gan fynd i’r union leoliad, daeth swyddogion at yr hyn a oedd yn ymddangos fel ysgol wag, gan godi amheuon ynglŷn â beth oedd yn mynd ymlaen yn yr hen ysgol gynradd gan fod ffenestri’r adeilad tri llawr dan goed, roedd awyrellau arian yn gadael yr adeilad, ac roedd arogl canabis cryf yn dod o’r lleoliad.
Arweiniodd chwiliad o’r adeilad at yr heddlu’n darganfod gosodiad soffistigedig, gyda chanabis yn cael ei dyfu mewn ystafelloedd amrywiol, annedd, ac arwyddion o blanhigion canabis eraill a oedd wedi’u hamaethu’n ddiweddar – gan arwain at atafaelu 956 o blanhigion canabis eraill.
Diolch i’r camerâu TCC cymhleth yn y lleoliad, pennodd swyddogion fod nifer o bobl, ynghyd â’r fan hur, wedi bod yn ôl ac ymlaen i’r hen ysgol yn ystod y dyddiau cyn iddynt gael eu stopio, gyda ffonau symudol yn dangos eu bod nhw wedi’u paru â’r ddau gerbyd.
Cyhuddwyd y ddau ddyn o cynllwyn i gyflenwi Canabis, pan wnaethant ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Dydd Mercher, Chwefror 26.
Dywedodd DC Steve Thomas, “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i weld dau unigolyn arall yn mynd i’r carchar am eu cysylltiad â chynhyrchu a gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn ardal Dyfed-Powys.
“Mae rhyng-gipiad y cerbydau hyn a gweithgareddau’r unigolion wedi ein galluogi i gymryd gwerth bron i £2 filiwn o gyffuriau allan o’r gadwyn gyflenwi a oedd i fod ar y strydoedd.
“Nid oes pwrpas i gyffuriau yn ein cymunedau. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein heddlu mor elyniaethus â phosibl i gyffuriau a byddwn ni’n cynnal amryw o weithgareddau ar gyfer mynd i’r afael â’r cyflenwad cyffuriau yn rhagweithiol.”