Stamp amser presennol: 13/07/26 17:24:51
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ymgyrch gyffuriau fwyaf Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd £12 miliwn o ganabis allan o’r gadwyn gyflenwi

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 09:55 18/02/2025

Mae timoedd heddlu sy’n mynd i’r afael â’r bygythiad a gyflwynir gan ffermydd canabis ar raddfa ddiwydiannol wedi cymryd gwerth dros £12 miliwn o ganabis allan o’r gadwyn gyflenwi.

Gan ddwyn cyrch ar adeiladau, o hen ysgolion a siopau gwag yng nghanol trefi i swyddfa papur newydd segur, aflonyddodd Heddlu Dyfed-Powys ar 37 o ffermydd canabis maint masnachol yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gyda 35 o bobl yn cael eu harestio a’u cyhuddo am eu rhan yn y troseddu.

Bydd eu gwaith yn mynd ymhellach na hynny, wrth i dimoedd plismona rhagweithiol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys barhau i gasglu tystiolaeth a gweithredu arni fel rhan o Ymgyrch Scotney - ymgyrch a arweinir gan CID a lansiwyd mewn ymateb i’r nifer cynyddol o ffatrïoedd canabis ac sy’n cael eu sefydlu gan gangiau troseddu trefnedig.

Mae Scotney wedi profi i fod yn un o ymgyrchoedd cyffuriau ehangaf a mwyaf llwyddiannus yr heddlu hyd yma, gyda gwerth £12 miliwn o ganabis wedi’i atafaelu a’i ddinistrio, ynghyd â thunelli o offer goleuo a gwresogi ar raddfa fasnachol.

Day two Kidwelly 30 small

Gan esbonio sut ddaeth yr ymgyrch i fodolaeth, dywedodd y Prif Arolygydd Rich Lewis: “Drwy waith plismona rhagweithiol sy’n digwydd ledled yr heddlu, daeth i’n sylw bod nifer o ffatrïoedd canabis ar raddfa fawr yn cael eu darganfod mewn ardaloedd digyswllt i bob golwg. Rydyn ni’n sôn am filoedd o blanhigion yn cael eu hatafaelu yn ystod pob gwarant, a oedd yn anarferol iawn i ni.  

“Sefydlwyd yn eithaf buan bod cysylltiad rhwng y ffatrïoedd hyn wedi’r cyfan. Credwyd bod y bobl yr amheuwyd eu bod yn gyfrifol wedi’u recriwtio gan gangiau troseddu trefnedig tu allan i’r ardal heddlu a oedd yn gobeithio na fyddai neb yn sylwi arnynt yn ein trefi gwledig.

“O ystyried maint y ffatrïoedd a faint o ganabis oedd yn cael ei ddarganfod, gwyddem fod angen gweithredu’n gadarn, felly lansiwyd Ymgyrch Scotney ddechrau 2024.”

Wedi’i arwain gan Adran Ymchwiliadau Troseddol yr Heddlu, mae Ymgyrch Scotney’n gweld swyddogion ditectif, arbenigwyr cudd-wybodaeth a swyddogion plismona rhagweithiol yn cydweithio i ganfod ble mae’r ffatrïoedd yn cael eu sefydlu, ac i ruthro i mewn er mwyn aflonyddu arnynt cyn y gellir amaethu’r canabis.  

Hyd yn hyn, mae 37 o warantau wedi’u gweithredu yn y pedwar rhanbarth, gyda degau o filoedd o blanhigion wedi eu darganfod.

Esboniodd y Ditectif Brif Arolygydd Lewis nad yw’r ffatrïoedd hyn yn cael eu sefydlu mewn llefydd sydd wedi eu cuddio o’r golwg, lle gall troseddwyr fynd a dod heb i neb eu gweld, ond mewn ardaloedd cyhoeddus, canol trefi, a hyd yn oed ar yr un stryd â gorsaf heddlu.

“Yr hyn sy’n rhyfeddol, ynghyd â faint o ganabis rydyn ni wedi’i ddarganfod yn cael ei dyfu, yw ymagwedd haerllug y rhai sy’n gyfrifol,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Lewis.

“Rydyn ni wedi gweld hen ysgolion, siopau gwag, a hen swyddfa papur newydd yn cael eu defnyddio fel ffatrïoedd canabis, ac roedd nifer o’r rhain yng nghanol trefi lle y byddai’n anodd iawn i bobl beidio â sylwi arnynt. Gwnaeth hyn inni gredu bod y gangiau’n defnyddio tactegau eofn megis esgus bod yn adeiladwyr neu’n landlordiaid er mwyn mynd i mewn ac allan o’r adeiladau hynny heb godi amheuon.

