Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymosododd Ricco Douglas, 25 oed, o The Bungalow, Parc Cadwraeth Bywyd Gwyllt Birmingham, ar ei ddioddefydd mewn “digwyddiad treisgar”, ar Hillcrest Rise, Llandrindod, ar 14 Rhagfyr 2024.
Yr oedd wedi ei drywanu sawl gwaith â chyllell ac aed ag ef i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau a oedd yn fygythiad i’w fywyd.
Aeth swyddogion ymateb arfog i leoliad y digwyddiad, a rhoddodd ymchwilwyr lleoliad trosedd dâp yr heddlu o amgylch yr ardal breswyl er mwyn diogelu’r lleoliad.
Heddiw (dydd Llun 9 Mehefin), clywyd yn Llys y Goron Casnewydd bod Douglas wedi teithio o ganolbarth Lloegr ddiwrnod y digwyddiad i gwrdd â’r dioddefydd er mwyn cael, neu gyfnewid, cocên. O fewn 14 munud ar ôl cyrraedd Llandrindod, roedd Douglas wedi trywanu ei ddioddefydd. Credwyd bod yr ymosodiad wedi digwydd oherwydd bod y ddêl gyffuriau wedi mynd o’i le.
Arestiwyd Douglas dridiau’n ddiweddarach ar ôl i’r heddlu weld ei gar yn ardal Birmingham. Daethpwyd o hyd i olion gwaed y dioddefydd tu mewn i’r cerbyd.
Ar 21 Mawrth, plediodd Douglas yn euog i glwyfo â’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol. Heddiw, cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis o garchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad treisgar a ddigwyddodd ar stryd breswyl ychydig cyn y Nadolig llynedd. Yr oedd yn ffodus iawn na chollodd neb ei fywyd, a fyddai wedi amddifadu teulu o rywun annwyl.
“Gwyddom fod y digwyddiad hwn wedi bod yn sioc i’r gymuned leol, yn enwedig y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf.
“Croesawn ddedfryd Ricco Douglas heddiw a gobeithiwn ei bod yn sicrhau pawb yn glir na fyddwn ni’n dioddef trais ar ein strydoedd.
“Hoffwn ddiolch i’r holl ymatebwyr cyntaf a’r staff yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, ar y noson am y lefel o ofal a thriniaeth a roddwyd i’r dioddefydd, a allai fod wedi achub ei fywyd. Hoffwn ddiolch hefyd i’n swyddogion a’n staff o fewn yr heddlu, a arddangosodd benderfyniad mawr i ddwyn y troseddwr i gyfiawnder ar ran y dioddefydd a’i deulu a’r gymuned ehangach.”
Apeliodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Evans ar i’r cyhoedd adrodd am unrhyw droseddau a gweithgarwch amheus. Gall hyn helpu swyddogion i gael cudd-wybodaeth hanfodol sy’n sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dal a’u dwyn i gyfiawnder.
Ychwanegodd:
“I’n helpu i atal digwyddiadau o’r fath, rwy’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw fath o drosedd difrifol i roi gwybod inni. Cewch siarad â swyddogion lleol, adrodd ar-lein, neu adrodd yn gwbl ddienw drwy Crimestoppers.
“Byddwn ni bob amser yn ymateb i bryderon cymunedol, ac mae’n bwysig cofio ein bod ni’n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd yn Llandrindod a Phowys i gadw ein hardal leol yn ddiogel.”
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch trosedd yn eich cymuned, cewch gysylltu â’r heddlu drwy:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
💬 | Danfon neges uniongyrchol i ni ar y cyfryngau cymdeithasol
📞 | 101
Fel arall, cysylltwch â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu ymweld â crimestoppers-uk.org.