Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gafodd ei ddal â chocên, canabis a chetamin gwerth hyd at £9,000 pan ddioddefodd wrthdrawiad sgwter trydan wedi’i garcharu am bum mlynedd.
Roedd Justin Cadwell o Aberdaugleddau eisoes dan ymchwiliad am feddu ar gyffuriau dosbarth A a B â’r bwriad o gyflenwi pan oedd yn gysylltiedig â gwrthdrawiad yn Hakin Point â’i adawodd yn anymwybodol yn gynharach eleni.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wybod am wrthdrawiad yn ymwneud ag e-sgwter gan ystafell reoli’r heddlu ychydig ar ôl 7 o’r gloch nos Sadwrn 1 Mawrth 2025. Ar gyrraedd, gwelsant Cadwell, 29 oed, a reidiwr arall, yn gorwedd ar y llawr wrth ymyl sgwter trydan.
Wrth aros am ambiwlans, gwelodd y swyddog fag plastig clir gyda chanabis llysieuol ynddo yn hongian o boced cot Cadwell. Wrth i barafeddygon dorri ei got ar agor, fe wnaethant dorri bag o bowdwr gwyn a oedd wedi’i guddio yn ei lewys yn anfwriadol. Daethpwyd o hyd i fag arall o bowdwr gwyn yn ei got, ynghyd â £570 mewn arian parod mewn bag ysgwydd.
Unwaith yr oedd yn ymwybodol, rhwystrodd Cadwell yr heddlu a pharafeddygon, ac roedd y swyddog a oedd yn bresennol yn amau ei fod dan ddylanwad sylweddau a reolir.
Aed â Cadwell i’r ysbyty i gael ei asesu ar gyfer unrhyw anafiadau, ac aed ag ef i ddalfa’r heddlu nes ymlaen. Canfuwyd mai cocên oedd y sylweddau y daethpwyd o hyd iddynt yn ei got, a bod ei werth ar y stryd rhwng £7,080 a £9,200. Cafodd ei gyhuddo o feddu ar gocên a chanabis gyda’r bwriad o gyflenwi.
Roedd Cadwell eisoes yn destun ymchwiliad am droseddau cyffuriau ar yr adeg hon, yn dilyn stop wiriad o’i gar yn ardal Hampshire ym mis Awst 2024. Arweiniodd chwiliad o’i gerbyd at ganfod llawer iawn o ocsid nitrus, cocên, canabis a chetamin.
Roedd Cadwell yn mynnu bod yr holl sylweddau ar gyfer defnydd personol, ac nid i’w cyflenwi.
Arweiniodd chwiliad o’i gartref yn Observatory Avenue, Aberdaugleddau, at ragor o ganabis, cocên, cyfrwng torri a dros £25,000 mewn arian parod yn cael eu hadfer. Gwerth y cyffuriau ar y stryd oedd rhwng £5,031 a £6,191.
Cyhuddwyd Cadwell o feddu ar gocên gyda’r bwriad o gyflenwi, meddu ar ganabis gyda’r bwriad o gyflenwi, meddu ar ocsid nitrus gyda’r bwriad o gyflenwi, meddu ar getamin, a meddu ar eiddo troseddol.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Gorffennaf, lle y cafodd ei garcharu am bum mlynedd ar gyfer y troseddau, yn ogystal â derbyn gwaharddiad rhag gyrru am ddwy flynedd am fethu â darparu sampl gwaed.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Vinny Barrett: “Roedd hwn yn ymchwiliad trylwyr iawn gan ein swyddogion, a oedd yn rhagweithiol o ran stopio cerbyd Cadwell tu allan i’r ardal heddlu, ac a gynhaliodd chwiliad dilynol o’i gartref yn Sir Benfro.
“Credwn y bydd y ddedfryd hon wedi aflonyddu ar gyflenwad cocên, cetamin a chanabis yn ardal Aberdaugleddau, sy’n ganlyniad cadarnhaol ar gyfer y gymuned.”