Stamp amser presennol: 03/08/2026 15:30:09
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dioddefwyr trais domestig yn osgoi digartrefedd diolch i gynllun peilot diogelwch yn y cartref

Cynnwys y prif erthygl

Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:00 29/01/2025

Mae menter beilot a luniwyd i helpu goroeswyr cam-drin domestig aros yn ddiogel yn eu cartrefi a lleihau’r perygl o ddigartrefedd wedi gweld 76 o breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn cael eu diogelu mewn cwta chwe mis.

Mae’r prosiect Fy Man Diogel, sy’n bartneriaeth rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) a Chyngor Sir Gaerfyrddin, yn mynd i’r afael â bylchau sylweddol mewn gwasanaethau cymorth, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n byw ar ben eu hunain neu mewn cartrefi sydd wedi’u rhentu’n breifat, sydd yn aml yn methu fforddio rhoi mesurau diogelwch gofynnol ar waith.

Drwy ddarparu ymyriadau megis cloeon, larymau, ffensio a nodweddion diogelwch eraill, mae’r rhaglen yn galluogi goroeswyr cam-drin domestig i atal troseddwyr ac osgoi’r tarfu emosiynol ac ariannol o adleoli.

Dywedodd Cwnstabl Stephen Morris, Swyddog Lleihau Troseddu Dyfed-Powys:

“Os oes goroeswr cam-drin domestig yn byw mewn llety mewn meddiant preifat neu lety preifat ar rent, yn aml iawn, ni allant fforddio cynnal argymhellion diogelu.

“Nodom y bwlch hwn drwy siarad â dioddefwyr cam-drin domestig ac ymweld â nhw, a llwyddom i sicrhau cyllid er mwyn cynnal gwaith diogelwch a helpu pobl a oedd yn dianc rhag cam-drin domestig i aros yn eu cartrefi eu hunain – gan eu hatal rhag dod yn ddigartref.”

Mae’r fenter yn agos iawn at flaenoriaethau strategol ar gyfer tai ac atal cam-drin domestig, gan osod pwyslais cryf ar ymyrraeth gynnar er mwyn atal digartrefedd.

Canfu gwerthusiad diweddar fod y rhan fwyaf o oroeswyr cam-drin domestig yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi ar ôl derbyn cymorth drwy Fy Man Diogel, tra bod canran yr un mor uchel wedi argymell y gwasanaeth fel dewis amgen yn lle symud.

“Yn aml, mae’n hawdd iawn anfon pobl i loches, ond pam y dylai fod yn rhaid iddynt fynd i loches? Maen nhw’n ddioddefwyr trosedd. Efallai bod ganddynt blant sy’n mynd i’r ysgol leol, ac efallai bod ganddynt deulu’n byw gerllaw neu rwydweithiau cymorth lleol, felly pam y dylai fod yn rhaid iddynt adael?

“Yn aml, yn y tymor hir, nid dyna maen nhw eisiau. Fy ngwaith i yw sicrhau bod mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle fel bod yr heddlu’n gallu cyrraedd dioddefwyr cyn y troseddwyr,” meddai Cwnstabl Morris.

“Mae tîm tai’r cyngor hefyd wedi derbyn hyfforddiant, felly os oes un person dewr yn datgan ei fod yn ddigartref oherwydd cam-drin domestig, gallant eu cyfeirio’n uniongyrchol i’r heddlu i roi’r cyfle inni ymyrryd a chefnogi’r dioddefydd, sy’n rhywbeth a fyddai o bosibl heb ddigwydd o’r blaen.

“Rwy’n falch ein bod ni wedi llwyddo i ddefnyddio arian i helpu i ddiogelu rhai o’r dioddefwyr mwyaf agored i niwed rhag niwed difrifol a chau’r bwlch hwn o ran darpariaeth.”

