Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Yn ystod y saith diwrnod nesaf, byddwn yn talu teyrnged i’n holl wirfoddolwyr gwych yma yn Heddlu Dyfed-Powys ac yn tynnu sylw at eu hymroddiad, eu hymrwymiad, a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei gael wrth helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio mewn amrywiol adrannau ledled yr heddlu, pob un yn dod â’i sgiliau a’i arbenigedd unigryw ei hun, gwybodaeth leol ac ystod eang o safbwyntiau sy’n helpu i gyfoethogi ein heddlu a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Gallant helpu i feithrin perthnasoedd cryf rhwng yr heddlu a’r cyhoedd a gallant yn aml weithredu fel pont rhwng yr heddlu ac unigolion a chymunedau sy’n anodd eu cyrraedd.
Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn mynd gam ymhellach i helpu. Nid yw eu heffaith yn weithredol yn unig, maen nhw’n helpu eraill. Nid yw eu gwaith anhunanol yn cael ei anwybyddu.
Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, byddwn yn tynnu sylw at rai o’r gwahanol rolau y mae ein gwirfoddolwyr yn eu cyflawni o fewn Heddlu Dyfed-Powys a sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth.
Dywedodd Gary Phillips, Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro:
“Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn amser i gydnabod a dathlu cyfraniadau amhrisiadwy’r rhai sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill.
Rydyn ni ffodus iawn yn Heddlu Dyfed-Powys i gael gwirfoddolwyr ardderchog, sy’n cynnwys ein cadetiaid heddlu gwirfoddol a’u harweinwyr, cwnstabliaid gwirfoddol, staff cymorth heddlu gwirfoddol a chaplaniaid.
Mae ymrwymiad a thosturi ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel sy’n fwy cysylltiedig. Maen nhw’n ein hatgoffa nad yw plismona’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith yn unig. Mae plismona hefyd yn ymwneud ag adeiladu ffydd, dangos empathi, a chydweithio i greu newid cadarnhaol.
Ar ran Heddlu Dyfed-Powys, dymunaf ddiolch o galon i bob gwirfoddolwr sy’n rhoi o’i hamser yn anhunanol i gefnogi’r heddlu. Nid yw’ch gwasanaeth yn mynd heb sylw. Diolch yn fawr.”
Pwy yw ein gwirfoddolwyr?
Daw ein gwirfoddolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gyda Heddlu Dyfed-Powys.
⭐Cwnstabliaid Arbennig: Swyddogion gwirfoddol wedi’u hyfforddi’n llawn sydd â’r un pwerau â swyddogion rheolaidd ac sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw ar y rheng flaen. Maent yn ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau, yn patrolio cymunedau ac yn cymryd rhan mewn amrywiol ddigwyddiadau. Rhaid i gwnstabliaid arbennig ymrwymo i o leiaf 14 awr y mis, ac mae llawer yn gwirfoddoli eu hamser o amgylch eu swyddi cyflogedig a’u hymrwymiadau teuluol.
⭐Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu:Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu i gyflwyno’r rhaglen cadetiaid i bobl ifanc ochr yn ochr â staff yr heddlu. Maen nhw’n cefnogi’r cadetiaid ifanc, yn eu hysbrydoli a’u mentora ac yn eu hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain.
⭐Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu: Dyma ein gwirfoddolwyr ifanc mewn lifrai, 13-17 oed, sy’n mynychu grwpiau strwythuredig wythnosol gyda’u cyfoedion. Maent yn helpu i gynnal prosiectau cymunedol lleol ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, yn dysgu am wahanol agweddau ar blismona ac yn ymwneud ag amrywiol fentrau sy’n cefnogi plismona cymunedol.
⭐Arweinwyr Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu: Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu i gyflwyno’r rhaglen cadetiaid i bobl ifanc ochr yn ochr â staff yr heddlu. Maen nhw’n cefnogi’r cadetiaid ifanc, yn eu hysbrydoli a’u mentora ac yn eu hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain.
⭐Caplaniaid Gwirfoddol: Mae tîm y gaplaniaeth wirfoddol yn cynnig cefnogaeth fugeiliol, ysbrydol a chyfrinachol i unigolion a chefnogaeth weithredol i Heddlu Dyfed-Powys. Maent yn dod o gefndiroedd ffydd gwahanol ac yn dal rolau gweinidogaethol yn eu cymunedau.
Mae yna hefyd gyfleoedd gwirfoddoli ochr yn ochr â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Mae amryw o rolau gwirfoddoli yn cynnwys ymwelwyr lles anifeiliaid, llysgenhadon ieuenctid a phwyllgora ar amrywiol grwpiau cynghori a fforymau
Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i fod yn wirfoddolwr?
Mae yna lawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn Heddlu Dyfed-Powys. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, cysylltu â phobl yn y gymuned a dysgu sgiliau newydd. Gall hefyd helpu i ddatblygu eich gyrfa a gall fod yn hynod werth chweil.
🔗Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.