Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Jake Dighton, 31, o Stryd y Bont, Llanelli, ei adnabod diolch i deledu cylch cyfyng a ddangosodd ei fod yn ardal y lladrad.
Plediodd yn euog i’r drosedd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, Gorffennaf 25.
Clywyd bod y dioddefydd ar ei ffôn symudol i’w sboner pan welodd hi’r diffynnydd gyntaf ger gorsaf fysiau Porth y Dwyrain yn y dref ychydig cyn hanner nos nos Wener 20 Mehefin.
Croesodd y ddau’r heol ac arafodd hi er mwyn creu ychydig o bellter rhyngddynt. Trodd Dighton i lawr stryd ochr a chroesodd y dioddefydd i ochr arall yr heol hyd nes ei fod o’r golwg. Credodd ei fod wedi mynd i gyfeiriad gwahanol a pharhau â’i daith.
Wrth iddi gerdded ar hyd Heol Glenalla, sylwodd ar gysgod dros ei hysgwydd chwith. Tybiodd mai rhywun yn cerdded heibio iddi ydoedd.
Teimlodd ei hysgwydd chwith yn cael ei thynnu’n ôl wrth strapen ei bag llaw a syrthiodd am ymlaen i’r llawr, tra bod y diffynnydd yn rhedeg i ffwrdd gyda’i bag.
Er ei bod hi wedi dioddef briwiau a chleisiau wrth syrthio, ceisiodd redeg ar ôl y diffynnydd, ond collodd olwg arno. Aeth adref a chysylltu â’r heddlu.
Yn dilyn y digwyddiad, cyhoeddodd swyddogion apêl cyhoeddus am wybodaeth a chynnal ymholiadau carreg drws a theledu cylch cyfyng eang.
Helpodd ffilm o’r cyfnod yn arwain at y digwyddiad ac o symudiadau Dighton wedi hynny i’w adnabod. Arweiniwyd swyddogion at Eglwys Sant Elli yn y dref lle y daethant o hyd iddo’n byw mewn pabell ar dir yr eglwys.
Yn dilyn hynny, cafodd ei arestio a’i gyhuddo o ladrata.
Cadwodd barnwyr yn Llys y Goron Abertawe Dighton yn y ddalfa. Bydd yn cael ei ddedfrydu’n ddiweddarach eleni.