Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Mae o gymaint o fudd i mi ag y mae iddyn nhw,” meddai Arweinydd Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu mewn ymgais i annog arweinwyr newydd i fentora recriwtiaid ifanc yn Heddlu Dyfed-Powys.
I Yasmin Bell, nid rhoi yn ôl yn unig yw gwirfoddoli gyda cadetiaid y heddlu – mae’n ymwneud â thyfu gyda’n gilydd fel cymuned.
“Fe wnes i ddechrau gwirfoddoli gan fy mod i eisiau helpu pobl ifanc yn fy ardal i ddatblygu sgiliau newydd a theimlo’n fwy hyderus,” meddai.
“Fe wnes i sylweddoli yn gyflym fy mod i’n dysgu cymaint â nhw.”
Er gwaethaf y ffaith ei bod hi’n gweithio’n llawnamser fel prif swyddog gweithredol Cyngor ar Bopeth yn y Drenewydd, mae Yasmin wedi treulio’i nosweithiau Mercher dros y saith mlynedd diwethaf fel arweinydd cadetiaid gwirfoddol yr heddlu.
Mae cynllun cadetiaid yr heddlu yn rhaglen am ddim a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed wneud ffrindiau, datblygu sgiliau arwain, ymgysylltu â’r heddlu, a chyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.
Mae’r cadetiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig am ddwy awr bob wythnos mewn gwahanol leoliadau ar draws ardal yr heddlu ac yn helpu i wella’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Mae’r gwaith gwirfoddoli wedi bod yn fuddiol i Yasmin hefyd, am ei bod hi wedi tyfu a dysgu o ganlyniad iddo.
Dywedodd hi: “Pan ymunais ag Uned Cadetiaid y Drenewydd ym mis Medi 2018, roedd fy ddwy ferch wedi gadael cartref ac roedd fy ngŵr yn gweithio shifftiau, felly roeddwn i’n teimlo bod gen i ddigon o amser i ymrwymo. Roeddwn i eisiau dod o hyd i rywbeth boddhaus a fyddai’n rhoi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i mi, rhywbeth sy’n bwysig iawn yn fy marn i.
“Mae angen gwirfoddolwyr ar lawer o grwpiau lleol er mwyn iddyn nhw allu gweithredu ac roeddwn i’n falch o’r cyfle i allu helpu. Mae ymuno â’r cadetiaid wedi rhoi cyfle i mi gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gwahanol yn fy nghymuned, cwrdd â phobl newydd, yn ogystal â gallu helpu’r grŵp i esblygu.
“Mae gwirfoddoli wedi rhoi profiadau a chyfleoedd newydd i mi i ddatblygu fy sgiliau fy hun ac mae hefyd wedi fy ngalluogi i ddefnyddio’r wybodaeth a’r profiad sydd gen i i helpu’r cadetiaid. Rydw i’n cael llawer o foddhad o helpu pobl eraill i gyflawni ac mae’n sicr yn rhywbeth sydd yn werth chweil."
Yn ogystal â helpu i weithredu polisïau plismona lleol a datrys pryderon cymunedau, mae’r cadetiaid wedi cael sgyrsiau gan wahanol adrannau o’r heddlu megis swyddogion cŵn, yr uned cefnogaeth arfog, a’r Adran Ymchwilio i Droseddau, yn ogystal ag ymweld â’r ddalfa a helpu mewn digwyddiadau cymunedol a gorymdeithiau Dydd y Cofio. Maent hefyd wedi cymryd rhan yng nghynlluniau Dug Caeredin.
Rhoddwyd gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Heddlu Dyfed-Powys i Yasmin ym mis Mawrth 2023 am ei chyfraniad i’r cadetiaid.
Dywedodd hi: “Mae o gymaint o fudd i mi ag y mae iddyn nhw. Mae gwirfoddoli yn broses ddwyffordd. Fyddech chi ddim yn ei wneud os na fyddech chi’n cael unrhyw beth ohono.
“Rydw i’n mwynhau bod yn arweinydd cadetiaid gwirfoddol yr heddlu. Rydw i’n caru’r profiad cyfan ac rydw i’n edrych ymlaen at ein cyfarfodydd bob wythnos.
“Mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas a pherthyn i’r bobl ifanc. Maen nhw’n gwneud ffrindiau sy’n rhannu’r un diddordebau, mae’n helpu i ddatblygu eu hyder, ac mae’n hyfryd eu gwylio nhw’n tyfu ac yn gwneud cynnydd.”
Ar hyn o bryd mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio arweinwyr gwirfoddol ar draws ardal yr heddlu.
Ychwanegodd Yasmin: “Os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli gyda’r cadetiaid – ewch ati i wneud hynny! Fel finnau, does dim rhaid i chi fod o gefndir plismona a byddwch chi’n synnu faint y byddwch chi’n ei ddysgu ac yn ei gael yn ôl ohono wrth helpu’r bobl ifanc yn eich cymuned i ddysgu sgiliau bywyd gwerthfawr.”
Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i ddod yn arweinydd cadetiaid gwirfoddol yr heddlu, ewch i Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu | Heddlu Dyfed-Powys am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb.