Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes wedi’i charcharu am bedair blynedd am achosi marwolaeth baban mewn gwrthdrawiad tu allan i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Tarodd Bridget Carole Curtis, 70 oed, Mabli Cariad Hall, 8 mis oed, pan oedd hi yn ei phram tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ar 21 Mehefin 2023.
Cafodd Mabli ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, lle bu farw yn ystod oriau mân y bore ar 25 Mehefin er waethaf ymdrechion gorau staff meddygol.
Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu, cyhuddwyd Curtis o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar 24 Gorffennaf 2024. Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ar 20 Medi 2024, lle plediodd yn euog.
Heddiw, cafodd ei dedfrydu i bedair blynedd o garchar. Bydd hi hefyd yn cael ei gwahardd rhag gyrru am wyth mlynedd, a bydd yn rhaid iddi lwyddo mewn prawf estynedig cyn y bydd hi’n cael gyrru eto.
Gan siarad yn y llys, dywedodd rhieni Mabli bod eu teulu cyfan wedi’u ‘chwalu a’u dinistrio’ gan weithredoedd Curtis y diwrnod hwnnw, ac na fyddent byth yn dod dros y galar o golli eu baban.
Wrth ddedfrydu Curtis, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Geraint Walters fod bywyd Mabli wedi’i gipio’n ‘ddisynnwyr a diangen’, gan ychwanegu ei fod yn anodd dychmygu achos ‘mwy ofnadwy o ddi-hid’ na hyn.
Dywedodd y Rhingyll Sara John o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu Mabli, sydd wedi gorfod dioddef y boen o’i cholli yn yr amgylchiadau trasig a chwbl osgoadwy hyn.
“Roedd hwn yn ymchwiliad anodd, ac rydyn ni’n ddiolchgar i deulu Mabli am eu hamynedd a’u hurddas wrth iddynt aros am y canlyniad hwn heddiw.”
DATGANIAD GAN Y TEULU:
Fel teulu, hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys a phawb arall sydd wedi bod yn gysylltiedig â sicrhau cyfiawnder ar gyfer Mabli heddiw.
Bu’n 19 mis dirdynnol i gyrraedd y pwynt hwn, ond gwerthfawrogwn mor gymhleth yw’r ymchwiliadau hyn er mwyn sicrhau’r canlyniad cywir.
Mae’n rhaid inni lywio gweddill ein bywydau heb ein babi bach, Mabli Cariad, a gwblhaodd ein teulu nawr. Fel rhieni, mae’n rhaid inni barhau i gefnogi ein plant eraill i ymdopi â’u galar dwfn, galar yr ydym yn ei rannu pob eiliad o bob dydd.
Mabli Cariad oedd yr heulwen yn ein bywydau, a byddwn yn ei charu a’i cholli am byth.
Os oes gwers i’w ddysgu o farwolaeth ddiangen Mabli, y ffaith bod angen i bawb sy’n eistedd tu ôl i olwyn cerbyd sylweddoli eu bod nhw’n gyfrifol am eu gweithredoedd eu hun a lles eraill yw hynny.