“Eu tacteg oedd cuddio yng ngolwg pawb – pwy fyddai’n amau y gallai rhywun sy’n gwisgo siaced lachar ac yn cario bocsys mawr i mewn i adeilad segur yng ngolau dydd fod yn sefydlu ffatri ganabis?  

“Mae’r ffaith bod 400 o blanhigion wedi’u canfod 4 drws i lawr wrth yr orsaf heddlu yng Nghastellnewydd Emlyn yn dangos eu penderfynoldeb i gyflawni eu hymdrechion troseddol – ond mae ein penderfynoldeb i’w hatal yn fwy.”

Yn hytrach na chael eu dadrithio gan faint a graddfa’r ffatrïoedd canabis hyn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn fwy ymroddedig nag erioed i ddileu’r bygythiad, gyda ffynonellau cudd-wybodaeth yn destun craffu dyddiol a chynlluniau’n cael eu rhoi ar waith yn gyflym lle yr amheuir bod ffatri ganabis wedi’i sefydlu.  

Dros gyfnod o flwyddyn, mae 35 o bobl wedi eu harestio a’u cyhuddo dan Ymgyrch Scotney: mae 29 o’r rheiny wedi eu carcharu, mae pedwar yn disgwyl eu dedfrydu, mae dau eto i gofnodi ple, ac mae dau o bobl ychwanegol wedi eu hallgludo yn dilyn eu harestio.

Canlyniadau llys Sir Gaerfyrddin:

Heol y Brenin, Caerfyrddin

Jurgen Kodra: Carcharwyd am 2 blynedd a 4 mis am gynhyrchu canabis.

Hen Ffordd Llangynnwr, Caerfyrddin

Nurdin Hoxha: Cyhuddwyd o ymwneud â chynhyrchu canabis - dedfrydu ar Fawrth 7.

Heol Gordon, Llanelli

Argil Bushi: Carcharwyd am 20 mis am gynhyrchu canabis.

Aldi Xhaferri: Carcharwyd am 9 mis am gynhyrchu canabis.

Craddock Street, Llanelli

Blerjan Dedja: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis.

Heol Bigyn, Llanelli

Franko Sulovari: Carcharwyd am 18 mis am gynhyrchu canabis.

Mountain Gate Inn, Rhydaman

Beni Mirashi: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis.

Maes Y Wern, Carwe

Viktor Gjeloshi: Carcharwyd am 15 mis am gynhyrchu canabis.

Nikoll Necaj: Carcharwyd am 6 mis am gynhyrchu canabis.

Eduart Nenfusho: Carcharwyd am 15 mis am gynhyrchu canabis.

Stryd Vaughan, Llanelli

Hazis Rapi: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis.

 

Canlyniadau llys Ceredigion:

Cyn-ysgol Llandysul

Alfred Perkola: Cynllwynio i gyflenwi a meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi canabis. Dedfrydu ar 26 Chwefror 2025.

Aldi Gjegjaj: Cynllwynio i gyflenwi a meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi canabis. Dedfrydu ar 26 Chwefror 2025.

Cyn-ysgol Llandysul (ail warant)

Armeld Troski: Carcharwyd am 40 mis am gynhyrchu canabis

Njazi Gjana: Carcharwyd am 30 mis am gynhyrchu canabis

Ervin Gjana: Carcharwyd am 30 mis am gynhyrchu canabis

 

Canlyniadau llys Sir Benfro:

Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland

Zhupa Gentian: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis

Ergest Mucopata: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis

Stopio a chwilio, Pont Cleddau

Albert Nikolla: Carcharwyd am bedair blynedd a thri mis am feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac am fod ynghlwm â chyflenwi cocên.

Pajtim Meta: Carcharwyd am bum mlynedd am feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac am fod ynghlwm â chyflenwi cocên.

