Stamp amser presennol: 03/08/2026 10:28:50
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Cynllun yr heddlu sy’n defnyddio timau o swyddogion i nodi, ac atal, ymddygiad rheibus posibl i ymestyn ledled yr heddlu

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:34 19/06/2025

Mae ymgyrch yn cael ei chyflwyno ar draws Heddlu Dyfed-Powys lle mae swyddogion heddlu lifrog, a swyddogion yn eu dillad eu hunain, yn gweithredu fel ‘timau tarfu’ i atal troseddau rhywiol a threisgar rhag digwydd.

Cynhaliodd yr heddlu gynllun peilot Prosiect Vigilant yn Sir Gaerfyrddin dros y Nadolig, gan ddefnyddio timau o swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig i nodi ac ymyrryd pan welwyd ymddygiad rhywiol rheibus.

Mae’r timau’n cynnwys ‘gwylwyr’ yn eu dillad eu hunain sy’n defnyddio hyfforddiant mewn arsylwi ymddygiadol i nodi ymddygiad rheibus, a chydweithwyr mewn lifrai a fydd wedyn yn cael eu galw i ymyrryd a tharfu ar weithgarwch a allai fod yn droseddol cyn iddo ddigwydd.

Lleolir swyddogion yn seiliedig ar gudd-wybodaeth i wneud yn siŵr eu bod yn y lle cywir ar yr amser cywir. Yn dilyn dadansoddiad o’r cyfnod peilot, bydd y prosiect nawr yn cael ei gyflwyno ledled Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dominic Jones: “Roedd hwn yn brosiect newydd i Heddlu Dyfed-Powys y gwnaethom dreialu dros gyfnod prysur y Nadolig. Mae’n ddull arloesol o gadw pobl agored i niwed yn ddiogel tra byddant allan gyda’r nos. Mae’r dull wedi bod yn llwyddiannus mewn heddluoedd eraill, ac rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn fuan yn mabwysiadu’r prosiect ar draws y pedwar rhanbarth.

“Dylai pawb deimlo’n ddiogel ar noson allan, a ni ddylai neb deimlo’r angen i newid eu hymddygiad er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr. Trwy gadw llygad am ysglyfaethwyr posibl, byddwn yn y pen draw yn newid ymddygiadau’r rheini a allai achosi niwed, ac yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”

Cynhaliwyd yr hyfforddiant gan Heddlu Thames Valley, a arweiniodd y prosiect, a dysgodd swyddogion am y camau nodweddiadol y mae ysglyfaethwyr yn eu cymryd i nesáu at ddioddefwyr posibl a’u gwahanu oddi wrth eu ffrindiau. Unwaith y bydd yr ymddygiad hwn wedi cael ei nodi i’r timau tarfu, gall swyddogion lifrog wneud eu presenoldeb yn amlwg yn yr ardal, gyda’r nod o atal unrhyw droseddau.

Ychwanegodd Y Prif Arolygydd Jones: “Mae tystiolaeth i ddangos, mewn achosion pan fo lluoedd wedi anfon rhagor o swyddogion lifrog i ardaloedd sydd â risg uchel, bod troseddwyr yn gwasgaru i leoliadau eraill. Y rhan bwysig yma yw defnyddio swyddogion yn eu dillad eu hunain i sylwi ar yr ymddygiad sy’n peri pryder, a nodi unigolion i’w cydweithwyr sy’n gallu ymyrryd wedyn. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y dechneg hon wedi arwain at broblemau’n symud i ardal wahanol.

“Budd arall o’r prosiect yw, er ei fod yn anelu’n benodol at leihau nifer y troseddau rhywiol a threisgar sy’n digwydd, ei fod hefyd yn arwain at ganfod ystod ehangach o droseddau – rhywbeth rydyn ni wedi’i brofi hefyd.”

Ar un noson yn ystod y cyfnod peilot, roedd swyddogion yn eu dillad eu hunain wedi helpu i ddiogelu menyw a oedd yn agored i niwed a oedd wedi’i gwahanu oddi wrth ei ffrindiau. Fe wnaethon nhw roi gwybod i swyddogion lifrog bod angen cymorth arni hi, a gwnaethon nhw sicrhau ei bod hi’n cael ei chludo adref yn ddiogel.

Ar achlysur arall, gwelodd swyddogion yn eu dillad eu hunain ddyn yn refio’i gar ac yn gyrru’n afreolaidd. Galwyd swyddogion lifrog i gynorthwyo, ac wrth siarad â’r dyn fe wnaethon nhw arogli alcohol ar ei anadl. Cafodd ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru, yn ogystal â meddu ar gyffur cetamin.

Mae swyddogion sydd wedi gweithio o dan Brosiect Vigilant wedi canmol y fenter, a chanmol Heddlu Thames Valley am y ffordd y mae wedi addasu ei ddull i ddiwallu ei anghenion dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd un swyddog: “Mae’r wybodaeth a gawn ynghylch pa ymddygiadau i gadw lygad amdanynt wrth batrolio ar droed yn wirioneddol fuddiol i bawb, gan amddiffyn aelodau’r cyhoedd drwy ofyn i’r unigolion hyn beth maen nhw’n ei wneud, a bod yn chwilfrydig yn broffesiynol.

“Gallai’r un rhyngweithiad hwnnw atal ymosodiad rhywiol gan y bydd yr unigolyn dan amheuaeth yn gwybod ei fod yn cael ei wylio.”

Ariannwyd y cynllun peilot gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch bod Prosiect Vigilant bellach yn cael ei gyflwyno ar draws y pedwar rhanbarth yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus dros gyfnod y Nadolig.

“Mae hwn yn ddull rhagweithiol sy’n cael ei lywio gan wybodaeth ac sy’n rhoi swyddogion yn y lle cywir ar yr amser cywir i nodi ymddygiad rheibus, ac amharu arno, cyn i neb ddioddef niwed.

“Roeddwn i’n falch o ariannu’r cynllun peilot drwy’r Ddyletswydd Trais Difrifol, ac rwy’n cefnogi Heddlu Dyfed-Powys yn llwyr wrth iddynt fabwysiadu’r fenter hon fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i gadw pobl yn ddiogel yn ystod nosweithiau allan.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.