Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion heddlu gwirfoddol yw’r cwnstabliaid gwirfoddol sydd â phwerau heddlu llawn, iwnifform ac offer, ac sy’n gweithio wrth wraidd plismona rheng flaen o ddydd i ddydd.
Fel arfer, maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion heddlu rheolaidd a swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu, ond, yn ystod y cyfnod “cymryd yr awenau” undydd arbennig ddydd Sadwrn, 7 Mehefin, gwelwyd yr heddlu gwirfoddol yn cymryd gofal o orsaf heddlu Llandrindod, tra bod swyddogion yn parhau â’u llwyth gwaith a’u hymchwiliadau eu hunain.
Ar y diwrnod, roedd y swyddogion gwirfoddol yn weladwy iawn yn y gymuned gan gynnal patrolau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymateb yn llwyddiannus i wyth digwyddiad, gan gynnwys ymosodiad a lladrad. Arestiwyd troseddwr heb ei ddal mewn perthynas â digwyddiad domestig blaenorol.
Cynhaliwyd gwiriadau plismona traffig a gwnaed arestiad am yrru dan ddylanwad alcohol, ac ymdriniwyd yn briodol â mân droseddau traffig eraill.
Mynychodd Uchel Siryf Powys, Sally Roberts, yr orsaf hefyd i ddiolch i’r heddlu gwirfoddol am eu gwaith. Cyflwynwyd anrhydedd i’r Cwnstabl Gwirfoddol Jim Cooke am hir wasanaeth hir o 13 mlynedd o wirfoddoli.
Dywedodd y Rhingyll, Terri Harrison: “Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus i’r heddlu gwirfoddol a’r swyddogion rheolaidd ac yn dangos gwerth cyfraniadau gwirfoddolwyr at blismona.
“Roedden ni’n ffodus i gael carfan dda o heddlu gwirfoddol annibynnol ymhlith yr wyth a oedd ar gael ar y diwrnod. Roedden nhw’n cynnwys dau uwch-yrrwr ac roedd eu sgiliau a’u hymroddiad yn eu gwneud yn addas iawn i allu ymateb i gyfrifoldebau’r orsaf am y diwrnod.
“Trwy “gymryd yr awenau” lleddfwyd y pwysau ar swyddogion rheolaidd, gan ganiatáu iddynt fynd i’r afael â gwaith gweinyddol hanfodol, ac hefyd tynnwyd sylw at y rôl bwysig y mae ein swyddogion gwirfoddol yn ei chwarae yn ein gweithrediadau ac yn y gymuned ehangach.
"Diolch i bob un ohonyn nhw.Oherwydd eu hymroddiad anhygoel darparwyd 64 awr o blismona ychwanegol. Mae eu gwaith caled a’u hangerdd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Fel rhan o fenter “cymryd yr awenau” Wythnos y Gwirfoddolwyr, treuliodd cadetiaid gwirfoddol yr heddlu o uned y Drenewydd eu dydd Sadwrn yn mynychu’r fenter “cymryd yr awenau” arbennig a chawsant gyfle i gael cipolwg ar waith yr heddlu gwirfoddol a siarad â’r gwirfoddolwyr a’r swyddogion.
Fel rhan o’r fenter, bu’n cadetiaid yn ymgysylltu â’r gymuned mewn archfarchnad leol, gan hyrwyddo rhaglen cadetiaid gwirfoddol yr heddlu.
Dywedodd Rhian Curtis, Swyddog Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys:
“Gwirfoddolodd y cadetiaid eu hamser i godi ymwybyddiaeth o gadetiaid gwirfoddol yr heddlu a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig. Maen nhw’n gobeithio, drwy gynnal y digwyddiad ymgysylltu hwn, y bydd yn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â’r rhaglen yn eu huned yn y Drenewydd neu unedau eraill ledled Dyfed-Powys.”
🔗I ddarllen mwy am wirfoddoli o fewn Heddlu Dyfed-Powys cliciwch yma