Stamp amser presennol: 23/06/26 16:54:05
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yn Sir Benfro wedi’i gydnabod am warchod oedolyn agored i niwed rhag sgam Harry Potter

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:00 10/07/2025

imagey7phb.png

Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yn Sir Benfro wedi’i gydnabod am warchod oedolyn agored i niwed rhag sgam Harry Potter 

 

Mae swyddog cefnogi cymunedol yr heddlu yn Sir Benfro wedi cael ei chydnabod ar ôl gwarchod oedolyn agored i niwed rhag dioddef sgam ar-lein yn ymwneud â thwyllwr yn honni ei fod yn gymeriad Harry Potter.

Helpodd ymyrraeth gynnar Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, Rachel O’Neill, i atal niwed emosiynol ac ariannol posibl, gan helpu hefyd i addysgu’r dioddefwr am sgamwyr a sut maen nhw’n gweithredu.

Diolch i’r cysylltiadau rhagorol y mae Rachel wedi’u meithrin o fewn y gymuned, ymddiriedwyd ynddi i siarad â’r dioddefwr a’i argyhoeddi nad y cymeriad ffuglennol Hermione Granger oedd yr unigolyn a oedd yn siarad ag ef.

Dywedodd Rachel, sydd wedi gweithio yn rhan o dîm plismona ac atal bro cymdogaeth Aberdaugleddau ers chwe blynedd: “Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser i feithrin ymddiriedaeth yn y gymuned ac egluro fy mod i yma i helpu.

“Trwy gyfrwng y berthynas dda sydd gen i yn y gymuned, llwyddais i eistedd gyda’r dyn a gredai fod Hermione o Harry Potter eisiau bod yn ffrind iddo ar-lein. Roedd y twyllwr yn gofyn am fenthyca arian, ac er y cymerwyd peth amser i ddeall y gwir, llwyddais i’w argyhoeddi nad yr unigolyn gwirioneddol oedd dan sylw. Llwyddais i’w addysgu am sgamwyr a sut maen nhw’n gweithredu.

“Oni bai ei fod yn ymddiried ynof fi, efallai y byddai wedi cael ei dwyllo gan y sgamiwr ac efallai y byddai’r math hwn o drosedd wedi llithro drwy’r rhwyd.”

Mae Rachel bellach yn wyneb adnabyddus, mawr ei pharch yn y dref. Yn ogystal â siarad am amrywiaeth o faterion diogelu, gan gynnwys sgamiau ar-lein, cyffuriau, cam-drin a pherthnasoedd iach, mae hi hefyd yn trefnu digwyddiadau gyda’r clwb ieuenctid lleol ac wedi helpu i sicrhau cyllid ar gyfer llawer o brosiectau cymunedol.

Mae hi hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddiddymu rhwystrau rhwng yr heddlu a’r cyhoedd, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae hi wedi meithrin perthnasoedd parhaol â phobl a fyddai unwaith yn ofni’r heddlu, ac wedi eu hannog i aros yn ddiogel, siarad a chael eu clywed.

O ganlyniad i’r ffaith bod Rachel wedi “canolbwyntio’n gyson ar y gymuned”, cafodd ei choroni’n enillydd gwobr Gofalu yng Ngwobrau Heddlu Dyfed-Powys ar 4 Gorffennaf 2025.

Pleidleisiwyd o blaid y wobr yn gyfan gwbl gan y cyhoedd, ac mae’n dathlu swyddogion heddlu, staff neu wirfoddolwyr yn Heddlu Dyfed-Powys, sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Disgrifiodd unigolyn a bleidleisiodd o blaid Rachel ei bod fel rhywun sydd “bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu pobl a gwella ei ‘phatshyn’”.

Dywedodd un arall: “Mae Rachel yn gwneud cymaint yn y gymuned, gan gyrraedd cymaint o unigolion a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Mae hi bob amser yn agored, yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd ati. Mae Rachel bob amser yn sicrhau bod pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a’i ddeall, a bydd hi’n gweithio’n ddiwyd nes dod o hyd i’r atebion.” 

Hefyd yn cael canmoliaeth uchel yng nghategori’r wobr Gofalu roedd goreuon y gweddill, sef Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, Jonathan Crayford o Cross Hands, a ddisgrifiwyd gan y cyhoedd fel “asgwrn cefn y gymuned”, a Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, Matthew Kieboom sydd, yn ôl y gymuned, yn mynd “y tu hwnt i’r disgwyl hyd yn oed pan nad ydyw ar ddyletswydd”.

Ymunodd mwy nag 20 o grwpiau ac unigolion â nhw, a chawsant eu cydnabod am eu hymdrechion i blismona yn y seremoni, a gynhaliwyd ym mhencadlys yr heddlu ac a noddwyd gan CDW.

Dywedodd Rachel ei bod wedi ei syfrdanu wrth ennill y wobr, a oedd yn golygu mwy iddi oherwydd bod y gymuned wedi cymryd yr amser i’w henwebu a phleidleisio drosti.

“Mae fy swydd yn rhan enfawr o’m mywyd i,” meddai hi.

“Mae pawb yn gwybod faint rwy’n dwlu ar fy swydd ac yn ei gwerthfawrogi. Nid llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth yn eu gwaith, ac rwy’n falch o wneud gwaith a all helpu eraill.

“Rwy’n teimlo’n freintiedig ac yn ddiymhongar iawn i ennill y wobr hon. Mae cael eich cydnabod gan y gymuned yn teimlo’n arbennig iawn. Mae’n golygu fy mod i’n gwneud fy ngwaith yn gywir. Os yw’r gymuned yn meddwl fy mod i’n gwneud gwaith da, mae’n fy ysgogi i fod hyd yn oed yn well.”

Mae Rachel wedi meithrin perthnasoedd rhagorol gydag asiantaethau partner.

Roedd hi’n allweddol wrth godi arian ar gyfer ystafell synhwyraidd, trefnu cinio Nadolig i oedolion agored i niwed, trefnu sesiynau casglu sbwriel cymunedol, ac y mae wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau noddedig.

Dywedodd y fam i dri o blant, sy’n 45 oed: “Rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi gallu helpu pobl yn y gymuned. Pan gyfarfûm â’r oedolion agored i niwed yn y ganolfan am y tro cyntaf, roedden nhw mor ofnus o’r heddlu. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae’n hyfryd gweld mor hyderus y maen nhw, a’r ymddiriedaeth sydd ganddyn nhw ynof fi.

“Pan fydd pobl yn gweld wyneb cyfarwydd, maen nhw’n dysgu ymddiried ynoch chi, ac felly byddan nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus i siarad â’r heddlu ac adrodd am unrhyw ymddygiad amheus.

“Un tro, daeth unigolyn ataf i ddweud ei fod yn gallu arogli arogl rhyfedd yn y toiled. Y gwir oedd bod rhywun yn ysmygu marijuana, a daethom o hyd i declynnau yn ymwneud â chyffuriau sy’n gysylltiedig â heroin. Sylweddolodd yr unigolyn hwnnw fod rhywbeth o’i le, yn dilyn ein sgyrsiau addysg cyffuriau, ac roedd ganddo’r hyder i ymddiried ynof fi.

“Mae’n gymaint o fraint i mi gael bod yn y swydd hon. Nid dim ond ticio blychau yw diben ein gwaith ni; mae’n ymwneud â gwneud popeth posibl i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.