Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Er na chafodd llawer o gyffuriau ac arian eu hatafaelu yn ystod y warant, cynhaliodd swyddogion arbenigol ymholiadau helaeth i mewn i ddyfeisiau digidol a chanfod nifer o fideos yn dangos Woolrych-Higgins gyda lapiadau arian mawr, yn amrywio o gannoedd i filoedd o bunnoedd. Hefyd, daethant o hyd i negeseuon testun a lluniau’n awgrymu ei fod wedi bod yn ymwneud llawer â dosbarthu cyffuriau ar draws Powys am fisoedd lawer.
Cynhaliwyd ail warant mewn cyfeiriad yn Llanfechain ar 28 Ionawr 2025, lle yr atafaelwyd eitemau gwerth dros £50,000, a byddant nawr yn rhan o ymchwiliad elw troseddau.
Ymddangosodd Maximilian Woolrych-Higgins yn Llys Merthyr Tudful ar 30 Ionawr 2025, wedi’i gyhuddo o fod yn gysylltiedig â chyflenwi cocên a chanabis rhwng Tachwedd 2023 ac Ionawr 2025. Yn dilyn dedfryd euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 27 Chwefror 2025, heddiw, cafodd ei ddedfrydu i tair blynedd a pedwar mis.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Phil Coombes:
“Mae’r achos hwn yn dangos ein bod ni’n medru erlyn y rhai sy’n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau hyd yn oed os nad ydynt wedi cael eu dal â’r cyffuriau yn eu meddiant.
“Mae gwerthu cyffuriau’n falltod yn ein cymunedau a bydd pobl fel Woolrych-Higgins, sy’n ceisio elwa o ledaenu diflastod, bob amser ar ein radar.
“Diolch i waith diflino ein swyddogion, mae’r ffynhonnell hon o gyffuriau dosbarth A a B wedi’i atal yn awr, a gobeithiwn fod hyn yn anfon neges i werthwyr cyffuriau eraill y byddwn ni’n gweithredu ac yn eu hatal nhw hefyd.”