Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sefydliad nid-er-elw yw’r cynllun cenedlaethol, sy’n rhan o Carers UK, sy’n helpu i greu gweithleoedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer gweithwyr sydd hefyd yn ofalwyr di-dâl.
Mae Cyflogwyr i Ofalwyr yn rhoi cyngor a chymorth i gyflogwyr sy’n ceisio datblygu polisi cyfeillgar i ofalwyr a chadw gweithwyr medrus, yn cynnig gwybodaeth i ofalwyr am sut i gydbwyso eu gwaith â’u hymrwymiadau gofalu’n effeithiol, ac yn cysylltu pobl â’i gilydd i rannu arfer gorau.
Mae cofrestru ar gyfer y cynllun yn dangos bod yr heddlu’n gwerthfawrogi ei holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Mae’n hyrwyddo cynhwysiant o fewn ei weithle ac yn anelu i greu amgylchedd gweithio tosturiol i bawb.
Dywed Lauren Price, Rheolwr Lles Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae ein partneriaeth gyda Chyflogwyr i Ofalwyr Cymru’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi ein swyddogion a’n staff, sy’n cydbwyso eu swyddi prysur iawn â’u cyfrifoldebau gofalu.
“Drwy ymuno â Chyflogwyr i Ofalwyr, rydyn ni’n gwella ein gallu i ddarparu cefnogaeth, cynnig adnoddau gwerthfawr, creu amgylchedd gwaith mwy cydymdeimladol ar gyfer ein gofalwyr, a chynnig cyfleoedd i rwydweithio ag eraill. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod a’u cefnogi ac wedi’u grymuso i reoli eu cyfrifoldebau proffesiynol a’u cyfrifoldebau personol.
“Boed yn gofalu am berthynas oedrannus neu bartner, neu blentyn gydag anghenion ychwanegol, rydyn ni eisiau i’n gweithwyr wybod ein bod ni yno iddynt.”
Daw’r cyhoeddiad yn ystod Wythnos Gofalwyr – ymgyrch flynyddol ledled y DU sy’n codi ymwybyddiaeth o ofalu, sy’n tynnu sylw at yr heriau mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu yn ogystal â’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud. Y mae hefyd yn helpu pobl sydd ddim yn ystyried bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu i uniaethu fel gofalwyr a chael mynediad at gymorth y mae ei angen yn fawr.
Dywedodd Jane Healey, Rheolwr Canolfan Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru:
“Mae’n dda iawn gennym groesawu Heddlu Dyfed-Powys i fforwm aelodaeth Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru. Drwy ddewis partneru â ni, maent yn cymryd cam sylweddol tuag at gefnogi eu staff sydd â chyfrifoldebau gofalu ymhellach, gan ddarparu cymorth hanfodol yn ystod cyfnod sy’n aml yn medru bod yn heriol wrth iddynt gydbwyso gwaith â gofal.
“Bydd y cydweithio hwn yn cryfhau cefnogaeth ar gyfer y gweithle ac yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau unigryw a wynebir gan ofalwyr ledled Cymru, gan helpu i gyrraedd a grymuso gofalwyr mewn cymunedau amrywiol.”