Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid yw gweithio ar y rheng flaen yn dasg hawdd, ond mae criw o wirfoddolwyr yr heddlu, sef y “cwnstabliaid gwirfoddol”, yn helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu cadw’n ddiogel, ochr yn ochr â swyddogion heddlu llawnamser a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.
Swyddogion heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sydd â phwerau heddlu llawn, iwnifform ac offer, sy’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion heddlu llawnamser a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu i gadw ardal Dyfed-Powys yn ddiogel.
Maent yn rhoi o’u hamser eu hunain i weithio wrth wraidd plismona rheng flaen o ddydd i ddydd, boed hynny’n mynychu gwrthdrawiadau, delio ag achosion o gam-drin domestig, arestio unigolion, neu fod yn weladwy yn y gymuned ar droed neu mewn car.
Mae’r cwnstabliaid gwirfoddol yn ymrwymo i o leiaf 16 awr y mis, y gellir eu teilwra o amgylch eu hymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eu gwaith. Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn rhan o’r rhaglen plismona â chefnogaeth cyflogwyr, sy’n golygu cyn belled â’u bod yn rhoi o leiaf wyth awr o’u hamser eu hunain, byddant yn cael eu cefnogi gydag wyth awr yn rhydd o’u rôl staff heddlu i gyflawni dyletswyddau cwnstabl gwirfoddol.
Mae pob un o’n Cwnstabliaid Gwirfoddol yn dod â set o sgiliau a phrofiadau bywyd unigryw, nid yn unig i’w tîm ond i’r heddlu, gan roi persbectif ffres i’n swyddogion ar y sefyllfaoedd y maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.
Dywedodd y rhingyll Terri Harrison:
“Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn rhoi’n hael o’u hamser, eu sgiliau, a’u hymrwymiad, i gefnogi swyddogion rheolaidd a’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Trwy eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb, a’u hangerdd dwfn dros wasanaeth cyhoeddus, mae eu gwasanaeth gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon bob dydd – gan helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel tra’n gosod esiampl ysbrydoledig o ddyletswydd ddinesig. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am eu cyfraniadau anhunanol.”
Fe wnaethon ni sgwrsio â dau o gwnstabliaid gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys ynglŷn â pham maen nhw’n gwirfoddoli a beth sy’n eu cymell yn eu rolau.
Pan ddaeth Tom Sellers yn ddioddefwr trosedd, teimlai ei fod wedi cael ei siomi gan yr heddlu a oedd â dyletswydd gofal gyfreithiol i’w helpu.
Yn benderfynol o beidio â gadael i’w brofiadau negyddol gyda’r heddlu ei effeithio, ysbrydolodd y profiadau hynny iddo feddwl sut y byddai wedi gwneud gwahaniaeth.
Yn ogystal â rhedeg fferm a bod yn ymgynghorydd busnes, ystyriodd Tom ddod yn gwnstabl gwirfoddol, ac mae wedi bod yn gwirfoddoli i Heddlu Dyfed-Powys ers mis yn unig.
“Cefais fy siomi’n eithaf sylweddol gan heddlu arall ac roedd hynny’n bennaf oherwydd eu diffyg adnoddau,” meddai Tom.
“Doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un fynd trwy’r hyn a wnes i eto am y rheswm hwnnw, ac felly meddyliais y byddwn i’n ceisio gwneud rhywbeth cadarnhaol i geisio atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto i unrhyw un arall. Dyna oedd fy mhrif gymhelliant, er bod gen i ddiddordeb yng ngwasanaeth yr heddlu erioed wrth ddod i oed.”
Mae gan Tom fferm 140 erw hefyd ac mae’n ymgynghorydd busnes ar gyfer y byd amaeth, ond mae eisoes wedi rhagori ar ei ddyletswyddau gwirfoddoli o leiafswm o 16 awr y mis yn y Drenewydd.
Dywedodd:
“Rydw i’n mwynhau bod yn rhan o’r tîm yn fawr iawn. Rydw i wrth fy modd gyda’r hyblygrwydd mae bod yn gwnstabl gwirfoddol yn ei roi i chi, a thra bod y tymor ffermio yn dawelach rydw i’n gallu helpu yn y gymuned am fwy o oriau.
