Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi ei garcharu am dros ddwy flynedd am dyfu 274 planhigyn canabis mewn eiddo yn y Drenewydd.
Arestiwyd Ismet Lika ar ddydd Mercher, 19 Chwefror fel rhan o ymgyrch Heddlu Dyfed Powys i fynd i’r afael â ffatrïoedd canabis sy’n cael eu rhedeg gan gangiau troseddu trefnedig.
Gorfododd tîm o swyddogion yn cynnwys y tîm plismona rhagweithiol, CID, arfau saethu, hyfforddwyr cŵn a swyddogion plismona bro ac atal trosedd, eu ffordd i mewn i eiddo ar Deras Clifton, lle roedd cudd-wybodaeth wedi awgrymu bod canabis yn cael ei dyfu.
Y tu mewn i’r adeilad fe wnaethant ddarganfod planhigion canabis aeddfed ar draws pedwar llawr, gwerth hyd at £287,000. Roedd yr islawr, y lloriau uwch a’r groglofft wedi eu llenwi ag offer tyfu, goleuadau hydroponeg a phibau awyru a oedd yn bwydo gwres allan o’r adeilad drwy’r simnai.
Roedd y gosodiad helaeth hwn yn cael ei redeg gan gyflenwad trydan wedi ei addasu’n anghyfreithlon, gyda’r pafin y tu allan i’r tŷ wedi ei gloddio er mwyn cael mynediad at y prif gyflenwad.
Arestiwyd Ismet Lika, 35 oed, ar y safle a’i gyhuddo â chynhyrchu canabis, a chyfaddefodd i hyn yn y llys. Dedfrydwyd ef i 25 mis yn y carchar oherwydd y drosedd.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl James Page: “Gweithredwyd y warant fel rhan o Ymgyrch Scotney, sef gwaith parhaus Heddlu Dyfed Powys i fynd i’r afael â ffatrïoedd canabis ar raddfa ddiwydiannol.
“Mae’r ffermydd canabis hyn yn cael eu gweithredu gan gangiau troseddu trefnedig sy’n ceisio sleifio i mewn i ardal ein heddlu. Byddwn yn parhau ein gwaith i amharu ar eu gwaith, a thynnu unrhyw un sy’n rhan o’r gweithgarwch troseddol hwn allan o’n cymunedau.”
Gallwch ddysgu mwy am Ymgyrch Scotney, gan gynnwys sut i adnabod arwyddion ffatri ganabis, yma: Ymgyrch Scotney | Heddlu Dyfed-Powys
Operation Scotney door entry
Operation Scotney Newtown plants
Operation Scotney Newtown cannabis plants 2
Operation Scotney Newtown room search
Operation Scotney Newtown warrant PD Skye
Operation Scotney Newtown arrest
Operation Scotney Newtown cannabis bags