Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae uwch reolwr fforensig sydd wedi gweithio ar rai o ymchwiliadau uchaf eu proffil Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn y Wobr Prif Gwnstabl arobryn.
Dathlwyd Glan Thomas am ei ymrwymiad diysgog i ragoriaeth a thwf proffesiynol drwy gydol ei yrfa.
Ers 1985, mae Glan wedi datblygu gyrfa 40 mlynedd anhygoel wedi ymrwymo i ddiogelwch cyhoeddus, cyfiawnder a phroffesiynoli gwasanaethau fforensig.
Yn 2009, daeth yn Bennaeth yr Uned Cefnogaeth Wyddonol yn Heddlu Dyfed-Powys, gan drawsnewid yr uned yn ganolfan ragoriaeth, gweithredu technolegau fforensig blaengar, symleiddio ymchwiliadau a gwella canlyniadau achosion.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Ifan Charles:
“Mae Glan Thomas yn arweinydd ysbrydoledig sydd wedi gwasanaethu ei gymuned yn falch, ar ôl dechrau ei yrfa fel Cwnstabl Gwirfoddol ddechrau’r 80au.
“Wedi’i barchu’n genedlaethol am ei brofiad a’i arbenigedd, y mae wedi derbyn nifer fawr o Gymeradwyaethau’r Prif Gwnstabl am ei gysylltiad allweddol ag achosion mawr.
“Drwy gydol ei yrfa, y mae wedi arddangos ymrwymiad diysgog i ragoriaeth a datblygiad proffesiynol.”
Mae Glan wedi bod yn Uwch Reolwr Tystiolaeth Fforensig ar y rhan fwyaf o’r achosion proffil uchaf yn hanes Heddlu Dyfed-Powys.
Mae Glan wedi sefydlu diwylliant o broffesiynoldeb a gwaith tîm, gan weithredu achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol, ac ennyn parch eang ar draws yr heddlu a thu hwnt. Y mae hefyd wedi hyrwyddo mentrau i drin heriau fforensig cymhleth gydag arloesedd ac effeithlonrwydd.
Mae ei ymagwedd bragmatig a gwylaidd wedi arwain at gyfraddau gwell o ran cadw staff heddlu o fewn y maes fforensig a datblygu amrediad eang o arweinwyr sydd dal yn cyflenwi yn y sefydliad heddiw.
Bu ei arweinyddiaeth yn allweddol o ran datrys rhai o’r achosion mwyaf cymhleth ac uchel eu proffil yn y DU. Fel Rheolwr Lleoliadau Trosedd, goruchwyliodd Glan yr ymateb fforensig a rheolaeth tystiolaeth ar gyfer dau o achosion uchaf eu proffil yn y DU:
Ymgyrch Ottawa (Euogfarn y Llofrudd Lluosog o Sir Benfro John Cooper, 2011): goruchwyliodd ail-archwiliad tystiolaeth achos oer mewn dau ddynladdiad dwbl a chyfres o droseddau rhywiol, gan weithredu technegau fforensig modern i sicrhau euogfarn Cooper. Sicrhaodd ei arweinyddiaeth ddadansoddiad gofalus iawn a chyflwyniad o dystiolaeth a brofodd yn allweddol yn y llys.
Ymgyrch Tempest (Herwgipiad a Llofruddiaeth April Jones, 5 oed, 2012): roedd ei rôl yn cynnwys rheoli strategaeth fforensig gymhleth a sawl lleoliad pan oedd holl sylw’r cyhoedd a’r cyfryngau arnynt. Profodd y dystiolaeth fforensig yn allweddol unwaith yn rhagor o ran euogfarnu Mark Bridger, gan sicrhau cyfiawnder ar gyfer April Jones a’i theulu.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Ifan Charles: “Mae Glan yn enghraifft o’r safonau uchaf o ran gwasanaeth cyhoeddus ac arweinyddiaeth.
“Nodir ei yrfa 40 mlynedd gan ymrwymiad, arloesedd ac ymrwymiad cadarn i gyfiawnder.
“Gydag enw da yn genedlaethol am ragoriaeth a pharch cydweithwyr a chymheiriaid, mae Glan wedi trawsnewid gweithrediadau fforensig ac ysbrydoli’r rhai o’i gwmpas.”
Ar ôl derbyn ei wobr yn ystod seremoni wobrwyo’r heddlu ddydd Gwener 4 Gorffennaf, dywedodd Glan:
“Mae’n fraint gennyf dderbyn Gwobr Cyflawniad Eithriadol y Prif Gwnstabl Charles. Wrth imi adlewyrchu ar ddegawdau o wasanaeth i’n cymunedau, mae’n rhaid imi gydnabod cyfraniad amhrisiadwy ein cymuned plismona, y timoedd o Swyddogion, Staff Heddlu a Gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino ar ran pob un ohonom.”
Mae gwobr y Prif Gwnstabl eleni wedi’i noddi’n garedig gan CDW.