Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi tynnu sylw at y gwaith y mae ein holl wirfoddolwyr yn Nyfed-Powys yn ei wneud a’r rolau hollbwysig maen nhw’n eu chwarae wrth helpu i gefnogi plismona yn ein cymunedau.
Boed hynny’n gwirfoddoli fel cwnstabl gwirfoddol, neilltuo amser i fod yn aelod o staff gwirfoddol neu fod yn Gadet Gwirfoddol yr Heddlu, hoffem ddweud diolch! Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.
Wrth i Wythnos y Gwirfoddolwyr ddirwyn i ben, rydym yn edrych ar ran bwysig arall o’n heddlu – ein caplaniaid gwirfoddol.
Mae ein tîm caplaniaeth yn cynnig cymorth bugeiliol, ysbrydol a chyfrinachol i unigolion, a chymorth gweithredol i Heddlu Dyfed-Powys.
Mae caplaniaid gwirfoddol yn dod o gefndiroedd ffydd gwahanol ac mae ganddynt rolau gweinidogaethol yn eu cymunedau penodol. Mae caplaniaid ar gael i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr a ledled ardal yr heddlu – mae’r mwyafrif ohonynt yn gweithredu yn y gorsafoedd heddlu mwy o faint ac mewn unedau arbenigol.
Gall caplaniaid gefnogi aelodau o deulu agos hefyd, oherwydd gall yr hyn sy’n effeithio arnom ni gartref effeithio ar ein gwaith hefyd, ac i’r gwrthwyneb. Does dim ots a oes gennych chi ffydd ai peidio, mae’r caplaniaid yma i’ch gwasanaethu, ni waeth beth fo’ch cefndir.
Mae ein caplaniaid yn gweithio gyda’r holl swyddogion a staff, gan fod rhywfaint yn annibynnol ar strwythur sefydliadol yr heddlu. O’r safle breintiedig hwn, mae’r gwasanaeth caplaniaeth yn darparu cwnsela cyfrinachol anghyfeiriol, anefengylaidd ac anfeirniadol.
“Fy rôl i yn bennaf yw cynnig clust i wrando ar unrhyw un a phawb sydd angen siarad, rhywun â ffydd neu rywun heb ffydd o gwbl.” Meinir Loader, caplan gwirfoddol, Rhydaman
Ar ôl i Meinir ymddeol o addysgu ar ôl 38 mlynedd, roedd hi am barhau â’r elfen fugeiliol o fod yn bennaeth astudiaethau crefyddol mewn ysgol uwchradd. Gwnaeth gais i fod yn gaplan gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys, ac mae bellach wedi bod yn y swydd ers bron i 10 mlynedd. Mae’n dweud hefyd ei bod yn edrych ymlaen at wirfoddoli am flynyddoedd lawer i ddod.
Beth yw eich rôl?
Rydw i’n ymweld â’r orsaf ddwywaith yr wythnos ac yn ymweld â chartrefi a’r ysbyty hefyd pan fo angen. Mae gan bob swyddog fynediad at fy rhif ffôn symudol a’m cyfeiriad e-bost, ac rwy’n eu hannog i gysylltu â mi unrhyw bryd os oes angen iddyn nhw siarad â mi neu drefnu ymweliad.
Mae cyfrinachedd o’r pwys mwyaf i’r rôl. Fyddwn i byth yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol oni bai bod rhywun yn dweud wrthyf i fod bywyd rhywun mewn perygl. Rydw i wedi cael y fraint o gael gwybod am feichiogrwydd yn y camau cynnar iawn, ac rydw i’n falch bod rhywun wedi ymddiried ynof i i’r fath raddau.
Fy rôl i yn bennaf yw cynnig clust i wrando waeth beth fo ffydd yr unigolyn. Yn anffodus, rydw i wedi bod i lawer o angladdau, ac wedi paratoi llawer o areithiau angladdol ar gais unigolion a oedd yn galaru. Rydw i bob amser yn ceisio bod o gymorth yn ystod y broses alaru a all bara blynyddoedd lawer.
A oes gennych chi unrhyw foment yr ydych chi’n falch ohoni fel caplan gwirfoddol?
Rydw i bob amser yn falch o weithio ochr yn ochr â chyn-ddisgyblion a’u gweld yn symud ymlaen trwy’r rhengoedd yn ystod eu gyrfa plismona. Rydw i wedi cael fy ngwahodd gan lawer o swyddogion i fynd i seremonїau gwobrwyo, ac mae bob amser yn ysbrydoledig gweld y gwahaniaeth enfawr y mae swyddogion yn ei wneud i fywydau’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu mewn ffordd gadarnhaol.
Un o’r momentau rwy fwyaf balch ohoni oedd cael fy rhoi ar y rhestr fer allan o 170 o enwebiadau ar gyfer Gwobr yr Arglwydd Ferrers yn 2022 a gynhaliwyd yn Nhŷ Lancaster yn Llundain. Fi oedd y gorau o’r gweddill yng nghategori Gwirfoddolwr y Flwyddyn, ac roedd yn fraint cael fy ngwobr mewn amgylchedd mor fawreddog.
A ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau yn eich rôl?
Yr her fwyaf wynebais i oedd ar ddechrau fy nhymor i fel caplan. Roeddwn i’n poeni sut y byddai swyddogion a staff yr heddlu yn gwybod y byddwn i’n eu cefnogi, bod modd iddyn nhw ymddiried ynof i, ac na fyddwn i byth yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd parti. Daeth fy nghyn-ddisgyblion i’r adwy diolch byth, a lledaenodd y neges yn gyflym fod cyfrinachedd yn bwysig dros ben i mi.
“Rydw i’n frwd dros wasanaethu, ac roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl.” Catrin Thomas, gweinidog lleyg sy’n gwasanaethu yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Mae Catrin yn swyddog heddlu wedi ymddeol, a fu’n gweithio i Heddlu Dyfed-Powys yn Sir Benfro ac yn y pencadlys yng Nghaerfyrddin. Penderfynodd wirfoddoli fel caplan i helpu i gefnogi swyddogion a staff a allai fod yn delio â gwahanol eithafion plismona bob dydd.
Pam ydych chi’n gwirfoddoli?
Rydw i’n gwbl ymwybodol y gall plismona deimlo fel y swydd orau yn y byd a gall fod yn werthfawr dros ben. Fodd bynnag, gall fod yn anodd hefyd. Rhaid delio â phob rhyngweithiad a sefyllfa yn broffesiynol ac yn dosturiol a gall sefyllfaoedd wneud difrod dros amser.
Ar y dechrau, roeddwn i’n bryderus am ddychwelyd i’r heddlu, ond rydw i’n frwd dros wasanaethu, ac roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl. Rydw i’n teimlo bod y profiadau cyfunol rydw i wedi’u cael o blismona, a’r rhai rydw i wedi’u profi wedyn, wedi’u cydblethu ac ‘nid oes unrhyw brofiad yn wastraff’. Rydw i’n gobeithio ac yn gweddïo y gallaf i roi’r profiadau hyn at ddefnydd da yn y rôl hon, a chefnogi swyddogion a staff yn dosturiol. Mae’r fraint o fod yn gaplan heddlu yn weinidogaeth unigryw.
Beth mae eich rôl fel caplan yr heddlu yn ei olygu?
Bod ar gael i wrando a rhannu. Mae’n ymwneud â bod ar ben arall y ffôn neu neges destun a helpu swyddogion, staff cymorth a gwirfoddolwyr, yn ogystal â gweithwyr heddlu sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr heddlu sydd am siarad yn gyfrinachol â rhywun a chwrdd wyneb yn wyneb i gynnig gofal bugeiliol.
Rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig gwybod neu synhwyro, mewn ffordd sensitif, pryd i fod yno i rywun a phryd i roi ychydig o ofod iddyn nhw, a pheidio byth â gorfodi unrhyw beth. Mae hefyd yn golygu bod yno i’r rheini sydd â ffydd neu heb ffydd, ac i gynnig rôl ategol i rôl cwnselwyr hyfforddedig ac unedau iechyd galwedigaethol a lles.
Faint o foddhad gewch chi o’ch rôl?
Mae’n rhoi boddhad mawr bod yn gaplan yn yr heddlu lle’r oeddwn i arfer gwasanaethu’r cyhoedd, a bellach rwy’n gwasanaethu’r rheini sy’n gwasanaethu’r cyhoedd.
Rwy’n mwynhau gwrando, cefnogi a chyfeirio swyddogion a staff, ac ennill ymddiriedaeth unigolion a meithrin eu cyfeillgarwch nhw a’u teuluoedd.
Hoffwn i swyddogion a staff, cyfoedion a goruchwylwyr deimlo’n hyderus y gallan nhw gysylltu â mi, a chael sicrwydd y byddan nhw’n cael cymorth, cyfrinachedd, a chlust i wrando arnyn nhw, a rhywun sy’n wirioneddol ofalu a phryderu amdanyn nhw.
Pa mor bwysig yw gwirfoddolwyr yn yr heddlu?
Mae gwirfoddolwyr yn aelodau gwerthfawr o’r teulu plismona. Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu cyfoeth o brofiad, ac yn dod o bob cefndir. Maen nhw’n rhoi o’u hamser yn hael oherwydd eu bod nhw’n dymuno gwasanaethu, a rhoi yn ôl i’r cymunedau maen nhw’n byw ynddyn nhw, ac i gefnogi’r rheini sy’n ein hamddiffyn. Maen nhw’n hanfodol i deulu’r heddlu. Rydw i’n ddiolchgar ac yn falch o allu gwirfoddoli fel caplan yn y gwasanaeth.
“Pan fyddaf i’n cerdded i mewn trwy ddrws ffrynt gorsaf, rwy’n gadael y byd seciwlar ar ôl, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys.” Parchedig David Yeo Poulton yn gaplan gwirfoddol, Llwynhendy, Porth Tywyn a Dafen
Mae’r Parchedig Poulton wedi bod yn gaplan heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys ers mis Hydref 2019, ar ôl gwasanaethu o’r blaen gyda heddluoedd Swydd Warwick a Gogledd Cymru.
