Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel swyddog heddlu a ymddeolodd ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth, nid yw plismona’n ddieithr i Dr Martin Wright.
Ar ôl ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 1979, symudodd Martin i’r byd academaidd yn dilyn ei ymddeoliad, a nawr, mae’n rhoi o’i amser fel gwirfoddolwr cefnogi’r heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Mae Martin yn cyflwyno safbwynt unigryw i’w rôl wirfoddoli drwy gyfuno ei sgiliau eang, ei arbenigedd a’i brofiadau personol o’i gefndir plismona â’r wybodaeth academaidd mae wedi’i hennill. Yn wahanol i wirfoddolwyr traddodiadol, mae’n cynnig ymagwedd unigryw ac yn helpu i gynghori cydweithwyr uwch ar ddulliau plismona arloesol sy’n helpu i elwa’r cymunedau mae’r heddlu’n eu gwasanaethu.
Derbyniodd Martin y wobr arobryn Arloesedd Mewn Plismona yn 2023 o ganlyniad i un o’i fentrau, a oedd â phwyslais ar wirfoddoli’n rhithwir.
Mae’r cynllun Gwirfoddolwr Rhithwir yn archwilio i ffyrdd newydd o wirfoddoli ac yn galluogi amrediad eang ac amrywiol o bobl i gyfrannu at blismona heb iddynt orfod mynd trwy’r llwybrau fetio a mynediad.
Mae’n creu amgylchedd ar-lein lle gall unigolion wirfoddoli yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffyrdd eu hunain er mwyn helpu i ddatblygu a chynnig datrysiadau i broblemau plismona. Mae’n hygyrch a chynhwysol a gall ddenu amrywiaeth eang o bobl sy’n cynnig gwahanol brofiadau bywyd, cysylltiadau i gymunedau, a galluoedd proffesiynol a sgiliau amrywiol.
Gweithiodd Martin, 66 oed, sy’n gymrawd gwadd gyda Phrifysgol De Cymru, gyda’i gydweithwyr yn Uned Troseddu Trefnedig Ranbarthol De Cymru (Tarian) i edrych ar faterion plismona amrywiol, megis twyll rhamant a gwyngalchu arian, i gychwyn.
Meddyliodd Martin am y syniad yn ystod y pandemig COVID-19 pan gafodd ei rôl ei gohirio. Meddai:
“Dechreuais adlewyrchu ar y cyfyng-gyngor sydd wrth wraidd gwirfoddoli yn y maes plismona. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, ond mae nifer o rwystrau sy’n medru atal cymunedau ac unigolion rhag cefnogi’r heddlu. Edrychais ar sut y gallai myfyrwyr wirfoddoli i’r heddlu a gweithiais gyda chydweithwyr i greu rhaglenni gêm i ateb rhaglenni plismona.
“Nid yw fel unrhyw fath o wirfoddoli, mae’n rhithwir a does dim cost i’r heddlu. Gall myfyrwyr fewngofnodi unrhyw le, unrhyw bryd, a gallant wirfoddoli o gwmpas eu hastudiaethau neu eu hymrwymiadau o ran gwaith neu’r teulu. Mae a wnelo’r cyfan â chael gwirfoddolwyr unigol i gerdded yn esgidiau swyddog heddlu, dechrau cymryd rhan mewn problemau plismona, gwerthfawrogi’r anawsterau mae’r heddlu’n eu hwynebu, a helpu i fagu hyder a ffydd mewn plismona.”
Ers treialu’r cynllun, y mae wedi ennyn diddordeb ar draws y byd. Yn ogystal â gweithio gyda nifer o asiantaethau, mae Martin wrthi’n gweithio gyda chorff gorfodi’r gyfraith cenedlaethol i greu fersiwn Ewropeaidd o Wirfoddolwyr Rhithwyr, a fydd yn galluogi myfyrwyr o brifysgolion ledled Ewrop i gydweithio â chyrff plismona rhyngwladol er mwyn edrych ar y materion mewn perthynas â mewnfudo anghyfreithlon, er enghraifft, cychod bach.
Adlewyrchir angerdd Martin yn y gwaith gwirfoddoli mae’n ei wneud yn gwirfoddoli. Meddai:
“Heddlu Dyfed-Powys yw fy nghartref, dyma lle rwy’n gwirfoddoli, hwn yw’r heddlu rwy’n awyddus i’w gefnogi.
“Mae fy awydd i wirfoddoli’n seiliedig ar fy awydd i barhau i gefnogi plismona. Mae gennyf gred wirioneddol yn yr alwedigaeth a gwerth plismona a chredaf ei fod yn broffesiwn anrhydeddus.
“Mae’n heriol iawn ac rydych chi’n dysgu llawer am bobl a bywyd drwy fod yn swyddog heddlu, yn aelod staff ac yn wirfoddolwr. Mae’r sgiliau rydych chi’n eu hennill drwy wirfoddoli’n enfawr ac yn drosglwyddadwy iawn. Mae bodlonrwydd personol mewn helpu i roi nôl ond mae’r hyn rydych chi’n ei gael fel unigolyn yn llawer mwy.”
Er nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu ar hyn o bryd, cadwch lygad ar ein tudalennau gwirfoddoli am gyfleoedd yn y dyfodol. Gwirfoddolwyr | Heddlu Dyfed-Powys