Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cyflwynwyd gwobr Cyflawniad Oes i Gwnstabl Charlie Jones yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru 2025 am ei “chyfraniad cyson i droseddau gwledig.”
Mae Charlie, sydd wedi bod yn swyddog ers dros 28 mlynedd ac yn swyddog troseddau gwledig ar gyfer Powys ers 2018, wedi ffurfio perthnasau ardderchog o fewn y sector cefn gwlad a bywyd gwyllt a’r gymuned ffermio.
Mae hi’n swyddog ymchwiliadau troseddau bywyd gwyllt achrededig ac yn aelod o sawl gweithgor sy’n ymwneud â Throseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yng Nghymru a’r DU.
Cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd, ei gwobr iddi mewn cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd, a nododd Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru ar gyfer 2025-2028.
Mae’r strategaeth yn anelu i adeiladu ar lwyddiant mentrau blaenorol ar y cyd rhwng heddluoedd Cymru a llywodraeth Cymru o ran helpu i gydlynu ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau sy’n effeithio ar ffermydd, cynefinoedd a phreswylwyr gwledig.

Dywedodd Charlie, sy’n angerddol dros faterion ffermio a bywyd gwyllt tu fewn a thu fas i’r gwaith, ei bod yn anrhydedd derbyn y wobr.
Meddai: “Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr. Roedd yn syndod mawr.
“Mae’n fraint cael ein cydnabod ar lefel genedlaethol am ein gwaith o fewn y sector cefn gwlad a bywyd gwyllt. Mae’n tynnu sylw at yr holl waith rydyn ni’n ei wneud yn ardal Dyfed-Powys er mwyn helpu i fynd i’r afael â throseddau gwledig.
“Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys atal, diogelu a chefnogi dioddefwyr trosedd, cymunedau gwledig a bywyd gwyllt. Yn aml, gall ein gwaith ddigwydd heb ddod i’r amlwg gan nad yw’n cael ei ystyried yn blismona rheng flaen traddodiadol.
“Rydyn ni’n helpu i amddiffyn ein bywyd gwyllt ac adnabod troseddau, ac yn ymchwilio’n unol â hynny.
“Ystyriaf fod fy rôl yn gyswllt rhwng yr heddlu a’r gymuned ffermio. Rwyf yma i gefnogi ffermwyr, deall eu hanghenion a helpu i roi llais iddynt.
“Yn aml, gall gweithio yn y gymuned ffermio fod yn brofiad ynysol. Yn aml, efallai bydd cymunedau gwledig ond yn siarad â phobl mewn marchnadoedd ffermwyr neu sioeau amaethyddol, felly mae’n bwysig nodi’r ffordd orau o estyn allan atynt. Rydyn ni’n datblygu ffydd ac yn meithrin perthnasau da gyda’r cymunedau’n araf bach.”
Mae Charlie wedi bod yn angerddol dros ffermio ers yn ifanc, ac yn 16 oed, gadawodd ei chartref i weithio ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed.
Bellach, mae’n berchen ar fferm yn Llandrindod ac yn bridio defaid o dras.
Meddai: “Mae ffermio’n rhan enfawr o’m bywyd. Fel teulu, rydyn ni’n arddangos defaid ledled y DU, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru.
“Rwy’n deall ffermwyr a llawer o’u pryderon a sut y gall troseddau gwledig gael effaith fawr ar ffermwyr a’u bywoliaeth.”
Gan siarad am gydnabyddiaeth Charlie, dywedodd y Ditectif Ringyll Paul Roberts o’r Tîm Troseddau Gwledig: “Mae Charlie’n aelod gwerthfawr o’r tîm troseddau gwledig. Mae’n un o’r tîm a fydd yn helpu eraill gyda materion gwledig arbenigol. Mae’n glod mawr i Heddlu Dyfed-Powys.”

Dathlwyd SCCH Gary Gwilt yn y gynhadledd hefyd. Derbyniodd y wobr SCCH Gwledig y Flwyddyn am ei “ymrwymiad diysgog a’i gyfraniadau neilltuol i gymunedau gwledig Dyfed-Powys.”
Wedi’i leoli yn y Drenewydd, mae Gary’n gyfrifol am Bowys gyfan ar gyfer troseddau gwledig ac mae wedi helpu i arwain ymchwiliadau troseddau treftadaeth ledled yr ardal heddlu.
Mae Gary wedi gweithio i Heddlu Dyfed-Powys ers dros 20 mlynedd, gan ddechrau ei yrfa fel cwnstabl gwirfoddol.
Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn disgwyl derbyn gwobr a chefais sioc fawr. Mae derbyn y wobr yn fy narostwng, yn enwedig gan ei fod yn rhan o’m swydd. Mae’n hyfryd cael fy nghydnabod ac mae’n braf gweld troseddau gwledig yn derbyn sylw.
“Ymunais â’r heddlu gan fy mod i’n mwynhau helpu’r gymuned, ac rwy’n rhywun sy’n llawn ysbryd cymunedol. Rwy’n hoffi fy mod i’n gallu gwneud gwahaniaeth, yn arbennig mewn cymunedau gwledig. Rydyn ni’n helpu i newid pethau a sicrhau bod y cymunedau gwledig yn cael eu cynrychioli mwy.
“Mae meithrin ymddiriedaeth a pherthnasau da yn yr ardaloedd hyn yn arbennig yn bwysig iawn ac rwy’n falch fy mod i wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth.”
Dywedodd y Ditectif Ringyll Roberts: “Mae Gary yn gymeradwy gan bawb o’r Tîm Troseddau Gwledig, ac mae ei waith atal trosedd wedi helpu i leihau troseddau gwledig yn ardal Dyfed-Powys.
“Mae Gary yn un o’r bobl hynny sy’n mynd o gwmpas ei fusnes yn dawel heb unrhyw ffws, ac mae’n haeddu’r wobr hon.”
Dywedodd yr Arolygydd Darren Crockford: “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i Gwnstabl Charlie Jones a SCCH Gary Gwilt am gael eu cydnabod yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru 2025.
“Mae eu hymrwymiad i blismona gwledig yn arddangos eu hymrwymiad neilltuol i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael eu cynrychioli a bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn aml mewn amgylcheddau heriol.
“Mae’r ddau ohonynt yn mynd uwchlaw a thu hwnt i sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn derbyn cefnogaeth ac mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran plismona troseddau gwledig.
“Mae eu cydnabyddiaeth yn amlygu ymrwymiad parhaus yr heddlu tuag at atal troseddau gwledig lle mae ein holl swyddogion troseddau gwledig yn gweithio’n ddiflino i roi’r gwasanaeth gorau i’w cymunedau.”