Mae’n goruchwylio’r Uned Hyfforddi Gyrwyr ac yn gwasanaethu fel cynrychiolydd y gaplaniaeth ar y Bwrdd Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig Strategol Rhanbarthol.
Faint o foddhad gewch chi o’ch swydd?
Mae’n rhoi llawer o foddhad, ac yn werthfawr iawn. Rydw i’n gwybod fy mod i am gael diwrnod da pan fyddaf i’n gadael y tŷ am 7.15am i yrru i’r Uned Hyfforddi Gyrwyr a’r ysgol yrru ym Mhen-bre. Er fy mod i’n hadnabod y cyrsiau a’r staff, mae cyfle’n aml i weld yn uniongyrchol yr hyn maen nhw’n ei ddysgu.
A ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau?
Rydw i’n unigolyn niwroamrywiol neu niwroddargyfeiriol gyda dyslecsia. Mae’n rhodd gan Dduw, nid yw’n broblem i mi, ond rydw i’n aml yn cael fy ymyleiddio oherwydd hyn. Rydw i’n gallu adnabod wynebau, lluniau a gweithiau celf. Ond mae’n gallu bod yn fwy heriol cofio geiriau, rhestrau, cyfarwyddiadau a rhifau ffôn.
Yn rhinwedd fy rôl i rydw i wedi gallu helpu pobl sy’n mynd trwy gyfnodau anodd, gan gynnwys pobl sydd wedi ceisio marw drwy hunanladdiad neu sydd wedi meddwl am farw drwy hunanladdiad, swyddog a oroesodd drywanu treisgar â chyllell, gweithwyr sydd wedi bod yn aros am ganlyniadau canser, yn ogystal ag aelodau o’r teulu sydd wedi cael diagnosis o salwch. Rydw i hefyd wedi bod yn ficer ar gyfer angladdau di-ri gan mai fi yw’r unig berson y mae gweithwyr wedi’i adnabod ac yn ymddiried ynddo. Gall fod yn heriol, ond gall hefyd roi boddhad gwybod y gallaf i helpu trwy fy rôl i. Rydw i’n dal i feddwl a gweddïo am bob un ohonyn nhw.
Pa mor bwysig yw gwirfoddolwyr yn yr heddlu?
Rydw i wrth fy modd bod yn gaplan heddlu, ac mae gwirfoddoli yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned gyda grŵp o bobl sy’n rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain, sydd yn aml ddim yn cael unrhyw “sylw da” gan gymdeithas. Serch hynny, mae cymdeithas yn rhy gyflym i weld y “drwg”. Mae’n brofiad gwylaidd – yn fraint. Fodd bynnag, mae bod yn gaplan yn golygu derbyn yn ogystal â rhoi. Rydw i’n gaplan i eraill, ond ymhen amser, maen nhw’n gaplan i mi hefyd.
Mae fy rhodd o ddyslecsia yn caniatáu imi fod yn wrandäwr da. Pan fyddaf i’n cerdded i mewn trwy ddrws ffrynt gorsaf, rwy’n gadael y byd seciwlar ar ôl, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys.
“Rydw i’n teimlo’n wirioneddol ostyngedig ac yn freintiedig o allu bod yno i bobl wirioneddol anhygoel.” Sam Jones, Caplan Gwirfoddol, Y Drenewydd a’r Trallwng
Mae Sam wedi bod yn arweinydd eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth yn Y Drenewydd ers 2001. Mae Sam wedi bod yn gaplan yng ngorsafoedd heddlu’r Drenewydd a’r Trallwng ers mis Tachwedd 2017.
Disgrifiwch eich rôl fel caplan gwirfoddol?
Mae fy rôl i’n gofyn am lawer o wrando ar yr hyn sy’n mynd ymlaen ym mywyd bob dydd swyddogion a staff. Mae’n bwysig bod gennym ni berthynas dda rhag ofn y bydd angen rhywun arnyn nhw i wrando arnyn nhw. Rydw i’n gwirfoddoli gan fy mod i’n credu bod Duw yn gofalu am yr unigolyn cyfan, ac nid dim ond am eu hysbryd. Dyma fy ffordd i o ofalu am yr unigolyn cyfan.
Faint o foddhad gewch chi o’ch rôl?
Rydw i wrth fy modd bod yn gaplan yr heddlu, hyd yn oed pan fydd amseroedd yn anodd. Rydw i’n teimlo’n wirioneddol ostyngedig ac yn freintiedig o allu bod yno i bobl wirioneddol anhygoel.
Un o’r cyflawniadau rydw i fwyaf balch ohono, ac achlysur pan oeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi’n fawr, oedd bod yn rhan o un o seremonïau ardystio’r sesiynau. Roedd yn teimlo’n arbennig iawn. Roeddwn i hefyd yn hynod ostyngedig i gefnogi staff ar ôl marwolaeth un o’n cydweithwyr. Nid yw’n rhywbeth y byddwn i’n ei gymryd yn ganiataol, ac roeddwn i’n falch fy mod i wedi gallu cynnig rhywfaint o gymorth.