Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri unigolyn wedi’u cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa ar ôl i’r heddlu ganfod planhigion canabis gwerth hyd at £595,000 yn tyfu mewn hen ganolfan deiars.
Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys warant yn Nhre Ioan, Caerfyrddin, ddydd Mercher 26 Mawrth, lle y gwnaethant ddarganfod 566 o blanhigion canabis.
Arestiodd swyddogion o dîm plismona rhagweithiol Sir Gaerfyrddin dri dyn.
Mae Atnant Kuka, Edison Kuka a Orgest Bobo wedi’u cyhuddo o gynhyrchu canabis ac maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa.
Cynhaliwyd y warant fel rhan o Ymgyrch Scotney, sef ymateb Heddlu Dyfed-Powys i ffatrïoedd canabis ar raddfa ddiwydiannol yn cael eu sefydlu ledled yr ardal heddlu gan gangiau troseddu trefnedig.
Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgyrch fan hyn: Ymgyrch Scotney | Heddlu Dyfed-Powys