Stamp amser presennol: 03/08/2026 10:16:09
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae swyddog heddlu o Sir Gaerfyrddin, a frwydrodd yn erbyn fflamau i ryddhau dyn a oedd yn gaeth yn ei gar, a oedd ar dân, wedi’i gydnabod am ei ddewrder aruthrol.

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 09:00 11/07/2025

image8hllf.png

Mae swyddog heddlu o Sir Gaerfyrddin, a frwydrodd yn erbyn fflamau i ryddhau dyn a oedd yn gaeth yn ei gar, a oedd ar dân, wedi’i gydnabod am ei ddewrder aruthrol.

Ni feddyliodd Cwnstabl Jonathan Tatam dim am ei ddiogelwch ei hun i helpu i achub bywyd y dyn. Roedd car y dyn ar dân yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd â thractor.

 

Heb oedi dim, gydag adrenalin yn ei ysgogi, dilynodd Jonathan ei reddf naturiol a rhedodd yn ôl i’r car heddlu i hôl diffoddwr tân, cyn rhuthro nôl at y tân.

 

Llwyddodd i atal y tân yn ddigon hir i gyrraedd yr unigolyn a oedd wedi’i gaethiwo, yr oedd ei goes wedi’i binio o dan y dangosfwrdd.

 

Gyda’r fflamau’n ail gynnau ac amser yn mynd yn brin, tynnodd Jonathan y dyn allan o’r car a’i lusgo i ddiogelwch cyn bod y car yn wenfflam.

 

Dywedodd Jonathan, sydd ond wedi bod yn swyddog ers tair blynedd: “Roedd gwylio’r darn ffilm camera corff nes ymlaen yn eithaf swrrealaidd. Digwyddodd y cyfan mor gyflym.”

 

“Rwyf dal yn ei chael hi’n anodd amgyffred yr hyn a wnes i a sut y gallai fod wedi bod yn wahanol iawn. Roedd ffrindiau’r dyn, a oedd wedi bod yn teithio gydag ef, yn erfyn arnom i wneud rhywbeth, a gwyddwn na allwn sefyll nôl a gwylio.”

 

“Rwy’n cofio meddwl bod y dyn hwn yn mynd i farw pe na bawn i’n gwneud rhywbeth yn syth.

 

“Roedd y car ar ffordd un trac wrth ymyl clawdd a doedd dim llawer o le i symud. Rwy’n cofio ei fod yn dwym iawn oherwydd gwres y tân ac roeddwn i’n poeni y byddai’r clawdd yn mynd ar dân hefyd.”

 

“Yn ffodus, roedd gennym ddiffoddwr tân yn y car heddlu. Fel arall, rwy’n amau y byddai’r dyn yma heddiw.”

 

“Meddyliais y byddai’n rhoi ychydig o seibiant iddo o’r tân pe bawn i’n medru cael y fflamau i ffwrdd o goesau’r dyn, ac yn rhoi’r nerth ychwanegol yr oedd ei angen i geisio rhyddhau ei hun. Yn naturiol, roedd mewn poeni oherwydd ei anafiadau ac yn mynd i banig. Mae’n rhaid bod y rhyddhad o gael gwared ar y fflamau am ychydig funudau wedi rhoi’r cryfder iddo symud ei droed ac ymryddhau.”

 

“Roeddwn i’n gwybod bod amser o’r pwys mwyaf. Gallwn glywed sŵn popian a chlecian, sef y teiars yn ffrwydro, mae’n siŵr. Dydw i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd trwy fy meddwl, ond gwyddwn fod yn rhaid imi gael y dyn i ffwrdd o’r car cyn gynted â phosibl, a llusgais ef i lawr y ffordd gyda fy nghydweithiwr, a roddodd gymorth cyntaf iddo.”

 

“Tua 30 eiliad yn ddiweddarach, roedd y car yn wenfflam.”

 

Nid dyna ddiwedd ar ddewrder Jonathan. Gydag adrenalin yn pwmpio, rhedodd o gwmpas yn ceisio rheoli’r digwyddiad, a ddigwyddodd tu allan i Gynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, yr haf diwethaf. Cliriodd y ffordd er mwyn caniatáu mynediad i wasanaethau brys eraill, a chynorthwyodd yr ambiwlansiau awyr i gario eu hoffer o’r man glanio at y dyn a oedd wedi’i anafu.

 

Aed â’r dyn mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau lluosog, gan gynnwys ffemwr toredig a llosgiadau gradd tri.

 

Dywedodd Jonathan, 33 oed, sy’n byw ar gyrion Caerfyrddin, ei fod wedi derbyn cefnogaeth neilltuol gan yr heddlu.

 

Meddai: “Ni wnaeth yr hyn ddigwyddodd fy nharo’n iawn tan imi fynd adref y noson honno. Cynigwyd cymorth imi, ac roedd fy nghydweithwyr yn barod i wrando.

 

“Cefais fy ngalw i wrthdrawiad traffig y ffyrdd arall a oedd yn ymwneud â cherbyd ar dân ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac rwy’n cofio meddwl, ‘dim eto.’ Mae’n rhan o’r swydd ac mae’n dda gwybod bod cymorth ar gael i swyddogion os byddant ei angen. Roedd fy nghydweithwraig, Cwnstabl Catrin Jones, hefyd yn neilltuol ar y dydd ac ar ôl y digwyddiad.”

 

Diolch i feddwl chwim, dewrder aruthrol a gwasanaeth Jonathan i blismona, cyflwynwyd gwobr dewrder iddo, a oedd wedi’i noddi gan Niche, yng Ngwobrau Heddlu Dyfed-Powys. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, a noddwyd yn gyffredinol gan CDW, ym Mhencadlys yr Heddlu nos Wener 4 Gorffennaf, a gwelwyd dros 20 o grwpiau ac unigolion yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion.  

Mae Jonathan hefyd wedi’i enwebu am wobr dewrder genedlaethol.

 

Meddai: “Mae’n braf cael fy nghydnabod mor gynnar yn fy ngyrfa gyda’r heddlu, ac rwy’n diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi i. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy enwebu, heb sôn am ennill gwobr. Roeddwn i ond yn gwneud fy ngwaith.”

“Bu’n ddymuniad gennyf i fod yn swyddog heddlu erioed, a gwnes gais sawl gwaith pan oeddwn i’n iau cyn cael y swydd o’r diwedd yn 30 oed.”

 

“Ymunais â’r heddlu er mwyn ceisio helpu eraill, er, ni ddisgwyliais erioed rhywbeth fel hyn. Rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod i wedi ennill, ond yn falchach fyth fy mod i wedi gallu helpu i achub bywyd y dyn. Mae’n deimlad swrrealaidd ond braf.”

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.