Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Masnachu pobl yw’r weithred o recriwtio, cludo, trosglwyddo, llochesu, neu groesawu unigolion drwy rym, drwy dwyll neu drwy orfodaeth er mwyn camfanteisio arnynt.
Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd yw bod pobl sy’n agored i niwed yn cael eu meithrin a’u gwthio i gamfanteisio rhywiol; derbyn cynigion swydd peryglus a chael eu caethiwo i fywyd o lafur dan orfod; neu ddod o hyd i waith mewn cartrefi preifat dim ond i gael eu hecsbloetio heb un ffordd allan.
Mae sawl peth a all arwain at rywun yn cael ei fasnachu. Efallai bod rhywun yn ei orfodi; efallai ei fod wedi bod yn ceisio dianc rhag cam-drin neu dlodi; neu efallai ei fod yn ceisio gwella bywyd ei deulu.
Yma yn Nyfed-Powys, mae swyddogion wedi dod ar draws ‘garddwyr’ canabis yr amheuir eu bod wedi eu masnachu o wledydd eraill er mwyn tyfu’r cyffur mewn ffatrïoedd mawr. Yn yr achosion hyn, cyflwynir cyfeiriadau er mwyn nodi pa un ai a ydynt yn ddioddefwyr masnachu, ac er mwyn sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gefnogaeth briodol i’w helpu.
Felly beth allwn ni wneud?
Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun fod yn ddioddefydd masnachu, ceisiwch siarad gydag ef ac ystyriwch pa un ai a yw ei gefndir yn swnio’n rhesymol, neu pa un ai a yw’n ymddangos yn nerfus wrth siarad gyda chi. Dydyn ni ddim yn sôn am holi rhywun a allai fod yn fregus yn barod yn dwll - mae’n ymwneud â dangos lefel o ddiddordeb a gofal a allai helpu dioddefydd i geisio cymorth neu gefnogaeth.
Er mwyn dysgu mwy am Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl, galwch heibio i wefan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: https://www.nationalcrimeagency.gov.uk/what-we-do/crime-threats/modern-slavery-and-human-trafficking