Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog pob beiciwr modur i fanteisio ar gynllun rhad ac am ddim a allai achub bywyd pe bai gwrthdrawiad.
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi dechrau'r flwyddyn newydd gyda phecyn newydd o'n Cardiau CRASH poblogaidd i feicwyr modur, sydd ar gael am ddim i feicwyr a theithwyr pilion unigol, ac aelodau clybiau beiciau modur ledled Cymru.
Gofynnir i feicwyr lenwi'r Cardiau 'Crash', sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol amdanynt eu hunain ar gyfer criwiau ambiwlans pe bai gwrthdrawiad. Gallai helpu i arbed amser gwerthfawr, yn enwedig os yw'r person yn anymwybodol neu'n methu â chyfathrebu.
💬 Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru, Rhys John-Howes:
“Ar ryw adeg yn eich oes feicio mae’n bosibl eich bod wedi 'disgyn yn annisgwyl' neu efallai wedi bod yng nghwmni beiciwr a wnaeth felly. Mae 'CRASH' yn gyfres o gamau hawdd i’w cofio, i’ch cadw chi’n ddiogel, yn ogystal â’r beiciwr anffodus a gafodd y gwrthdrawiad.
“Ar un ochr o’r cerdyn fe welwch y cofair 'CRASH'. Y sawl sy’n gwneud yr alwad 999 yw’r unigolyn pwysicaf, oherwydd bod y wybodaeth maent yn ei chynnig yn pennu ymateb y gwasanaethau brys.
"Mae’r cerdyn yn dilyn cyfres debyg o gwestiynau cyffredinol y mae canolfannau rheoli’r gwasanaeth ambiwlans yn eu defnyddio, ac yn canolbwyntio ar ddiogelwch, lleoliad y gwrthdrawiad, a pha mor ddifrifol ydyw. Ar ochr arall y garden mae'r wybodaeth sy'n cael ei defnyddio gan y gwasanaeth ambiwlans a'r ysbyty gan gynnwys lle i nodi unrhyw feddyginiaethau y mae'r beiciwr modur ag alergedd iddynt, hanes meddygol cyfredol a manylion unrhyw feddyginiaethau maent yn eu cymryd ar hyn o bryd."
Yn bwysicach na dim, mae hefyd lle ar y garden i nodi enw a rhif ffôn cyswllt y perthynas agosaf. Mae nifer o ffonau y dyddiau hyn yn gofyn am gôd pin er mwyn cael mynediad at unrhyw wybodaeth, sy'n golygu nad oes modd cael gafael ar unrhyw rifau ffôn 'ICE' sydd wedi'u storio.
Rhowch y cerdyn yn leinin eich helmed am mai yma y bydd y gwasanaethau brys yn chwilio amdano. Gallwch helpu’r gwasanaethau brys drwy eu rhybuddio bod gennych gerdyn CRASH drwy roi dot gwyrdd ar gornel dde eich fisor haul/helmed, gan wneud yn siwr nad yw’n amharu ar eich golwg. A pheidiwch â phoeni, mae’n ddiogel i’w roi ar unrhyw helmed.
Cofiwch - mae diosg helmed modur yn sgil sy’n waith i ddau unigolyn ac sy’n cael ei ymarfer gan bersonél hyfforddedig - peidiwch byth â cheisio diosg helmed rhywun arall ar eich pen eich hun.
Ewch i walesbybike.com i gael rhagor o wybodaeth am ddysgu reidio, mentrau beiciau modur, paratoi eich hun a'ch beic, ac awgrymiadau ymwybyddiaeth i yrwyr.