 

O fis Ebrill i fis Hydref 2024, cefnogwyd 76 o bobl gan y cynllun, gydag 20 o ymyriadau i’r bobl hynny a oedd yn byw mewn cartrefi roeddent yn berchen arnynt ac 17 ymyriad i’r bobl hynny a oedd yn byw mewn llety preifat ar rent. Gwnaed 26 ymyriad i’r rheini a oedd yn byw mewn tai awdurdod lleol, pedwar i bobl a oedd yn byw mewn eiddo cymdeithas tai, a naw a oedd yn byw mewn eiddo landlord cymdeithasol cofrestredig.

 

Drwy ymgynghori â Phanel Goroeswyr Canolbarth a Gorllewin Cymru, datgelwyd bod dioddefwyr yn wynebu heriau sylweddol o ran cael mynediad i fesurau diogelwch yn y cartref wrth brofi cam-drin domestig.

Nodwyd y bwlch hwn mewn cymorth ac aed i’r afael ag ef drwy arian a ddarparwyd gan SCHTh a Chyngor Sir Gaerfyrddin, a hwyluswyd cyflenwi drwy’r fenter Strydoedd Mwy Diogel. Ariennir y genhadaeth Strydoedd Mwy Diogel gan y Swyddfa Gartref, ac mae’n anelu i leihau niwed difrifol a chynyddu hyder y cyhoedd mewn plismona ac yn y system cyfiawnder troseddol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac Aelod Cabinet dros Gartrefi- Y Cynghorydd Linda Evans:

“Fel rhaglen beilot, mae’n tanlinellu ymrwymiad cadarn tuag at leihau’r straen ar wasanaethau lloches a digartrefedd, ac yn grymuso dioddefwyr i gynnal sefydlogrwydd ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd. Mae ei hamcanion craidd yn cynnwys gwella diogelwch dioddefwyr, lleihau’r peryglon a gyflwynir gan droseddwyr, a darparu dewis amgen ymarferol i ddadleoliad.

“Yn ei gam peilot, mae’r prosiect wedi arddangos llwyddiant mesuradwy a chefnogaeth gref gan randdeiliaid. Mae adolygiadau rheolaidd a mecanweithiau adborth ar waith i wella ei effeithiolrwydd. Wrth i Fy Man Diogel barhau i dyfu, mae ganddo’r potensial i fod yn fodel ar gyfer ymyriadau yn y dyfodol sydd wedi’u hanelu at gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig ac atal digartrefedd.”

Mae’r cynllun yn ffordd arall y mae Heddlu Dyfed-Powys yn dangos ei ymrwymiad tuag at helpu i ddileu cam-drin domestig.

Ychwanegodd Cwnstabl Morris: “Os bydd y cynllun hwn yn parhau, hyderaf y bydd yn llwyddo i leihau nifer y bobl sy’n datgan wrth y cyngor eu bod yn ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig."

Roedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn gobeithio y byddai’r cynllun peilot yn helpu i rymuso goroeswyr i aros yn eu cartrefi eu hunain.  

Meddai:

“Mae’n dda gennyf gefnogi’r cynllun hwn a bod yn bartner. Gobeithiaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau goroeswyr cam-drin domestig. Drwy fynd i’r afael â’r bylchau yn y gefnogaeth a darparu mesurau diogelwch ymarferol, rydyn ni eisiau grymuso goroeswyr i deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi eu hun a lleihau’r perygl o ddigartrefedd.

“Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a chredaf fod gan y cynllun hwn y potensial i gyflwyno newid cadarnhaol a pharhaol i’r rheini sydd ei angen fwyaf.”

 

Os oes angen adrodd am gam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu arnoch, cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

  • Ar-lein
  • E-bost: [email protected]
  • Ffôn: 101

Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.

 

*Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n gallu’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch ar-lein ar gyfer Byw Heb Ofn, Cymorth i Fenywod, neu’r Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio – mae gan bob un o’r rhain linellau cymorth am ddim.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.