Rhes India, Cil-maen, Penfro:

Sergej Zakacura: Carcharwyd am saith mlynedd a thri mis am gynhyrchu canabis

Cilgant y Gogledd, Hwlffordd:

Shahin Mustaj: Carcharwyd am wyth mis am gynhyrchu canabis

Ffordd Treowen, Pennar, Doc Penfro:

Ervis Kerciku: Carcharwyd am 12 mis am gynhyrchu canabis

Iard Sgaffaldau JP, Honeyborough:

Flamur Vengo: Dedfrydwyd i 24 mis o garchar am gynhyrchu canabis

Nertil Dallenga: Dedfrydwyd i 24 mis o garchar am gynhyrchu canabis

Stryd Dimond, Doc Penfro:

Armando Beti: Carcharwyd am ddwy flynedd ac wyth mis am ymwneud â chynhyrchu canabis

Stryd Fawr, Penfro:

Amarildo Daja: Carcharwyd am 12 mis am ymwneud â chynhyrchu canabis

Stryd Dimond, Doc Penfro:

Esmirald Dedej: Cyhuddwyd o ymwneud â chynhyrchu canabis

Arsen Tanasica: Carcharwyd am 12 mis am ymwneud â chynhyrchu canabis

 

Canlyniadau llys Powys:

Cyn-adeilad County Times, Y Trallwng

Dino Marku: Carcharwyd am 18 mis am gynhyrchu canabis

Cyn-adeilad County Times, Y Trallwng (ail warant)

Kastriot Gega: Carcharwyd am 6 mis am gynhyrchu canabis

Stryd Lydan, Y Trallwng

Alban Qemalli: Carcharwyd am 22 mis am ymwneud â chynhyrchu canabis

Stryd Fawr, Y Trallwng

Kladji Toci: Carcharwyd am 16 mis am ymwneud â chynhyrchu canabis

Cyn-fanc HSBC, Llandrindod

Allgludwyd dau ddyn yn dilyn eu harestio

Wrth iddynt barhau â’u gwaith, maen nhw’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd fod yn wyliadwrus, bod yn ymwybodol o’r arwyddion bod ffatri ganabis yn gweithredu, ac adrodd am unrhyw bryderon wrth yr heddlu.

“Rydyn ni wedi rhannu canlyniadau gwarantau Ymgyrch Scotney, a byddwn ni’n parhau i wneud hynny wrth inni fynd i mewn i 2025,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Lewis.

“Mae wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus iawn hyd yn hyn, ac rydyn ni’n cymryd camau mawr ymlaen tuag at flaenoriaeth yr heddlu o wneud ardal Dyfed-Powys yn elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau.

“Byddwn ni’n parhau â’n gwaith i fynd i’r afael â’r gwendid a achosir gan y gangiau hyn, a byddwn ni’n gweithredu ar unrhyw gudd-wybodaeth a ddarperir gan y cyhoedd a allai’n helpu i gyflawni’r nod hwn.

“Ochr yn ochr â hyn, byddwn ni’n canolbwyntio ar yr unigolion hynny sy’n galluogi’r gweithgarwch troseddol hwn i ddigwydd yn eu heiddo. Drwy hyn, rydyn ni’n golygu ymchwilio pobl sy’n rhentu neu’n prydlesu eiddo heb ddiwydrwydd dyladwy, y rhai sy’n darparu nwyddau trydanol a chaledwedd, gan gynnwys hydroponeg, ac unrhyw un sy’n elwa o’r ymdrech hwn.”

Arwyddion mwyaf cyffredin ffatri ganabis yw:

  • GWRES: Mae angen gwres ar blanhigion canabis i dyfu. Efallai byddwch chi’n gweld anwedd ar ffenestri neu’n sylwi nad oes ia ac eira ar doeon adeg y gaeaf.
  • AROGL: Mae gan blanhigion canabis arogl cryf, sy’n gryfach yn ystod tri mis olaf y cyfnod tyfu.
  • SBWRIEL: Llawer o sbwriel ‘gardd’ wedi’i adael tu allan, megis potiau planhigion, compost a chynwysyddion bwyd planhigion gwag.
  • GOLAU: Mae angen goleuadau llachar ar ganabis 24 awr y dydd i dyfu. Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed sŵn ffannau.
  • CYFRINACHEDD: Efallai bydd ffenestri wedi’u gorchuddio er mwyn cuddio gweithgarwch anghyfreithlon, neu efallai bydd cloeon ychwanegol wedi’u gosod.
  • TRYDAN: Efallai bydd eich stryd yn dioddef toriadau trydan mwy cyson ac anarferol wrth i fesuryddion trydan gael eu hosgoi.
  • YMWELWYR: A oes pobl yn mynd a dod, o bosibl yn ystod oriau anarferol? A yw’r goleuadau ymlaen o hyd ond nid yw’n ymddangos fel pe bai rhywun yno?

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu bryderon i’w rhannu, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

Ar-lein | https://bit.ly/DPPContactOnline,

E-bost | [email protected],

Ffôn | 101

Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.

Day one Llanelli 13 small 4

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.