Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
DEDFRYDU | Mae tri dyn wedi’u dedfrydu i’r carchar ar ôl pledio’n euog i gynhyrchu llawer iawn o ganabis gwerth hyd at £620,000 mewn hen adeilad ysgol yn Llandysul.
Dedfrydwyd Njazi Gjana, 27 oed, ac Ervin Gjana, 24 oed, i ddwy flynedd a chwe mis o garchar, tra bod Armeld Troski wedi’i ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis am y drosedd.
Cynhaliwyd gwarant gan Heddlu Dyfed-Powys yn yr hen ysgol gynradd ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024 yn dilyn adroddiadau gan y cyhoedd am weithgarwch amheus yno.
Ar ôl cael mynediad i’r eiddo, roedd yn amlwg i’r swyddogion bod hwn yn baratoad soffistigedig ar raddfa fawr a oedd wedi’i addasu’n fwriadol i ddarparu ar gyfer y fferm ganabis a’i chuddio. Wrth archwilio’r eiddo a’r sympiau enfawr o ganabis ar draws y tri llawr, clywodd swyddogion sŵn symudiadau’n dod o lawr stâr, a oedd yn dangos bod pobl eraill yn bresennol yn yr adeilad.
Gweithredodd swyddogion yn ddi-oed er mwyn dod o hyd i ddau unigolyn, Njazi ac Armid, a’u harestio, tra bod trydydd dyn, y gwyddom erbyn hyn mai Ervin Gjana ydyw, wedi dianc o’r eiddo – gan ddringo dros ffens wifrog a rhedeg tuag at gaeau cyfagos.
Drwy’r defnydd o ddrôn a chwiliad corfforol gan swyddogion, daethpwyd o hyd i Gjana yn wlyb stecs gyda chrafiadau mieri ar ei freichiau wrth ymyl ffordd gyfagos, ac fe’i harestiwyd yn ddi-oed ar amheuaeth o drin y canabis.
Ar ôl iddynt gael eu harestio, cyhuddwyd y tri dyn o gynhyrchu cyffur dosbarth B, ac fe wnaethant bledio’n euog i’r drosedd pan ymddangoson nhw yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2024.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ben Nicholls: “Hoffwn ddiolch i gymuned Llandysul am eu gwyliadwriaeth a’u rhagweithgarwch o ran adrodd am weithgarwch amheus i’r heddlu.
“Mae’r wybodaeth rydyn ni’n derbyn gan aelodau o’r gymuned yn ein helpu i greu’r darlun o weithgarwch anghyfreithlon sy’n ein galluogi i weithredu gwarantau fel hyn er mwyn sicrhau bod ein hardal yn parhau’n elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau.
“Mae dedfryd ddydd Llun yn ein hatgoffa o’n hymrwymiad tuag at ddileu ac atal sylweddau niweidiol sy’n niweidio ein cymunedau, ac rydyn ni’n diolch i’r cyhoedd am eu rhan hollbwysig yn y gwaith hwn.”
Gallwch helpu’r heddlu â’r gwaith o fynd i’r afael â thyfu a chyflenwi cyffuriau drwy adrodd am unrhyw bryderon neu wybodaeth. Dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt os ydych chi’n amau bod canabis yn cael ei drin yn agos atoch chi:
• Arogl penodol yn dod o eiddo a synau o ffaniau awyru.
• Ffenestri wedi’u gorchuddio er mwyn osgoi datgeliad.
• Pobl a cherbydau’n mynd a dod yn ystod oriau anarferol.
• Goleuadau llachar ymlaen yn barhaus; er bod yr eiddo’n ymddangos fel pe bai’n wag.
• Llawer o anwedd ar ffenestri.
• Gwifrau anarferol i eiddo oherwydd gallai’r mesuryddion trydan fod wedi’u hosgoi.
• Sbwriel ‘gardd’, megis potiau planhigion, gwrtaith, compost a chemegion.
Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth, waeth pa mor fach y mae’n ymddangos, helpu i wneud gwahaniaeth mawr. Gallwch wneud hynny ar un o’r ffurfiau a ganlyn:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
💬 | Anfonwch neges uniongyrchol atom drwy’r cyfryngau cymdeithasol
📞 | 101
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, sef 07811 311 908.
Ar gyfer yr holl newyddion plismona lleol, apeliadau a gwybodaeth am ddigwyddiadau ymgysylltu, gallwch ddilyn eich Tîm Plismona Bro ac Atal lleol ar Facebook drwy chwilio am Heddlu Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron a Llandysul.