“Mae’n ddiddorol iawn ac rydych chi’n gweld ochr hollol wahanol i fywyd drwy blismona. Rydw i’n teimlo po fwyaf rydych chi’n ymroi, y mwyaf rydych chi’n elwa. Mae rhwydwaith da o bobl, ac mae’r gwmnïaeth yn dda iawn.”
Pan nad yw’n gweithio ar y rheng flaen gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae Giles George yn gwirfoddoli yn ei amser rhydd fel Arolygydd Gwirfoddol ym Mhowys.
Wedi’i leoli yng ngorsaf Llanandras, mae Giles wedi cael cymaint o foddhad yn ymgymryd â’r rôl nes ei fod wedi bod yn Heddlu Gwirfoddol ers dros 36 o flynyddoedd.
Yn ystod yr amser hwnnw mae wedi ennill nifer o wobrau a chydnabyddiaeth am ei waith gwirfoddol, ond y wobr fwyaf, meddai, yw gwneud gwahaniaeth i bobl yn y gymuned.
Dywedodd: “Wnes i ddim dod yn Heddlu Gwirfoddol i ennill gwobrau, er ei bod yn braf cael cydnabyddiaeth. Dechreuais wirfoddoli i helpu pobl ac i geisio gwneud rhywbeth cadarnhaol yn fy nghymuned.
“Rydw i wrth fy modd yn ei wneud. Mae’n rhoi llawer o foddhad ac rydw i wedi ennill sgiliau rhagorol sydd wedi bod o fantais fawr i mi wrth weithio yn y gwasanaeth ambiwlans a bod yn yr heddlu. Mae hefyd yn hyblyg iawn, ac felly gallaf wneud fy swydd llawnamser a gwirfoddoli fel Arolygydd Gwirfoddol. Mae’n rhaid i chi ymrwymo i wirfoddoli am 16 awr y mis i ddechrau, ond unwaith i chi ddechrau mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei fwynhau cymaint, maen nhw’n gwirfoddoli mwy.
Mae’r swydd wedi fy ngalluogi i wneud pethau na fyddwn i wedi’u gwneud o’r blaen ac rydw i’n falch fy mod i’n gallu cyfrannu yn fy nghymuned.
Mae Giles yn mynd â’i geffyl i amryw o sioeau amaethyddol a digwyddiadau cymunedol a gellir ei weld yn rheolaidd gyda’i geffyl yn yr ardal.
Dywedodd: “Mae pobl â diddordeb yn y ceffyl ac mae’n ysgogi sgyrsiau. Weithiau, mae pobl yn mynd ymlaen i ddweud wrtha i am faterion plismona y gallaf adrodd yn ôl amdanyn nhw yn ddiweddarach, ond mae hefyd yn chwalu rhwystrau gyda phobl ifanc a allai fod wedi defnyddio’r ceffyl fel rheswm i ddechrau sgwrs â mi.”
Dywedodd Giles, 58, y byddai’n annog unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol i ymholi.
Dywedodd: “Does dim ots os ydych chi’n ifanc neu’n hen. Dim ond ychydig oriau’r wythnos ydyw ac rydych chi’n cael ymdeimlad anhygoel o falchder a boddhad. Does dim rhaid i chi ei ddefnyddio fel llwyfan i ddod yn swyddog heddlu yn y dyfodol ac rydych chi’n dysgu cymaint o sgiliau bywyd. Bob tro rydw i’n gorffen shifft rydw i’n teimlo fel petawn i wedi gwneud rhywbeth buddiol i helpu pobl eraill, sy’n un o’r teimladau gorau y gallwch chi ei gael."
Nid ydym yn recriwtio swyddogion heddlu gwirfoddol ar hyn o bryd, ond gallwch gael rhagor o wybodaeth fan hyn Rôl Cwnstabl Gwirfoddol | Heddlu Dyfed-Powys