Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi annog gyrwyr i beidio ag anwybyddu arwyddion rhybudd ar ffordd brysur ym Mhowys mewn neges ar y cyd â theulu dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad.
Mewn ymgais i dynnu sylw at beryglon rhan benodol o ffordd yr A458 yn Nhreberfedd, mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi cyhoeddi fideo sy’n dangos sut y gwnaeth gyrrwr oddiweddyd bws, gan anwybyddu llinellau gwyn solet ac arwyddion pant cudd.
Gwrthdarodd y gyrrwr, Matthew Parrott, â Margaret Lee, pensiynwraig o Dreberfedd, ac mae wedi’i garcharu am dair blynedd am achosi ei marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Yn dilyn ei ddedfryd, mae uned gwrthdrawiadau difrifol yr heddlu, ynghyd â theulu Mrs Lee, wedi mynegi pryderon am nifer y gyrwyr sy’n gyrru’n beryglus ar hyd yr un rhan o’r ffordd, gan roi eu bywydau nhw, a bywydau eraill, mewn perygl.
Dywedodd y Rhingyll Rob Hamer: “Roedd y digwyddiad hwn yn drasiedi a arweiniodd at farwolaeth Margaret Lee, a oedd wedi gadael ei chartref i brynu ei phapur newydd dyddiol funudau yn unig cyn y gwrthdrawiad.
“Does dim dwywaith nad oedd y ffordd yr oedd Matthew Parrott yn gyrru’n beryglus, ag yntau wedi goddiweddyd mewn man lle nad oes golwg clir o’r ffordd ymlaen.
“Fodd bynnag, ers y digwyddiad hwn, mae gennym dystiolaeth i ddangos bod gyrwyr eraill yn cyflawni’r un symudiad peryglus, gan oddiweddyd wrth yrru tuag at yr Amwythig, ac rydyn ni’n ofni y byddwn ni’n cael ein galw i wrthdrawiad difrifol neu angheuol arall yn yr un lleoliad yn y dyfodol agos.”
Mae swyddogion wedi cynnal ymweliadau safle yn y lleoliad i ystyried pa un ai a yw cynllun y ffordd yn beryglus. Mae’r adolygiad hwn yn parhau ac mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo gyda’n hasiantaethau partner. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi unrhyw newidiadau i gynllun y ffordd er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, fodd bynnag, pennwyd mai’r ffordd y mae pobl yn gyrru sy’n achosi’r perygl mwyaf.
Ychwanegodd y Rhingyll Hamer: “Y brif broblem yw bod gyrwyr yn anwybyddu’r rhybuddion sydd wedi’u gosod gan yr awdurdod lleol – mae’r rhain yn cynnwys terfyn cyflymder o 50mya, llinellau gwyn solet dwbl, arwyddion rhybudd ar gyfer pantiau cudd, paent rhybudd coch ychwanegol ar y llawr, a thriniaeth gafael ar y ffordd – ac maen nhw’n parhau i oddiweddyd yn beryglus.
“Anogwn bobl i ystyried canlyniadau eu gweithredoedd ar y ffordd - edrychwch eto, a pheidiwch ystyried goddiweddyd hyd nes eich bod chi’n gwybod ei bod hi’n ddiogel.”
Mae teulu Margaret Lee yn rhannu pryderon yr heddlu, ac yn galw ar yrwyr i fod yn ofalus er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.
“Anogwn bobl i yrru’n ofalus, yn arbennig ar y rhan hon o’r ffordd,” meddent.
“Dydyn ni ddim eisiau i hyn ddigwydd i neb arall.”